Cyngor RCT yn amddiffyn eu record ar addysg Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dweud eu bod yn “gwbl ymrwymedig” i addysg Gymraeg, wedi i Gymdeithas yr Iaith eu cyhuddo o “adael plant y Cymoedd i lawr”.
Mae’r ymgyrchwyr iaith yn galw ar y cyngor i fynd ati ar frys i wneud yn iawn am “ddegawdau o ddiffyg gweithredu”.
Fel mae’n sefyll, mae tua 20% o blant y sir yn derbyn addysg Gymraeg, a dydy’r cyngor ddim wedi agor ysgol Gymraeg newydd ers i’r cyngor ei hun gael ei sefydlu yn 1996.
Yn ôl Cyngor Rhondda Cynon Taf, maen nhw'n “ymrwymedig” i gyrraedd y targedau sydd wedi eu gosod yn y eu Cynllun Strategaeth Addysg Gymraeg.
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2023
Mewn llythyr agored gan grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith, beirniadwyd penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton, gan ddweud bod “hawl teuluoedd i gael addysg Gymraeg ar garreg y drws wedi diflannu dros nos”.
Maen nhw hefyd yn beirniadu ymgynghoriad diweddar y cyngor ar newid cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o un ddwy-ffrwd i ysgol cyfrwng Saesneg yn unig.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am gadw'r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Dolau, a chynyddu darpariaeth Gymraeg yr ysgol gyfan dros amser fel bod holl blant yr ysgol yn cael addysg Gymraeg yn y pendraw.
Ond yn ôl y llefarydd ar ran y cyngor, mae’r ardal wedi gweld buddsoddiad “arwyddocaol” i addysg Gymraeg, sy’n “fwy na digonol” i ateb y galw.
Mae Lowri Mared yn rhiant lleol a fu’n ymgyrchu yn erbyn penderfyniad y cyngor i gau Ysgol Pont Siôn Norton.
“Mae’n siom fod y cyngor ddim yn gweld taw cam yn ôl i’r Gymraeg oedd y penderfyniad i ail-leoli ysgol Pont Siôn Norton y tu allan i gymuned gogledd Pontypridd,” meddai.
Yn ei barn hi, drwy gymryd y penderfyniad yma, mae’r cyngor yn “diystyru'r sgil-effaith ar yr iaith yn gyfan gwbl”.
“Bydd rhai plant nawr yn gorfod pasio saith ysgol Saesneg ar y ffordd i'w hysgol Gymraeg agosaf," meddai.
"Bydd ardaloedd Cilfynydd, Glyncoch ac Ynysybwl yn colli’r iaith gan fod y cyngor wedi gwneud addysg Gymraeg yn amhosib i lawer."
Mae 14 ysgol gynradd Gymraeg yn y sir, a phedair ysgol uwchradd Gymraeg; Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gyfun Garth Olwg, Ysgol Gyfun Llanhari ac Ysgol Gyfun Rhydywaun.
Yn ôl Toni Schiavone o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: “Myth yw’r stori o dwf o ran addysg Gymraeg yn y sir.
"Mae 80% o blant y sir yn cael eu haddysg yn Saesneg, a bydd eu mwyafrif llethol yn gadael yr ysgol heb fod yn hyderus yn y Gymraeg.”
Yn ei farn ef, mae diffyg twf addysg Gymraeg yn yr ardal yn “gadael plant y Cymoedd i lawr”.
Mae Mr Schiavone hefyd yn pryderu nad yw’r sefyllfa’n gwella yn sgil y penderfyniad diweddar i gau Ysgol Pont Siôn Norton ac ymgynghori nawr i droi Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol cyfrwng Saesneg.
Dywedodd fod y rhain yn “gamau gwag difrifol” sy’n “mynd â ni i’r cyfeiriad anghywir”.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i weld pob plentyn yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050.
Yn ôl gwaith ystadegol a gomisiynwyd gan y Gymdeithas, er mwyn sicrhau bod holl blant Rhondda Cynon Taf yn cael addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, byddai angen i 40.2% o ddisgyblion cynradd y sir gael addysg Gymraeg erbyn 2035.
Fel mae'n sefyll, 16% o blant cynradd y sir sydd mewn ysgol Gymraeg.
Mae’r Gymdeithas yn galw ar Gyngor Rhondda Cynon Taf i “weddnewid cynlluniau presennol” er mwyn creu twf cyflym i’r iaith Gymraeg.
Yn ôl Toni Schiavone, mae’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni yn cynnig “cyfle mawr” i’r cyngor i “ddechrau o ddifri ar y llwybr i roi’r Gymraeg i bob plentyn yn y sir”.
'Cwbl ymrwymedig'
Ond mae llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf yn pwysleisio eu bod yn "gwbl ymrwymedig" i dargedau'r llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r cyngor yn awyddus i nodi ei chyd-fuddsoddiad o £15.5m yn Nyffryn Cynon er mwyn creu adeiladau dysgu newydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ac ar gyfer estyniad "sylweddol" yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr.
Ar ben hyn, dywedodd y bydd ysgol Gymraeg "newydd sbon", Ysgol Awel Taf, yn agor yn Rhydyfelin ym mis Medi eleni yn dilyn buddsoddiad o £14m.
Mae'r cyngor yn awyddus i "barhau i flaenoriaethu addysg Gymraeg" ac yn gobeithio sicrhau buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru, meddai'r llefarydd.
Ond roedd Cymdeithas yr Iaith yn awyddus i nodi nad ysgol "newydd sbon" fydd Ysgol Awel Taf, ond un adeilad newydd yn lle dwy ysgol flaenorol, sef adran Gymraeg Ysgol Heol y Celyn ac Ysgol Pont Siôn Norton.
Ychwanegodd llefarydd fod Ysgol Pont Siôn Norton yn "cael ei chau yn wyneb gwrthwynebiad chwyrn gan rieni a'r gymuned".