Cerddwr 86 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar

Sandfields, Port TalbotFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn ardal Sandfields, Port Talbot brynhawn Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 86 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad y tu allan i Blancos yn ardal Sandfields y dref am tua 5:45 ar 7 Rhagfyr, yn dilyn adroddiadau fod cerddwr ei daro gan gar.

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty, ond daeth cadarnhad ddydd Mawrth ei fod wedi marw o'i anafiadau.

Wedi'r gwrthdrawiad fe gafodd gyrrwr 20 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad cyffuriau, gyrru heb drwydded a gyrru yn ddiofal.

Mae'r gyrrwr bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.

Mae Heddlu'r de yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig