Arestio gyrrwr wedi i gerddwr gael ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi arestio dyn 20 oed wedi i gerddwr gael ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot.
Cafodd swyddogion eu galw i ardal Sandfields yn hwyr brynhawn Sadwrn.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth wedi i gar glas Skoda Fabia daro yn erbyn dyn 86 oed y tu allan i westy Blanco's am tua 5:45 ar 7 Rhagfyr.
Cafodd y cerddwr ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae'r gyrrwr 20 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru tra'n anghymwys i wneud hynny oherwydd cyffuriau, gyrru heb drwydded a gyrru car heb gymryd gofal.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhywun welodd y ddamwain neu sydd â lluniau allai helpu eu hymchwiliad, i gysylltu â nhw.