Prif leisydd band roc The Alarm yn glir o ganser
- Cyhoeddwyd
Mae prif leisydd y band roc The Alarm yn dweud ei fod yn glir o ganser am y tro.
Ym mis Ebrill eleni cafodd Mike Peters ddiagnosis o Syndrom Richter - math peryglus o lymffoma.
O ganlyniad, bu’n rhaid iddo ganslo perfformiadau o'i daith yn Unol Daleithiau America.
Dywed Mike Peters, sy’n wreiddiol o Dyserth ei fod yn glir o ganser wedi iddo gael triniaeth therapi abrofol mewn ysbyty ym Manceinion.
Ychwanegodd bod derbyn y newyddion yn “anhygoel”.
Cafodd Peters, sydd wedi cefnogi'r bandiau U2 a Status Quo ar deithiau, ddiagnosis o fath o lewcemia pan oedd yn 36 oed.
Ychydig ddiwrnod cyn oedd e i fod i hedfan i Chicago eleni daeth o hyd i lwmp yn ei wddf.
Cafodd ei gyfeirio i ysbyty Christie ym Manceinion ar gyfer therapi newydd oedd yn y cyffur acalabrutinib. Derbyniodd driniaeth cemotherapi yno hefyd.
Er bod y cyffur eisoes wedi'i gymeradwyo ar gyfer y math yma o lymffoma, nid yw wedi'i brofi ar y cyd â chemotherapi i drin Syndrom Richter.
Mae meddygon nawr eisiau dod o hyd i roddwr addas ar gyfer trawsblaniad bôn-gelloedd. Byddai hyn, medd arbenigwyr meddygol, yn gallu helpu atal y lewcemia rhag cydio eto.
'Cefnogaeth a gweddïau rhyfeddol'
Dywedodd y canwr fod y cyfan yn "anhygoel" a'i fod yn teimlo'n "ffodus" ei fod yn glir o ganser am y tro.
"Mae angen i mi nawr gael trawsblaniad bôn-gelloedd ac os yw'n llwyddiannus, gyda chymorth anhygoel y tîm yn Christie, fy nod yw gwella o gansyr am byth," meddai.
Mae hefyd wedi canmol y "gefnogaeth ryfeddol a gweddïau" gan filoedd o gefnogwyr.
Dywedodd yr Athro Adrian Bloor, haematolegydd ymgynghorol: "Y gobaith yw y bydd y cyfuniad o’r cyffur calabrutinib gyda chemotherapi yn effeithiol wrth drin syndrom Richter a'i atal rhag dod yn ôl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022