Teyrngedau i chwaraewr a hyfforddwr clwb pêl-droed Drefach
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o bobl wedi rhoi teyrnged i chwaraewr a hyfforddwr clwb pêl-droed yn Sir Gâr, fu farw o ganser.
Fe gyhoeddodd clwb pêl-droed Drefach neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud mai Will Beynon oedd "calon ac enaid" y clwb.
Yn ystod ei driniaeth, bu'r clwb yn codi pres iddo ac i'w deulu.
Mae'r neges yn dweud fod Will wedi bod yn rhan allweddol o'r clwb "fel chwaraewr, hyfforddwr ac fel aelod o'r pwyllgor".
"Rydym wedi gweld ei ddewrder a'i gryfder wrth frwydro yn erbyn ei salwch dros y misoedd diwethaf, ac fel clwb rydym wedi torri'n calonnau wrth iddo farw.
"Mae ein colled yn fawr; mae ein galar yn ddwfn."
Dywedodd y clwb eu bod wedi canslo pob un o'u gemau ddydd Sadwrn "er parch i Will a'i deulu."
"Mae ein meddyliau i gyd yn awr yn mynd at deulu Will ar yr adeg anodd hon."
Rhannu ei brofiadau o fyw â chanser
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Maes y Gwendraeth, bu Will yn rhannu ei brofiadau yn byw â chanser ar ei gyfrif Instagram - @taithwill.
Mae'r cyfrif yn nodi iddo gael diagnosis o ganser yr esgyrn prin, Ewing Sarcoma yn 2021.
Bu'n cofnodi'r heriau wrth iddo gael sesiynau radiotherapi a cemotherapi.
Roedd yn agored iawn am ei driniaeth, ac wedi ymddangos ar Prynhawn Da ar S4C ac wedi bod yn rhan o bodlediad Mari Grug - 1 mewn 2 - oedd yn trafod yr heriau o fyw â chanser.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023