Mari Grug: 'Peidio gadael canser i gymryd popeth yn fy mywyd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gyflwynwraig Mari Grug yn dweud ei bod hi'n falch ei bod wedi siarad mor gyhoeddus am ei chanser gan ei bod wedi gallu helpu eraill.
Ers cael ei diagnosis yn 2023 mae hi wedi trafod ei chyflwr yn agored, gan gynnwys creu podlediad 1 mewn 2, a pharhau i weithio ar Heno a Prynhawn Da.
Gyda'r canser wedi dod yn ôl ers rhai misoedd, fe ddywedodd ar raglen BBC Radio Cymru Dros Frecwast ei bod wedi cadw ei gwaeledd yn gyfrinachol am gyfnod pan gafodd ei diagnosis cyntaf flwyddyn a hanner yn ôl.
'Penderfynol i barhau i weithio'
Meddai: "Ar y dechre roedd lot o sgyrsiau cudd, sgyrsiau tawel yn digwydd ond sylweddolais i yn eithaf gloi dyw e ddim byd i ddal nôl. Ma' fe'n rhywbeth ti'n mynd trwyddo fe ond hefyd mae lot o bobl arall yn mynd trwyddo fe.
"Mae e mor gyffredin a falle gyda mwy o bobl yn cael diagnosis dwi'n meddwl os dwi'n gallu helpu...
"Ro'n i'n eitha' penderfynol i beidio gadael canser i gymryd popeth yn fy mywyd - ma' fe wedi trio yn galed iawn mynd a lot o bethe. Dyna fy newis - ro'n i moyn parhau i weithio a dwi'n lwcus bod fi wedi gallu.
"Roedd hwnnw hefyd yn rheswm yn amlwg (i fod yn agored am y canser) - fi'n newid y ffordd dwi'n edrych, ma' canser yn mynd a dy wallt di ac yn newid pethe yn dy gorff di ac yn y blaen.
"Nawr wedi cael yr ymateb gan bobl - mae pobl yn cysylltu yn aml yn dweud bod gweld fi yn y gwaith neu glywed fy stori yn helpu, wel mae hwnna'n neud fi'n falch a fi'n teimlo mod i wedi neud y penderfyniad iawn i rannu fy stori.
"Hyd yn oed pobl sydd wedi cysylltu i ddweud 'Mari fi wedi ffonio am brofion o ysbyty meddygol neu fi wedi mynd i'r doctor oherwydd chdi'."
Ym mis Ebrill 2023 cafodd y gyflwynwraig ddiagnosis o ganser y fron, wedi iddi ddarganfod lwmp yn ei bron chwith, cyn cael triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.
Flwyddyn wedi'r diagnosis, datgelodd y fam o Fynachlogddu bod ei sganiau diwethaf ar yr afu yn glir o ganser cyn cyhoeddi ym mis Hydref 2024 ei bod am dderbyn triniaeth bellach gan fod y canser wedi dod yn ei ôl.
Angen arian i ymchwil canser
Roedd Mari yn siarad ar Dros Frecwast ar ôl cael ei henwi'n un o saith llysgennad Ymchwil Canser Cymru. Dywedodd ei bod yn falch o allu helpu codi proffil yr elusen.
Ychwanegodd ei bod ar hyn o bryd yn mynd drwy fath newydd o driniaeth chemotherapi ac anogodd unrhywun sydd ddim yn gwybod sut i helpu rhywun sydd efo canser i gyfrannu tuag at ymchwil gwyddonol.
Meddai: "Mae pob un isie helpu. Mae pobl isie neud rhywbeth boed yn lasagna wrth y stepen drws, pigo'r plant lan o'r ysgol ond mae lot o bobl yn teimlo 'Mari be' allwn ni neud i helpu chdi, ni'n teimlo mor helpless mewn ffordd'.
"Mae pobl yn gofyn 'allwn ni roi rhywbeth, ble allwn i roi arian Mari?' Ac mae unedau chemotherapi arbennig - fi'n cael gofal arbennig yn Glangwili, yr uned yn Llanelli - ond hefyd ymchwil.
"Dwi'n meddwl onibai am ymchwil fydden i ddim yn siarad fel hyn gyda chi bore 'ma."
Y llysgenhadon eraill ydi Miss Cymru Millie-Mae Adams, sy'n hyfforddi i fod yn feddyg, yr athletwr Jamie Baulch; y cyflwynydd Angela Jay; y cyn-chwaraewyr rygbi Philippa Tuttiett a Nigel Walker a'r entrepreneur Rob Lloyd.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2024