Ymchwiliad i 'fater hynod o ddifrifol a brys' yng Nghadeirlan Bangor

Eleni mae'n 1,500 o flynyddoedd ers i Sant Deiniol sefydlu cymuned ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn sydd wedi'i ddisgrifio gan Archesgob Cymru fel "mater hynod o ddifrifol a brys" yng Nghadeirlan Bangor.
Deallir bod y materion yn gysylltiedig â diogelu.
Fis Hydref diwethaf, fe wnaeth y Gwir Barchedicaf Andy John, sydd hefyd yn Esgob Bangor, ysgrifennu at nifer o'i gydweithwyr yng Nghadeirlan Bangor am faterion diogelu oedd wedi dod i'w sylw.
Yn y llythyr dywedodd ei fod yn credu bod y materion yn "rhai hynod o ddifrifol a brys".
Fe orchmynnodd "broses ymweld" - term yr eglwys am ymchwiliad gan ofyn i nifer o uwch swyddogion o'r Eglwys yng Nghymru i weithredu ar ei ran.
Fe wnaeth hefyd gomisiynu gwasanaethau proffesiynol y sefydliad annibynnol Thirtyone:eight sy'n arbenigo mewn materion diogelu mewn lleoliadau eglwysig.

Yn ogystal â bod yn Archesgob Cymru mae Andy John hefyd yn Esgob Bangor
Mewn datganiad ddydd Gwener dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Rydym yn cymryd diogelu o ddifrif. Pan dynnwyd pryderon at sylw Archesgob Cymru, fe gychwynnodd y broses ymweld."
Dyw manylion yr ymchwiliad ddim yn gyhoeddus.
"Wrth gwrs, mae'n hynod bwysig bod y rhai sy'n ymwneud â'r broses yn gallu cymryd rhan mewn amodau cyfrinachedd, felly ni fyddwn yn rhoi rhagor o fanylion am y materion sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd," meddai'r datganiad.
Yn wreiddiol roedd yr Archesgob wedi nodi ei fod am i'r adroddiadau ar yr ymchwiliad fod yn barod erbyn dechrau Rhagfyr ond mae datganiad ddydd Gwener yn nodi bod "gwaith y tîm ymweld yn tynnu et ei derfyn ac rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi crynodeb o'r adroddiad a'r argymhellion unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau".
"Mae ymweliad Esgob yn fath o ymchwiliad a gynhaliwyd gan esgob esgobaeth er mwyn sicrhau bod ansawdd bywyd Cristnogol a gweithdrefnau gweithredol priodol yn cael eu dilyn," ychwanega'r datganiad.
"Pwrpas yr ymweliad ag Eglwys Gadeiriol Bangor yw sicrhau bod lles ysbrydol cymuned yr Eglwys Gadeiriol yn derbyn gofal, a gwirio cydymffurfiaeth â phrosesau diogelu sefydledig.
"Gall Esgob yn bersonol gynnal ymweliad o'r fath neu ddirprwyo'r awdurdod hwn i gynrychiolwyr penodedig.
"Yn yr achos hwn, mae Archesgob Cymru, yn ei rôl fel Esgob Bangor, wedi dewis bwrw ymlaen trwy ddirprwyaeth.
"Mae'r tîm ymweld â Chadeirlan Bangor yn cynnwys: Yr Hybarch Chris Potter, cyn-Ddeon Eglwys Gadeiriol Llanelwy a chyn-Archddiacon Llanelwy, Yr Hybarch Mike Komor, cyn-Archddiacon Margam a chyn-Ddeon dros dro Eglwys Gadeiriol Llandaf, y Parchedig Ganon Dr Trish Owens, Offeiriad Cyswllt yn Esgobaeth Llanelwy, a'r sefydliad diogelu annibynnol Thirtyone:eight."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2024