Menter Môn: 'Rhai prosiectau yn y fantol heb cyllid tymor hir'

Gwirfoddolwyr yng Ngŵyl Go Go Goch eleniFfynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Llanfairpwll
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr yng Ngŵyl Go Go Goch eleni a gafodd ei chynnal yn Llanfairpwll ym mis Mai gyda chymorth Menter Môn

  • Cyhoeddwyd

Mae Menter Môn yn rhybuddio y gallai rhai prosiectau cymunedol ddod i ben a swyddi eu torri oni bai bod sicrwydd hir dymor i'w cyllid.

Yn ôl y fenter ddi-elw mi fydd y gronfa sy'n ariannu nifer o brosiectau cymunedol ar draws yr ynys yn dod i ben yn ystod y misoedd i ddod, ac er bod 'na arwydd o gymorth yn y Gyllideb ddydd Mercheer, mae'r sefyllfa'n parhau'n aneglur ac ansicr.

Yn ôl un prosiect cymunedol wnaeth elwa o gronfeydd y fenter, mae’r gefnogaeth a chyllid wedi bod yn amhrisiadwy.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am drafod camau nesaf y gronfa a ddaeth yn lle arian Ewropeaidd "gynted â phosib" gyda Llywodraeth y DU a bod bwriad "i ddatblygu model newydd, tymor hwy".

Ffynhonnell y llun, Cyngor Cymuned Llanfairpwll
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn perfformio yng Ngŵyl Go Go Goch - digwyddiad oedd â'r nod o ddod â phobl leol at ei gilydd

Mi sefydlwyd Menter Môn ym 1996 er mwyn mynd i’r afael, yn y lle cyntaf, â heriau yng nghefn gwlad yr ynys.

Erbyn hyn mae tua 80 o bobl yn gweithio i’r sefydliad sy'n cefnogi cymunedau, arwain ar brosiectau ynni adnewyddadwy ac yn hybu’r economi leol.

Tra bod sicrwydd cyllidebol i rai o’r prosiectau mwyaf, fel cynllun ynni Morlais, mae 'na boeni y bydd cyllid o gronfa SPF (Y Gronfa Ffyniant Gyffredin) Llywodraeth y DU yn dirwyn i ben.

"Ers inni adael Ewrop mae lot o'r arian yn arian tymor byr," meddai Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn.

"Efo Ewrop mi oedd 'na gynlluniau chwe mlynedd lle roeddach chi'n gallu creu cynlluniau ystyrlon efo sicrwydd, lle ar hyn o bryd 'dan ni'n dibynnu ar gronfa SPF ac ar hyn o bryd mae hwnnw'n gyfnodau o flwyddyn neu ddwy."

Disgrifiad o’r llun,

Tymor byr yw'r cyllid sydd ar gynnig ers i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, medd Dafydd Gruffydd o Fenter Môn

Yn ôl Dafydd Gruffydd mae 'na beryg os na fydd cyllid gyda sicrwydd yn eu cyrraedd y bydd yn rhaid i rai prosiectau ddod i ben a phenllanw hynny fyddai torri swyddi.

Yn ystod y Gyllideb ddydd Mercher fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid gwerth £900m i gronfeydd SPF, ond mae 'na ddryswch o hyd - a fydd hynny'n cyrraedd Cymru ac os fydd, sut?

O blith y rheini sydd wedi elwa o gronfeydd tebyg mae Cyngor Cymuned Llanfairpwll.

Ddiwedd Mai fe gynhaliwyd Gŵyl Go Go Goch, oedd yn ymgais i ddod â'r gymuned ynghyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd sicrhau arian cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau cymunedol, medd Bethan Williams o Gyngor Cymuned Llanfairpwll

"Oeddan ni'n teimlo nad oedd 'na lot o bethau cymunedol oedd yn dod â phobl o wahanol oedrannau ynghyd â lle roedd pobl yn dod at ei gilydd i wrando ar bethau yn yr iaith Gymraeg," meddai Bethan Williams o'r cyngor cymuned.

"Heb y gefnogaeth gan Menter Môn 'san ni heb wedi gallu gwneud yr ŵyl o gwbl.

"Does na'm pres cyhoeddus i fod yn gwneud pethau fel hyn, felly mae cael pres yn benodol ar gyfer pethau cymunedol wir mor bwysig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Jewell wedi elwa o gefnogaeth gan Fenter Môn

Un arall sydd wedi elwa ydy Gareth Jewell a'i wraig Nia.

Dan faner cwmni Pethau Bychain, maen nhw wrthi'n creu cyfres o fideos i'w darlledu mewn ysgolion ac i blant ifanc, i ddangos bod yr iaith Gymraeg yn fwy na iaith yr ystafell ddosbarth.

"Os 'swn i ddim wedi cael y gefnogaeth yna 'sa hyn ddim yn bodoli," meddai Mr Jewell.

"Ma'n rhaid inni alluogi bod pobl leol yn cael y pres i wneud beth maen nhw ishe ei wneud - nhw sy'n iawn, a ni sy’n iawn."

'Trafodaethau manwl gynted â phosib'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn dechrau trafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU cyn gynted â phosibl ar y camau nesaf ar gyfer cyllid pontio SPF i sicrhau bod blaenoriaethau buddsoddi yn cyd-fynd ag uchelgeisiau mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ei rannu.

"Bydd y fframwaith ariannol ar gyfer ôl-2026 yn rhan o gam 2 yr Adolygiad o Wariant fydd yn adrodd yn y gwanwyn a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a'n partneriaid yng Nghymru i ddatblygu model newydd, tymor hwy sy'n adfer datganoli ac yn dychwelyd ymreolaeth dros wneud penderfyniadau i Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y sbardunau strategol ar gyfer twf."