Morlais Môn yn 'arwain y byd yn y maes ynni môr'

Buoy amgylcheddolFfynhonnell y llun, Menter Môn Morlais
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bwi amgylcheddol yn aros yn y môr oddi ar arfordir Caergybi tan ddiwedd y flwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun ynni llanw Morlais, oddi ar arfordir Ynys Môn, yn "arwain y byd" o ran ynni morol yn ôl y datblygwyr.

Daw'r sylw wrth iddyn nhw lansio bwi monitro amgylcheddol a allai hefyd ddylanwadu ar brosiectau tebyg yn rhyngwladol.

Mae grwpiau amgylcheddol wedi codi pryderon yn y gorffennol am effaith posib y datblygiad ar fywyd gwyllt morol yn yr ardal.

Fel rhan o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, bydd y bwi yn casglu data ymchwil amgylcheddol ac yn helpu i ddiogelu bywyd gwyllt y môr wrth i dyrbinau ynni llanw gael eu defnyddio ym mharth Morlais ger Caergybi.

Bydd unrhyw ddata sy'n cael ei gasglu yn helpu i benderfynu ar ddatblygiad y prosiect yn y dyfodol, a bydd yn cael ei rannu â phrosiectau ynni llanw eraill ledled y byd.

Ffynhonnell y llun, Clare Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y bwi yn casglu data, gyda'r nod o ddiogelu bywyd gwyllt y môr

Mae'r dechnoleg casglu data ar y bwi yn cynnwys camerâu isgoch arwyneb a coch-gwyrdd-glas (RGB), yn ogystal â chamerâu RGB tanddwr a mesuriadau cyflymder gwynt.

Prif ffocws y gwaith ydy treialu dulliau casglu data gweledol yn ogystal â dadansoddi'r data sy'n cael ei gasglu o gwmpas y tyrbinau fydd yn y dŵr.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r tîm i ddysgu mwy am y bywyd gwyllt morol yn yr ardal, gan gynnwys dolffiniaid, llamhidyddion a physgod.

'Cymryd hyn gam wrth gam'

Esboniodd Dafydd Gruffydd, rheolwr gyfarwyddwr Menter Môn: "Mae'n fwi 20 metr o hyd ac mae 'na sawl sensor arno fo.

"Mae ganddon ni gamerâu sy'n tynnu lluniau uwchben y dŵr ac o dan y dŵr ac mae ganddoch chi sensors acwstig ac yn y blaen.

"Mae'n casglu data ar famaliaid môr - ar bysgod a dolffiniaid ac yn y blaen - ac mae hwnnw wedyn yn cael ei ddehongli.

"Mae hynny wedyn yn rhoi syniad i ni o sut mae'r bywyd gwyllt yn byw yn y parth yma.

"Mae hynny wedyn yn ein caniatáu ni i gymharu sut maen nhw'n byw ar hyn o bryd ac o bosib be' fyddai impact dyfeisiadau yn y môr ar eu bywyd nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Gruffydd y bydd y data yn ddefnyddiol i "ardaloedd eraill o gwmpas y byd"

Ychwanegodd bod y dechnoleg yn sicrhau bod cynllun Morlais yn "arwain y byd yn y maes ynni môr" ac y bydd y data yn ddefnyddiol i "ardaloedd eraill o gwmpas y byd sy'n datblygu cynlluniau tebyg i hyn".

"'Da ni wedi ymrwymo i warchod yr amgylchedd fan hyn," meddai.

"Felly mae hwn yn arwain y ffordd o ran monitro y sefyllfa ar hyn o bryd, ac wedyn monitro effaith dyfeisiadau sy'n mynd i'r môr."

"'Da ni'n cymryd hyn gam wrth gam, 'da ni'n gosod ychydig o ddyfeisiadau yn y môr a gweld be' ydy'r impact.

"Os ydy'r impact yn negyddol, fydd y gwaith yn stopio'n fanna, ond pan 'da ni'n hyderus bod 'na ddim impact negyddol fyddwn ni'n ymestyn y cynllun."

'Helpu hyrwyddo’r sector'

Yn ôl Clare Llywelyn, rheolwr y Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol, maen nhw'n "eitha' hyderus na fydd unrhyw niwed i fywyd morol yr ardal".

Ychwanegodd: "Mae'n gyffrous iawn.

"Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr sy'n arwain y byd - mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd o fewn y diwydiant ynni llif llanw.

"Bydd canfyddiadau y prosiect ymchwil ar gael i brosiectau ynni llif llanw tebyg yng Nghymru ac yn fyd-eang i wir helpu hyrwyddo’r sector hwn.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae diffyg tystiolaeth ar hyn o bryd o fewn y diwydiant ynni llif llanw, medd Clare Llywelyn

Ym mis Mawrth 2022, sicrhaodd prosiect Morlais £31m o gyllid fel rhan o'r grant mawr olaf gan raglen gyllido ranbarthol yr UE ar gyfer y cynllun.

Mae'n cynnwys ardal 35km sgwâr o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn.

Mae ganddo'r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan.

Unwaith y bydd yn gwbl weithredol, bydd cynllun Morlais yn gallu darparu pŵer glân ar gyfer dros 180,000 o gartrefi.

'Rhoi Ynys Môn ar y map'

Yn ôl Gareth Roberts, arweinydd gweithrediadau Morlais sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r contractwyr Jones Bros, mae'r gwaith paratoi wedi'i wneud er mwyn hwyluso pethau i ddatblygwyr yn y dyfodol.

"Fysa chi'n gallu edrych arno fo fath'a safle carafanau," esbonia Mr Roberts.

"'Da chi'n dod â'ch carafan, plygio fo mewn i'r system a wedyn 'da chi'n barod i fynd.

"'Da ni wedi mynd trwy'r broses o gael caniatâd, cael connection i'r grid, 'da ni'n ganol gwneud yr adeilad rŵan a diwedd mis Hydref 'da ni'n gobeithio bydd bob dim yn ei le.

"Fedr datblygwyr ddod, gosod eu hoffer yn y môr, rhedeg cebl yn ôl i'r adeilad ar y tir - sydd hefyd wedi'i rannu i naw rhan - lle fydd ganddyn nhw eu hoffer wedyn i allu troi eu trydan yna'n ôl i connection ni yn ôl i'r grid."

Disgrifiad o’r llun,

"O ochr ryngwladol, mae pawb yn sbïo ar hyn," medd Gareth Roberts

Mae Mr Roberts yn credu bod Morlais "yn sicr yn rhoi Ynys Môn ar y map".

Meddai: "Mae ganddon ni 240 megawat o consent - mae hynny'r un o'r mwya'n y byd.

"O ochr ryngwladol, mae pawb yn sbïo ar hyn.

"'Da ni'n gweithio'n agos efo cwmni o Sbaen - Magallanes - nhw ydy un o'r datblygwyr sy'n mynd i ddod yma yn 2026.

"Ond 'da ni wedi bod yn trafod efo datblygwyr o gwmpas y byd.

"Fel hogyn lleol, i weld Sir Fôn ar y map - ar y world stage fel maen nhw'n deud - mae o'n ffantastig."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun yn cynnwys ardal 35km sgwâr o wely’r môr ger Ynys Cybi

Bydd y bwi amgylcheddol yn aros yn y môr oddi ar arfordir Caergybi tan ddiwedd y flwyddyn.

Pan fydd y cam yma o'r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol wedi'i gwblhau, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar osod tyrbinau yn y môr yn 2026, gyda'r gwaith monitro yn parhau trwy gydol y prosiect.

Pynciau cysylltiedig