Un o 'gewri' mudiad yr Hoelion Wyth, John Y Graig, wedi marw

John y Graig
Disgrifiad o’r llun,

John Davies oedd un o'r pedwar sefydlodd gymdeithas yr Hoelion Wyth ym 1973

  • Cyhoeddwyd

Mae un o sylfaenwyr mudiad yr Hoelion Wyth wedi marw yn 99 oed.

Roedd John Davies, neu 'John y Graig', yn byw yn Aberporth ac yn un o'r pedwar sefydlodd y gymdeithas ym 1973.

Bwriad y gymdeithas, yn ôl eu gwefan, yw bod yn "fudiad Cymraeg, gwledig, werinol i ddynion y werin gyda phwyslais mawr ar hwyl ac ysgafnder a gwerinol".

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd John Jones, Cadeirydd y gymdeithas eu bod nhw'n "ffarwelio â’r hoelen loywaf yn ein Cymdeithas, un yn sicr na welwn mo’i debyg fyth eto".

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2017 cafodd plac ei osod ar gartref John y Graig i nodi ei gyfraniad wrth sefydlu yr Hoelion Wyth

Ar wefan y gymdeithas, mae dyfyniad gan y diweddar John Davies yn egluro sut aethon nhw ati i sefydlu'r mudiad.

“1973 oedd hi. Roedden ni’n meddwl fod angen rhywbeth i dynnu’r dynion at ei gilydd i gael cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai.

"Roedd Dic Jones yno rwy’n cofio. Cynigiodd Gwynfor Harries y gof yr enw Hoelion Wyth – a dyna’r gymdeithas ar ei thraed.”

Cangen John y Graig yn Aberporth oedd y cyntaf i gael ei sefydlu, ond bellach mae 'na bum cangen arall o'r Hoelion Wyth - Banc Sîon Cwilt, Wes Wes (Ardal Tŷ Ddewi), Hen-Dy-Gwyn, Beca (Efailwen) a Chors Caron.

'Yr hoelen loywaf'

Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y cadeirydd, John Jones: "Gyda thristwch y cyrhaeddodd y newyddion am farwolaeth un o gewri’r Hoelion wyth, John Y Graig, yn 99 oed.

"Roedd yn fynychwr rheolaidd yn y cyfarfodydd Cenedlaethol tan yn ddiweddar iawn. Parchwyd ei farn gadarn a’i sylwadau craff ar bob achlysur."

Yn 2017, fe osododd y gymdeithas blac ar ei gartref "am ei waith i sefydlu’r Hoelion a’i gyfraniad amhrisiadwy am flynyddoedd maith".

"O ystyried rhai o enwogion cenedlaethol ein gwlad a dderbyniodd yr anrhydedd hon, megis Caradog Jones (y dringwr), Delme Thomas (y chwaraewr rygbi) a Dai Jones (Llanilar) i enwi ond tri, mae enw John Y Graig yn gorwedd yn gysurus yn eu plith.

"Anfonwn ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu wrth i ni ffarwelio a’r hoelen loywaf yn ein Cymdeithas - un yn sicr na welwn mo’i debyg fyth eto."