Dyn 21 oed yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad honedig yn Y Trallwng

Berriew StreetFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r Trallwng am 01:00 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn yr ysbyty ar ôl ymosodiad honedig ym Mhowys dros y penwythnos.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Aberriw yn Y Trallwng am 01:00 fore Sul.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn 21 oed mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae dyn 18 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac wedi'i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae'r heddlu yn apelio i'r cyhoedd am wybodaeth.