Marwolaeth The Vivienne ddim yn amheus, meddai'r heddlu

The VivienneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth James Lee Williams - neu The Vivienne - i'r ysgol yng ngogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Does dim amgylchiadau amheus ynghylch marwolaeth y seren drag James Lee Williams - a oedd yn perfformio o dan yr enw The Vivienne - yn ôl yr heddlu.

Bu farw'r perfformiwr 32 oed, o Bae Colwyn yn wreiddiol, mewn eiddo ger Caer prynhawn Sul, meddai Heddlu Sir Gaer.

Enillodd The Vivienne y gyfres gyntaf o RuPaul's Drag Race UK yn 2019 ac aeth ymlaen i serennu ar y llwyfan ac mewn cynyrchiadau teledu.

Fe ddewisodd Williams - a aeth i Ysgol Rydal Penrhos ym Mae Colwyn - yr enw drag oherwydd ei hoffter o wisgo dillad Vivienne Westwood.

Dywedodd Ysgol Rydal Penrhos fod y newyddion yn "sioc" ac wedi dod â "thristwch mawr" i'r sefydliad.

"Roedd gyrfa lwyddiannus The Vivienne fel perfformiwr ac artist yn dod ag ysbrydoliaeth a llawenydd i gymaint o bobl," meddai'r ysgol mewn datganiad.

Mae'r rhaglen RuPaul's Drag Race wedi rhoi teyrnged i Williams, gan ddweud eu bod wedi'u "tristau'n arw" gan y newyddion.

"Roedd ei dawn, ei hiwmor a'i hymroddiad i ddrag yn ysbrydoliaeth," meddai'r sioe mewn post ar X.

Pynciau cysylltiedig