Pum darganfyddiad archaeolegol pwysicaf Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru yn wlad llawn hanes amrywiol, ac mae yna nifer o ddarganfyddiadau archaeolegol pwysig wedi cael eu gwneud yma dros y blynyddoedd.
Yn ddiweddar cafodd 'cannodd o eitemau o bwys cenedlaethol' eu datgelu wrth gloddio ger castell Rhuddlan. Mae arbenigwyr yn credu fod yr arteffactau yma yn profi fod y dref wedi bod yn un hynod bwysig fel man gorffwyso i helwyr a gwerthwyr anifeiliaid dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl.
Gofynnodd Cymru Fyw i Dr Iestyn Jones - archaeolegydd ac un o gyflwynwyr y gyfres S4C Cynefin - am rai o'r darganfyddiadau eraill arwyddocaol yng Nghymru.
Mae'n anodd dewis safleoedd hynod o bwys archaeolegol yng Nghymru. Mae yna nifer helaeth i gael a mwy yn dod i'r golwg yn achlysurol. Dyma fy newis i heddiw:
Cae cyfrinachol, Sir Benfro - Claddiad Cerbyd Rhyfel o'r Oes Haearn, (Canrif Gyntaf OC)
Roedd darganfod y cerbyd rhyfel a chaer penrhyn gerllaw yn syfrdanol. Mae'r darganfyddiad diweddar iawn yma yn unigryw yn ne Prydain heb sôn am Gymru ac, ar hyn o bryd, yn weddol gyfrinachol.
Daethpwyd o hyd i wrthrychau yn gysylltiedig â cheffylau a cherbyd rhyfel mewn cae ger nant fechan yn ne Sir Benfro.
Roedd y defnydd o haearn, efydd a chelf ar y gwrthrychau yn nodweddiadol o arddull hwyr yr Oes Haearn a thechnoleg echel y cerbyd hefyd yn dangos dylanwad Rhufeinig.
Yr unig enghreifftiau eisoes wedi eu gweld ym Mhrydain oedd yn Swydd Efrog a'r Alban, er bod y rheini yn hŷn.
Nid oedd olion corff ar y safle oherwydd bod y pridd yn rhy asidig yn y rhan yma o Gymru, ond mi roedd yna arfau wedi goroesi gyda'r cloddiad - cleddyf a phen gwaywffon, o bosib.
Fe gladdwyd y person yma fel rhyfelwr/rhyfelwraig tra bod y Rhufeiniaid wrthi'n cyrraedd ac ymladd ledled Cymru a gweddill Prydain.
Y cwestiwn mawr yw a oes mwy i'w cael yn y rhan yma o'r byd neu ydy'r safle yma yn eithriadol ac unigryw?
Ynys Môn - Cae Llys/Llys Rhosyr - Llys o oes tywysogion Gwynedd (13eg G OC)
Dyma seiliau neuadd ac adeiladau o gyfnod tywysogion Gwynedd mewn cae a alwyd Cae Llys, ger Niwbwrch, Ynys Môn - safle o bwys enfawr ac enghraifft wych o lys y tywysogion wedi ei gloddio ac ar agor i'r cyhoedd.
Er mai dim ond tua chwarter o'r safle gafodd ei ddadorchuddio yn yr 1990au, mae yna olion neuadd ac adeiladau eraill yn glir i'w gweld ar y safle hyd heddiw. Mae'n debyg fod tywod wedi gorchuddio'r safle, tua 1332, yn dilyn storm.
Mae Amgueddfa Cymru wedi ail greu'r adeiladau yn Sain Fagan yn ddiweddar gan ddefnyddio'r mesuriadau'r seiliau gwreiddiol.
Ond er mwyn profi naws y safle gwreiddiol a gwerthfawrogi graddfa a chrandrwydd posib yr adeiladau canoloesol yma, mae'n bwysig ymweld â'r ddau safle.
Dinas Powys, Bro Morgannwg - Llys o'r canol oesoedd cynnar (5ed-6ed G OC)
Er bod y safle wedi bod yn ganolfan yn ystod yr Oes Haearn, cafodd ei ddefnyddio fel Llys yn y cyfnod cythryblus yna yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid.
Wedi ei gloddio gan Leslie Alcock yn yr 1950au, fe ddaethpwyd o hyd i gasgliad anferth o wrthrychau o'r cyfnod yn ogystal â ffosydd yn gysylltiedig â neuadd ac ysgubor posib.
Roedd yna grochenwaith o ddwyrain Môr y Canoldir, Ffrainc a Sbaen a gwydr Germanaidd o ddwyrain Lloegr, yn ogystal â thlysau gyda dylanwad Gwyddelig.
Mae'n debyg iawn mai canolfan uchelwr pwysig gyda chysylltiadau masnach eang oedd yma.
Roedd yna dystiolaeth ei fod wedi rheoli'r tiroedd cyfagos ac wedi gwledda ar gynnyrch ei diriogaeth, yn ogystal ag yfed a defnyddio gwinoedd ac olew egsotig o'r dwyrain yn y neuadd.
Dyma un o safleoedd archaeolegol pwysicaf y cyfnod ar yr ynysoedd yma.
Casnewydd, Gwent - Llong Ganoloesol (15fed G OC)
Rhan o long ganoloesol a ddarganfuwyd ym mwd yr afon Wysg yng Nghasnewydd, Gwent yn 2002. Mae'r llong, a oedd yn wreiddiol tua 35m o hyd, wedi cael ei symud erbyn hyn fel bod y pren yn cael ei drin ac arddangosfa arbennig yn cael ei baratoi.
Roedd y llong, yn wreiddiol o ardal San Sebastian (gwlad y Basg), ond wedi cael ei thrwsio sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd. Roedd wrthi yn cael ei thrwsio yng Nghasnewydd pan benderfynwyd peidio parhau, a chafodd y llong ei gadael i orwedd wrth ochr yr afon.
Roedd y gwrthrychau o fewn y gweddillion, yn cynnwys arian a chrochenwaith, yn awgrymu ei bod wedi dod o Bortiwgal i Gasnewydd.
Mae'n dystiolaeth o fasnach eang ar hyd arfordiroedd y Môr Iwerydd ac i fyny'r Hafren yn ystod y canol oesoedd.
Ogof Pontnewydd - Olion Neanderthaliaid (tua 230 o filoedd o flynyddoedd CC)
Ger yr afon Elwy, yn Sir Ddinbych, mae ogof Pontnewydd ar ochr clogwyn o galchfaen wedi ei guddio yn y coed. Mae yna naws arbennig o hynafol i'r lle fel sydd i'w gael ger ogofâu hynafol Sbaen a Ffrainc.
Yn dilyn gwaith cloddio yna yn yr 1970au fe ddaethpwyd o hyd i ddant a rhan o ên bachgen ifanc Neanderthal yn ogystal â nifer o ddannedd eraill yn perthyn i bum unigolyn.
Dyma un o'r ychydig enghreifftiau o olion Neanderthal ym Mhrydain, heblaw am yn Swanscombe.
Roedd nifer o gerrig yma hefyd wedi eu haddasu fel offer paratoi crwyn a thorri cig. Mae'n bosib fod y safle wedi bod yn lloches gyfarwydd i grŵp o helwyr Neanderthal yn ystod cyfnod llai oer wrth edrych am fwyd.
Mae'r ogof ar dir preifat ac ar gau i'r cyhoedd gan amlaf ond o bwys rhyngwladol i archaeolegwyr sy'n arbenigo yn y cyfnod yma.
Hefyd o ddiddordeb: