'Dim refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf Plaid Cymru'

Mae angen "ailgynllunio'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn" meddai Rhun ap Iorwerth
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi diystyru cynnal refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth dan arweiniad y blaid.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth bodlediad y BBC mai ei flaenoriaethau fyddai iechyd, addysg a'r economi.
Gyda blwyddyn i fynd cyn yr etholiad, mae arolwg barn wedi awgrymu bod Plaid Cymru a Reform UK ar y blaen i Lafur gyda phleidleiswyr yng Nghymru.
O dan yr arweinydd blaenorol Adam Price roedd Plaid Cymru wedi addo refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd, addewid a ollyngwyd gan Rhun ap Iorwerth.
'Argyhoeddi pobl'
Wrth siarad â Walescast, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Y flaenoriaeth yw Cymru, a mynd i'r afael â'r holl faterion hynny sy'n bwysig i bobl, ar iechyd ac addysg, tyfu'r economi. Mynd i'r afael â thlodi plant.
"Rwy'n argyhoeddedig mai'r unig ffordd y byddwn yn rhyddhau ein potensial go iawn yw ailgynllunio'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn.
"Fy swydd i yw argyhoeddi pobl i ymgysylltu â'r drafodaeth honno."
Dywedodd fod y comisiwn ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru wedi galw annibyniaeth yn opsiwn hyfyw: "Rwyf am ddweud, o lywodraeth, gadewch i ni ateb mwy o'r cwestiynau hynny ynglŷn â'r hyn y byddai'n ei olygu."
Wrth gael ei holi a fyddai'n cynnal refferendwm mewn llywodraeth dan arweiniad Plaid Cymru, ychwanegodd: "Yn y tymor Senedd cyntaf hwnnw, wrth gwrs ddim."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd18 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2021
Mewn cyfweliad yn fuan ar ôl iddo ddod yn arweinydd yn haf 2023, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd yn rhaid i bleidleiswyr fod wedi "ymrwymo'n llwyr i annibyniaeth" i gefnogi'r blaid.
Gwnaeth Adam Price annibyniaeth yn rhan allweddol o'i ymgyrch etholiadol i'r Senedd yn 2021, gan addo cynnal refferendwm annibyniaeth o fewn pum mlynedd.
Dyna oedd y tro cyntaf mewn etholiad i'r Senedd i'r blaid wneud addewid clir ar y mater.
Ddydd Mawrth fe wnaeth arolwg barn newydd awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Mae'r arolwg a gyhoeddwyd gan ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18% - yr isaf i Lafur mewn unrhyw arolwg barn ar gofnod yng Nghymru.
Roedd y Ceidwadwyr ar 13%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 7%, a'r Gwyrddion ar 5%.
Mae'n annhebygol y byddai unrhyw blaid yn gallu ffurfio llywodraeth ar eu pen eu hunain, a Phlaid Cymru yw'r unig blaid o blaid annibyniaeth yn y Senedd ar hyn o bryd.