'Roedd o'n sbeshal': Sgorio gôl fuddugol ar ôl nam ar y galon

Cai Penny Williams yn yr ysbyty a gyda tlws pel-droedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

(chwith) Cai Penny Williams yn yr ysbyty, a (dde - yn y canol) gyda'i gyd-chwaraewyr ar ôl ennill Cwpan Cynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru - Gorllewin

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr o Wynedd yn dathlu wedi iddo sicrhau buddugoliaeth bwysig i dîm Y Bontnewydd wythnosau wedi iddo ailddechrau chwarae wedi nam ar ei galon.

Bedair blynedd yn ôl roedd Cai Penny Williams, sydd nawr yn 22 oed, yn chwaraewr ifanc addawol oedd yn gwneud ei farc yng ngogledd Cymru.

Dechreuodd chwarae gyda Chlwb Pêl-droed Bontnewydd pan oedd yn chwech oed, ac roedd yn y tîm cyntaf erbyn iddo fod yn 16.

Ffynhonnell y llun, Lluniau cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Clwb cymunedol: Cai gyda Bontnewydd pan yn blentyn, ac ar ôl ennill y gwpan gyda'i gyd-chwaraewyr yn dal baner i gofio aelod fu farw mewn damwain llynedd

Ar ôl sgorio 12 gôl mewn pum gêm pan oedd yn 17 oed fe symudodd i glwb Llangefni er mwyn chwarae mewn cynghrair uwch.

Ond o fewn dim fe gafodd ei daro'n wael a phrofion yn yr ysbyty yn dangos bod ganddo gyflwr calon cardiomyopathi oedd yn golygu nad oedd y galon yn pwmpio digon o waed o gwmpas y corff.

Eglurodd mewn sgwrs ar raglen BBC Radio Cymru Ar y Marc:

“Achos o’n i mor ifanc – 18 – o’n i’n meddwl fydd o ddim byd mawr, fyddai’n ocê. Ond 'nath hynny i gyd newid pan nesh i glywed y doctor yn deud bod fi’n high risk o sudden death os faswn i wedi cario 'mlaen i chwarae pêl-droed.

“Adeg yna 'nath o gyd newid ac roedd o’n quite emotional… o'n i ddim yn meddwl faswn i’n chwarae byth eto. 'Nath hynny effeithio iechyd meddwl fi lot a physical hefyd achos do’n i ddim yn cael neud dim byd strenuous.”

Tom Lockyer a Christian Eriksen

Mae pêl-droedwyr gyda chyflyrau calon wedi bod yn y newyddion sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, yn cynnwys amddiffynnwr Cymru Tom Lockyer.

Fe gafodd ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton yn erbyn Bournemouth yn Uwch-gynghrair Lloegr fis Rhagfyr y llynedd - yr eildro i hynny ddigwydd o fewn saith mis.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tom Lockyer wedi cael gosod diffibriliwr bychan ers ei anffawd. Er ei fod wedi rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed am y tro, dydi o heb wneud penderfyniad terfynol eto

Ac roedd Cai mewn sioc pan gafodd Christian Eriksen ataliad ar y galon mewn gêm yn Euro 2020.

"Hynna 'nath ddychryn fi hefyd yn gwatshiad yr Euros. Pan 'nath o ddigwydd i Christian Erikesen adeg yna nesh i deimlo 'wow fasa hynny’n gallu digwydd i fi'.

"Roedd hynny yn un o’r pwyntiau pan nesh i feddwl rhaid i fi gymryd brêc o chwaraeon."

Mae Christian Eriksen, ar ôl derbyn triniaeth a chyfnod i ffwrdd o'r gêm, bellach yn chwarae i Manchester United - y tîm mae Cai yn ei gefnogi.

Anodd peidio chwarae

Ar adegau fe geisiodd Cai barhau i fod yn rhan o'r gêm drwy ymuno mewn sesiynau hyfforddi am gyfnodau byr a pheidio gwneud gormod.

Ond gyda phrofion blynyddol yn dangos nad oedd y cyflwr calon wedi gwella roedd yn bryderus a phenderfynodd roi'r gorau iddi.

Meddai: “Roedd o’n anodd gweld ffrindiau i gyd yn chwarae a tîm Bont yn 'neud mor dda a do’n i methu ymuno.

"Ond yn lwcus, tua dechra' blwyddyn yma, gesh i appointment efo’r doctor a’r hapusrwydd yna pan nesh i glywed (fo'n) deud 'ma’r galon wedi mynd nôl i normal' a bod y tabledi wedi helpu a bod fi’n cael mynd nôl i fynd i’r gym a chwarae pêl-droed!"

Felly fe aeth yn ôl i glwb Bontnewydd ac ailddechrau'n raddol - fel eilydd i'r ail dîm, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc i'r tîm cyntaf ddiwedd Ebrill.

Arwr y gêm

Yna, wrth i'r tymor ddirwyn i ben, fe gyrhaeddodd ei foment fawr.

Rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru - Gorllewin, ar 4 Mai. Bontnewydd yn erbyn Bodedern a Cai wedi dod ymlaen fel eilydd yn ei ail gêm i'r tîm cyntaf ers ailddechrau chwarae.

Gyda dim ond pum munud yn weddill a’r sgôr yn 1-1, fe sgoriodd beniad i sicrhau buddugoliaeth.

“Y teimlad yna pan nesh i sgorio'r winner yn y semi-final... oedd o’n rwbath sbeshal - what dreams are made of," meddai Cai. "Dod yn ôl a sgorio i guro gêm. Faswn i’n gallu byw hynna eto ac eto."

A phedwar diwrnod yn ddiweddarach aeth yn ei flaen i helpu ei dîm guro Gaerwen yn y rownd derfynol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu ar ôl curo Gaerwen 5-3 yn ffeinal Cwpan y Gynghrair ym Mae Cemaes

Mae Cai erbyn hyn yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyflyrau calon.

Oherwydd y sylw sydd wedi codi yn sgil chwaraewyr enwog yn cael trafferthion tebyg, mae'n teimlo bod y gofal i chwaraewyr ar bob lefel wedi gwella ers iddo fo orfod rhoi'r gorau iddi.

Meddai: "Adeg yna doedd 'na ddim lot o glybiau football rownd fama, ar grassroots level eniwe, efo defibrillator na dim byd fel yna.

"Ers Covid dwi’n teimlo bod petha' wedi gwella ac mae mwy o defibrillators mewn caeau lleol - sy’n bwysig iawn."

Pynciau cysylltiedig