'Ges i ddim rhybudd o gwbl': Cyflwr calon cudd bron â lladd pennaeth ysgol
- Cyhoeddwyd
Un diwrnod roedd Llŷr Rees yn paratoi i gystadlu mewn cystadlaethau treiathlon; y diwrnod canlynol roedd ar y ffordd i Lerpwl mewn ambiwlans gan wybod bod siawns uchel na fyddai'n gweld diwedd y daith.
Cafodd y gŵr 50 oed o Ynys Môn ei ruthro o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Broadgreen ar ôl i'w ferch bedair oed ddod o hyd iddo yn anymwybodol ar lawr eu hystafell fyw.
Roedd yn sioc iddo fo a phawb sy'n ei adnabod oherwydd ei fod yn cadw ei hun mor heini.
"Ges i ddim rhybydd o gwbl, ro'n i wedi rhedeg 10 milltir y diwrnod cynt ac yn teimlo'n hollol iawn heb ddim math o boen na dim," meddai Llŷr wrth Cymru Fyw.
"Ond be' sy'n od ydi am tua mis cyn iddo ddigwydd ro'n i'n cael y teimlad bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd - a dwi ddim y math o berson i feddwl pethau fel hynny o gwbl, ond bob tro o'n i'n mynd allan i redeg neu ar y beic ro'n i'n meddwl 'gobeithio 'neith ddim byd ddigwydd heddiw'. Fel petai rhyw fath o chweched synnwyr."
Un nos Sul, ddechrau Hydref diwethaf, fe deimlodd rhywbeth yn rhoi yn ei frest ac aeth yn anymwybodol am gyfnod. Ei ferch Catrin ddaeth o hyd iddo cyn rhoi gwybod i'w mam, a alwodd am barafeddygon. Oni bai eu bod nhw gartref ar y pryd, fyddai Llŷr heb oroesi.
Erbyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, roedd yn effro ond methu codi oherwydd pwysau gwaed isel iawn.
Roedd ganddo aniwrysm a rhwyg aortig yn ei galon, cyflwr prin ond peryglus iawn oedd angen ei drin ar frys gan arbenigwyr yn Lerpwl. Cafodd wybod yn ddiweddarach gan y llawfeddyg fod yr arwydd cyntaf o'r cyflwr fel arfer yn cael ei ganfod mewn awtopsi.
Meddwl am ei ferch
Dywedodd Llŷr, sy'n bennaeth Ysgol Bontnewydd, Caernarfon: "Wnaethon nhw alw fy mhartner i mewn i ngweld i er bod hi'n gyfnod Covid, er mwyn ffarwelio achos doedden nhw ddim yn meddwl y byddwn i'n dod drwodd.
"Do'n i ddim yn panicio. Dwi'n cofio meddwl 'pam fi?' a meddwl am ddau beth. Dwi'n cofio meddwl am Catrin y ferch, a meddwl wna i byth weld hi eto.
"Pedair oed oedd hi ar y pryd a dwi'n cofio meddwl mai mond pedair blynedd dwi wedi cael efo hi a cha' i ddim mwy. Nes i golli fy nhad yn 12 oed a dwi wedi colli allan ar lot o bethau fyddwn i wedi gallu gwneud efo fo dros y blynyddoedd a dwi'n cofio meddwl dwi ddim eisiau hynny i fy merch i.
"Hefyd dwi'n bennaeth yn Ysgol Bontnewydd a dwi wrth fy modd efo 'ngwaith a nes i feddwl 'dwi byth yn mynd i gael mynd i'r lle eto a gweld yr hen blantos'."
Ond fe achubwyd ei fywyd diolch i driniaeth 12 awr.
Ar ôl 10 diwrnod o ofal yn Lerpwl roedd cyfnod hir o adfer o'i flaen.
"Dwi erioed wedi bod mor wan," meddai. "Ro'n i'n trio cerdded fyny grisiau ond yn gorfod defnyddio fy nwy law, a dim ond yn gallu cerdded at y giât yng ngwaelod yr ardd.
"Ges i gwpl o bobl ddaeth i'n ngweld i, yn yr ardd oherwydd Covid, a fyddwn i'n gweld eu hwynebau nhw'n disgyn - doeddan nhw ddim yn trio, ond roeddat ti'n gallu gweld bod nhw wedi dychryn. Ro'n i'n arfer bod yn reit gyhyrog ac yn ffit ond ro'n i fel sgerbwd.
"Yn feddyliol dwi'n reit benderfynol ac mae wedi cymryd bob owns o benderfynolrwydd gen i i ddod 'nôl."
Ers deufis mae o yn ôl yn gweithio llawn amser, a'r croeso a'r gefnogaeth yn help mawr i'w adferiad.
"Roedd o'n anhygoel - ro'n i'n teimlo fel celebrity, efo'r plant a'r athrawon mor groesawgar. Roedd hyd yn oed y plant bach doeddwn i heb gael cyfle i ddod i'w 'nabod nhw yn dod ata i i ddweud eu bod nhw wedi'n methu i."
Mae o nawr yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'r gwasanaeth iechyd achubodd ei fywyd, ac yn annog pobl i gefnogi ymgyrch Elusen GIG Gogledd Cymru Awyr Las a digwyddiad Te Mawr y GIG sydd para trwy gydol mis Gorffennaf.
Mae Llŷr hefyd yn cefnogi'r ymgyrch gasglu arian tuag at gerbyd sganio cardiaidd fydd yn caniatáu i glinigwyr wneud diagnosis a pherfformio asesiadau ar gleifion o bell mewn cymunedau gwledig.
Beicio a rhedeg eto
A'r ffitrwydd? Yn araf bach, ac ar gyngor meddygol, mae'n dod yn ôl iddi. Mae o wedi rhedeg "ambell i 5k" ac wedi llwyddo i fynd am 40 cilomedr ar feic, gyda'r syniad o wneud treiathlon arall rhywbryd yn y dyfodol.
"Dwi wedi prynu beic newydd ac yn mwynhau mynd arno - ac yn gwerthfawrogi natur a'r golygfeydd, ond dwi yn nerfus yn enwedig efo rhedeg," meddai.
"Cyn i fi fynd allan dwi yn meddwl 'ydw i rili eisiau gwneud hyn?', ond mae'n bwysig bod yn ffit felly dwi wedyn yn meddwl 'ydw i'n gallu fforddio peidio gwneud hyn?'"
Hefyd o ddiddordeb: