'Hanfodol nad yw Maes Awyr Caerdydd yn dibynnu ar deithwyr yn unig'

cargoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr hediadau gan European Cargo yw’r gwasanaeth nwyddau rheolaidd cyntaf ers 2010 ym Maes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae’n "hanfodol bwysig" bod Maes Awyr Caerdydd yn gwneud arian o ffynonellau newydd, a pheidio dibynnu yn unig ar incwm gan deithwyr, yn ôl y prif weithredwr.

Roedd Spencer Birns yn siarad â BBC Cymru ar ôl lansio gwasanaeth cargo newydd rhwng de Cymru a China.

Yr hediadau gan European Cargo yw’r gwasanaeth nwyddau rheolaidd cyntaf ers 2010 ym Maes Awyr Caerdydd.

Dywedodd Mr Birns ei fod yn parhau i geisio cynyddu nifer y teithwyr, a'i fod dal am ailddechrau gwasanaeth Qatar Airways i Doha.

Mae European Cargo yn gwmni Prydeinig sydd eisioes yn hedfan o Bournemouth.

Mae'r cwmni yn hedfan deirgwaith yr wythnos o Gaerdydd a'r nod yw cynyddu i bedair taith yn y dyfodol.

"Mae'n newyddion gwych," meddai Mr Birns. “Mae’n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno ers amser hir, yn ceisio sicrhau gwasanaethau cargo rheolaidd.

"Y tro diwethaf i ni gael hynny oedd 2010, felly mae cael cwmni newydd i gludo nwyddau yn wych."

"Mae’n wych i Gymru, mae’n wych i’r economi, ac mae’n wych i’r maes awyr."

Mae nifer y teithwyr sy'n defnyddio Maes Awyr Caerdydd tua hanner y cyfanswm oedd yn defnyddio'r maes awyr cyn y pandemig ac mae’r tîm rheoli wedi gorfod canolbwyntio ar ddenu mathau eraill o incwm.

Dywedodd Mr Birns fod hediadau cargo yn "ran fawr o’r strategaeth arallgyfeirio".

Mae hefyd yn cynnwys gweithgareddau hyfforddi ar y safle, yn ogystal â chynnal gweithrediadau cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd a maes awyr Sain Tathan gerllaw, sydd hefyd yn cael ei weithredu gan dîm rheoli Maes Awyr Caerdydd.

Mae gan British Airways hefyd adran cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd, ac mae’r rheolwyr yn honni bod tua 4,000 o swyddi’n cael eu "cefnogi" gan weithrediadau’r maes awyr ar draws y ddau safle.

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi £206m ychwanegol o arian cyhoeddus yn y maes awyr dros y deng mlynedd nesaf.

Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu’r buddsoddiad newydd, a gwariant ariannol hir-dymor y llywodraeth ar weithrediadau’r maes awyr.

Dywedodd Mr Birns nad oedd ef am “gymryd rhan yn y wleidyddiaeth” ond ei rôl oedd i redeg y busnes “y gorau ag y gallwn i’r perchnogion. A’r perchnogion, yn yr achos hwn, yw Cymru. Llywodraeth Cymru".

Dywedodd nad yw busnesau eraill yn y diwydiant hedfan yn talu sylw i’r “microcosm” gwleidyddol.

“Maen nhw’n gweld y ffaith ein bod ni’n eiddo i lywodraeth fel budd,” meddai.

Dywedodd Mr Birns fod 98% o feysydd awyr y byd "yn eiddo i'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu" a bod model perchnogaeth Caerdydd yn gyffredin.

“Rydyn ni'n mynd i gyfarfod gyda chwmni hedfan ac maen nhw'n dweud, pwy yw eich cyfranddaliwr? Beth yw'r gefnogaeth? Beth yw’r strategaeth tymor hir?”

Dywedodd Mr Birns fod strategaeth ddeng mlynedd gyda buddsoddiad y llywodraeth yn golygu bod cwmnïau hedfan yn “awyddus i siarad am fuddsoddiad pellach” yng Nghymru.

“Mae’r byd allanol, rhyngwladol, byd-eang yn [ein gweld] llawer cryfach trwy fod yn y sefyllfa yna,” ychwanegodd Mr Birns.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er bod rhai llwybrau hedfan wedi’u hychwanegu at fyrddau ymadael Maes Awyr Caerdydd, nid yw pob ymdrech i gynyddu’r opsiynau i deithwyr wedi gweithio.

Daeth Wizz Air â’u hediadau o Gaerdydd i ben, a daeth yr unig hediad uniongyrchol i Baris i ben ym mis Mawrth 2024.

Mae gobaith o hyd y gallai gwasanaeth Qatar Airways ailddechrau, a oedd yn cysylltu Caerdydd â’r ganolfan ryngwladol yn Doha. Dyw’r awyrennau ddim wedi hedfan ers dechrau’r pandemig.

Dywedodd Spencer Birns ei fod yn “annog y cwmni i ailgychwyn y gwasanaethau cyn gynted â phosib".

"Rydyn ni’n dal i fod mewn trafodaethau masnachol gyda’r cwmni, a’n gobaith ni yw y byddan nhw’n ailgychwyn.”

Pynciau cysylltiedig