Camgymeriad 'trychinebus' wedi arwain at farwolaeth athletwraig

Roedd Rebecca Comins wedi cynrychioli Cymru a Phrydain mewn cystadlaethau triathlon
- Cyhoeddwyd
Bu farw athletwraig ac aelod o dîm Prydain yn sgil "camgymeriad trychinebus" gan yrrwr fan wnaeth geisio ei phasio wrth iddi seiclo ar y ffordd.
Roedd Rebecca Comins, 52, yn seiclo ar yr A40 ger Rhaglan, Sir Fynwy, pan gafodd ei tharo gan fan a oedd yn cael ei yrru gan Vasile Barbu.
Dywedodd Barbu, 49, ei fod wedi ei gweld, ond nad oedd yn gwybod pam ei fod wedi ei tharo, gan ddweud y byddai'n gofyn y cwestiwn hwnnw "am weddill ei oes".
Er iddo wadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, cafwyd yn euog a'i garcharu am bedair blynedd, ar ôl i ymchwiliad heddlu gafodd ei ffilmio gan raglen The Crash Detectives ar y BBC ganfod y byddai wedi gallu ei gweld am 18 eiliad.
Roedd Ms Comins yn cael ei disgrifio fel "cystadleuydd brwd" gan Triathlon Cymru, ac fe wnaeth yr ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig, Sarjant Cath Raine ddweud ei bod "yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fod yn ddiogel".
"Mae beiciwr diniwed wedi colli ei bywyd o ganlyniad i'r camgymeriad."

Fe ddigwyddodd y digwyddiad ar nos Iau braf ym Mehefin 2022.
Roedd criw o seiclwyr wedi bod yn aros yn eiddgar am eu tro i gymryd rhan mewn her amseru, neu time trial - rhywbeth yr oedden nhw'n ei wneud yn rheolaidd.
Yr her oedd seiclo 10 milltir, mor sydyn â phosib, ar ffordd ddeuol gwastad a syth.
Roedd Ms Comins yn reidio beic Argon 18 TT, sydd wedi ei ddylunio yn arbennig ar gyfer y math yma o ras.
Fe wisgodd helmed dywyll a dillad glas tywyll, ac roedd ganddi rif ras oren llachar ar ei chefn.
Fe gyrhaeddodd gyflymder yn agos at 30mya.

Dywedodd Vasile Barbu wrth yr heddlu nad oedd yn gallu esbonio sut wnaeth o daro Ms Comins
Roedd Barbu wedi gadael ei gartref yn Y Fenni ac yn gyrru ei fan Vauxhal Movano ar yr un lôn.
Mewn cyfweliad yn fuan wedi iddo gael ei arestio, dywedodd Barbu wrth yr heddlu ei fod wedi gweld seiclwyr wedi ymgynnull mewn cilfan, wrth iddo yrru rhwng 60 a 65mya.
Roedd yn honni fod y fan yn drwm ac nad oedd modd iddo fynd yn gynt na hynny, hyd yn oed pe bai eisiau.
Fe wnaeth archwiliad ganfod fod y fan yn llawn dodrefn, a'i fod hanner tunnell yn fwy na'r pwysau sy'n cael ei ganiatáu.
Dywedodd ei fod yn cofio gweld seiclwyr yn teithio ar y lôn o'i flaen, a'i fod wedi gwirio ei ddrychau a symud y fan o'r lôn gyntaf i'r ail i roi lle iddyn nhw wrth iddo fynd heibio.
Wrth iddo agosáu at Ms Comins, dywedodd wrth swyddogion ei fod yn cofio'r golau coch ar gefn ei beic. Roedd y golau coch yn fflachio yn anghyson.

Ers y gwrthdrawiad, mae'r cyfyngiadau wrth geisio pasio beic ar y ffordd wedi cael eu haddasu
Fe wnaeth Barbu gychwyn ceisio ei phasio pan yr oedd dau fetr y tu ôl iddi.
"Fe glywais i gnoc," meddai.
I ddechrau roedd Barbu yn meddwl fod cynnwys y fan wedi symud, ond ar ôl iddo barcio a dod allan o'r cerbyd fe sylweddolodd fod golau ar ochr y fan wedi torri.
Gwelodd feic wedi ei ddifrodi a Ms Comins wedi'i hanafu ar y gwair gerllaw, ac fe ffoniodd 999.
Roedd data o'r cyfrifiadur yr oedd Ms Comins yn ei ddefnyddio i gadw cofnod o'i thaith, yn nodi ei bod yn teithio ar gyflymder o 21mya pan gafodd ei tharo.
Fe wnaeth Sarjant Raine ddarganfod marc fertigol ar flaen fan Barbu, ac roedd hyn yn profi ei fod yn teithio y tu ôl i'r beic pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Gyda'r gyrrwr yn methu rhoi esboniad credadwy, fe aeth swyddogion â'r un math o fan yn ôl i'r lleoliad i olrhain ei lwybr.
Dangosodd y gwaith hwnnw y byddai Barbu wedi gallu gweld o leiaf 500m o'i flaen, gyda'r haul yn machlud y tu ôl iddo.
Ar gyflymder o 60mya, roedd hyn yn golygu y gallai Ms Comins fod wedi bod yn weladwy iddo am 18.5 eiliad - neu hyd yn oed yn hirach gan ei bod yn teithio fyny allt ar y pryd.
Newid i reolau'r ffordd fawr
Cafodd Barbu ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y barnwr: "Fe elli di fod wedi symud i'r lôn allanol yn hawdd er mwyn mynd heibio, fel oedd y gyrwyr eraill wedi gwneud.
"Fe elli di, ac fe ddylet ti wedi, rhoi llawer mwy o le iddi a mwy o amser i dy hun."
Fe ddisgrifiodd y digwyddiad fel "penderfyniad trychinebus i basio funud olaf".
Ers y gwrthdrawiad, mae rheoliadau newydd am sut i basio seiclwyr wedi eu cynnwys yn Rheolau'r Ffordd Fawr.
Mae'n dweud bod angen gadael hyd at 1.5m pan yn teithio ar gyflymder o hyd at 30mya.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl