Arestio dyn wedi ymosodiad honedig mewn ysgol

Ysgol Gatholig St Joseph'sFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gatholig St Joseph's fore Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl digwyddiad mewn ysgol ddydd Mercher.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot, am 09:50.

Cafodd dyn 51 oed ei gludo i'r ysbyty, ond y gred yw nad yw ei anafiadau yn rhai difrifol.

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot nad oedd unrhyw ddisgyblion yn rhan o'r digwyddiad.

"Diogelwch a lles ein myfyrwyr a'n staff yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn gweithio gyda'r ysgol i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei darparu i bawb sydd wedi'u heffeithio," meddai'r cyngor, gan ychwanegu bod yr heddlu'n ymchwilio i'r mater.