Cyfnewid offer a mannau gwefru ymysg addewidion gwyrdd CBDC

FAW
  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun cyfnewid citiau a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn clybiau ymysg y camau mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n eu haddo i geisio bod yn fwy cynaliadwy.

Mae CBDC yn ceisio arwain y ffordd drwy gyflwyno mesurau cynaliadwy drwy strategaeth ‘Cymru, llesiant a’r byd’.

Yn ogystal â sefydlu cynlluniau cyfnewid citiau ac offer pêl-droed, bydd cronfa yn cael ei greu er mwyn gosod pwyntiau gwefru trydan mewn clybiau.

Mi fydd y gymdeithas hefyd yn edrych ar ddefnyddio pecynnau bwyd lleol, di-blastig, wedi eu gwneud o blanhigion.

I’w helpu i weithredu’r cynllun newydd, mae CBDC wedi penodi cynghorydd cynaliadwyedd.

Sophie Howe, cyn-gomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, fydd yn cymryd y rôl honno.

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Disgrifiad o’r llun,

Sophie Howe, cyn-gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fydd yn cynghori ac yn arwain ar faterion cynaliadwyedd

Dywedodd: “Nod Cymru yw bod ar flaen y gad ar y cae ac oddi arno.

"Edrychaf ymlaen at weithio fel Cynghorydd Cynaliadwyedd i wneud Cymru’r gymdeithas chwaraeon fwyaf cynaliadwy yn y byd.”

Bwriad y gymdeithas yw datblygu'r byd pêl-droed yng Nghymru ar draws saith maes: tîm, iechyd, strwythurau, cyfleusterau, partneriaethau, datgarboneiddio a chroeso.

Fe fydd prosesau caffael yn cael eu hadolygu a bydd clybiau a chynghreiriau’n cael eu gefeillio ag eraill ar draws y byd i ddysgu a rhannu.

Bydd cynllun peilot yn sefydlu canolfan llesiant pêl-droed o fewn bwrdd iechyd hefyd er mwyn darparu gwasanaethau clinigol a gofal cymdeithasol, gofal iechyd meddwl a llesiant, cyn ei gyflwyno dros y wlad.

Mae bwriad hefyd i edrych ar ffurfiau gwahanol o bêl-droed er mwyn annog a'i gwneud yn haws i bawb i chwarae’r gamp.

Dywedodd cadeirydd CBDC, Alys Carlton: “Rôl Sophie fydd cadeirio’r panel cynghori sy’n dod â nifer o bobl gydag amrywiaeth o arbenigedd ynghyd, i’n cynghori ar arfer gorau a datblygiadau arloesol o ran cynaliadwyedd.”