Cymdeithas Bêl-droed Cymru: Mwy o lais i gêm y menywod a chlybiau llai

  • Cyhoeddwyd
CBDCFfynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn gyfrifol am bob agwedd o'r gêm yng Nghymru.

Rhoi mwy o lais i gêm y menywod a chlybiau ar lawr gwlad yw nod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth gyflwyno newidiadau i'r drefn arferol o ethol cynrychiolwyr i'r cyngor.

Mae'r enwebiadau'n cau ddydd Mercher, a'r gobaith yw perswadio mwy o bobl o wahanol gefndiroedd i ymgeisio.

Yn benodol, bwriad y newidiadau yw sicrhau gwell cynrychiolaeth o fenywod a chlybiau llawr gwlad ymysg y rhai sy'n gwneud y penderfyniadau.

Yn ôl prif weithredwr Chwaraeon Cymru, mae hyn yn waith sydd angen ei wneud ar draws y campau.

Newidiadau strwythurol

O'r timau cenedlaethol i rai o sêr y dyfodol, mae'r gymdeithas bêl-droed yn gyfrifol am bob agwedd o'r gêm yng Nghymru.

Ac mae gan aelodau'r cyngor rôl flaenllaw yn hyrwyddo a datblygu'r gêm, wrth iddynt gael eu hethol bob pedair blynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogrwydd gêm y merched wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf

Eleni mae newidiadau wedi'u cyflwyno, gyda'r bwriad o sicrhau gwell cynrychiolaeth o blith menywod a chlybiau ar lawr gwlad.

Yn sgil argymhellion adolygiad annibynnol, lle gynt roedd 13 aelod yn cynrychioli haen uchaf gêm y dynion, un ar ran y menywod a chwe chynrychiolydd o blith y clybiau ar lawr gwlad, o fis Awst ymlaen bydd hyn yn newid.

Wedi'r etholiad bydd naw cynrychiolydd o blith haen uchaf y dynion, tri ar ran gêm y menywod a 12 o blith y clybiau llai.

'Gêm nhw ydy o'

"Maen nhw'n gorfod bod yn rhywun sy'n passionate ac eisiau helpu dyfodol y gêm," meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth Newyddion S4C.

"Rhywun sydd yn gallu bod yn analytical, yn strategol ond hefyd rhywun sydd yn gwybod beth mae'n teimlo fel i fod yn chwaraewr, yn referee neu'n hyfforddwr yn y clybiau yma.

Disgrifiad o’r llun,

Lowri Roberts: "Gyda mwy o leisiau a perspectives gwahanol amrywiol da ni'n mynd i wneud penderfyniadau gwell"

"Achos gêm nhw ydy o, a 'da ni eisiau dyfodol y gêm gael ei siapio gyda beth sy'n iawn i bobl sydd yn chwarae ac yn ymuno â'r gamp.

"Pan 'da ni'n sôn am governance mae lot o bobl yn dweud dydy hynny ddim yn swnio yn cool iawn.

"'Da chi just yn edrych ar reolau a mynd i meetings a phethau ffor 'na. Ond dwi'n meddwl bod yn gyfle really exciting i gael pobl o'r gymuned bêl-droed i ddod ymlaen 'efo syniadau gwahanol.

"'Da ni'n gwybod os yna fyrddau gyda mwy o leisiau a perspectives gwahanol amrywiol da ni'n mynd i wneud penderfyniadau gwell."

'Mwy o bwysau'

Mae'n cael ei weld fel cyfle unigryw i siapio dyfodol y gamp - a'r cyfrifoldeb bosib yn bwysicach nag erioed yn ôl Brian Davies, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru.

"Mae mwy o scrutiny nawr ar beth mae'r campau yn 'neud, mae fwy o bwysau fod pobl yn gwneud pethau yn iawn felly er bod y rôl yn debyg mae'r pwysigrwydd yn fwy."

Disgrifiad o’r llun,

Brian Davies: "Mae rôl da ni a'r campau a'r cyrff llywodraethol i wneud yn siŵr bod pobl yn meddwl bod e iddyn nhw"

Mae hefyd yn credu y bydd mwy o bobl o wahanol gefndiroedd eisiau gwneud y math yma o waith.

"Mae'n rhaid i ni wneud gwaith i wneud yn siŵr bo' nhw yn meddwl bod e iddyn nhw - bod 'na rôl iddyn nhw - bo' nhw'n gweld bod e'n rhywbeth pwysig a rhywbeth gallan nhw gyfrannu ato.

"So mae rôl 'da ni a'r campau a'r cyrff llywodraethol i wneud yn siŵr bod pobl yn meddwl bod e iddyn nhw ond dwi'n siŵr bod y camau gwreiddiol yma yn bwysig iawn a gallwn ni adeiladu arnyn nhw."

Penodiadau newydd

Rhaid i bob unigolyn sydd am gael eu hystyried gael eu henwebu gan naill ai glwb neu ardal.

Ond mewn datblygiad arall mae'r gymdeithas wedi penodi eu cadeirydd benywaidd cyntaf erioed.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Y gyfraith yw cefndir Alys Carlton, ac yn ymuno â hi fel cyfarwyddwyr annibynnol mae Sameer Rahman a Dr Carol Bell

Y gyfraith yw cefndir Alys Carlton. Yn ymuno â hi fel cyfarwyddwyr annibynnol mae Dr Carol Bell a Sameer Rahman.

Yn ôl y Prif Weithredwr, Noel Mooney, mae'n sicrhau fod y gymdeithas yn "parhau i esblygu".

"Rydym yn tyfu ac yn datblygu pêl-droed ledled Cymru ac mae'r penodiadau hyn yn sicrhau ein bod yn parhau â'n taith i ddod yn sefydliad chwaraeon o safon fyd-eang," meddai.

"Mae amrywiaeth barn, ystwythder yn ein penderfyniadau ac ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol i gyflawni 'Ein Cymru' - ein strategaeth ar gyfer pêl-droed Cymru."

Pynciau cysylltiedig