Arestio gyrrwr lori wedi marwolaeth cerddwr, 35, ar yr A55

A55Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad ger gwasanaethau Cinmel ym Modelwyddan fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr lori wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn 35 oed ar yr A55 yng ngogledd Cymru fore Mawrth.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i ddigwyddiad ger gwasanaethau Cinmel ym Modelwyddan, Sir Ddinbych, am 08:14.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi canfod corff y dyn 35 oed, y disgrifion nhw fel "cerddwr" (pedestrian).

Ychwanegodd y llu fod gyrrwr lori 62 oed wedi cael ei arestio brynhawn Mawrth mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Bu'r ffordd ynghau am dros wyth awr tra bo'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n annog unrhyw un oedd yn teithio ar yr A55 yn yr ardal rhwng 04:50 a 05:10 - peth amser cyn i'r heddlu gael eu galw - ac a welodd rhywun yn cerdded ar y ffordd ddeuol i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig