Beirniaid i gael y 'penderfyniad terfynol' yn yr Eisteddfod wedi helynt y Fedal Ddrama

Dywedodd Myrddin ap Dafydd bod angen cynnal y cyfarfod dydd Sadwrn"er mwyn cael canllawiau clir gan gorff uchaf yr Eisteddfod, y Llys"
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddarpar feirniaid Eisteddfod y Garreg Las yn 2026 wedi cadarnhau y bydd yn fodlon ymgymryd â'r gwaith ar ôl cael sicrwydd gan yr Eisteddfod Genedlaethol mai penderfyniad beirniaid fydd yn derfynol.
Roedd Myrddin ap Dafydd ynghyd â Dylan Iorwerth a Peredur Lynch wedi galw am gyfarfod arbennig o Lys yr Eisteddfod yn dilyn helynt y Fedal Ddrama ym Mhontypridd y llynedd, pan gafodd y wobr ei hatal.
Cafodd y tri gefnogaeth dros 50 o aelodau'r Llys ac fe alwyd cyfarfod arbennig yng nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ddoe mewn "ymgais i osgoi anghydfod yn y dyfodol."
Fe gadarnhaodd yr Eisteddfod Genedlaethol y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr "fod penderfyniad beirniaid yn derfynol" a "nad oes hawl i ymyrryd yn y penderfyniad na'r broses feirniadu."

Bydd Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd yn 2026
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd y cyn Archdderwydd, y Prifardd Myrddin ap Dafydd bod angen cynnal y cyfarfod dydd Sadwrn "er mwyn cael canllawiau clir gan gorff uchaf yr Eisteddfod, y Llys."
"Roedd yna unoliaeth barn. Fe fydd y cynigion yn cael eu cyflwyno nawr i'r Cyngor a'r Ymddiriedolwyr.
"Diwedd y daith fydd cyfarfod blynyddol llys yr Eisteddfod ddydd Iau 'Steddfod Wrecsam fydd yn dod â fe fewn i gyfansoddiad yr Eisteddfod. Fe fydd hon yn rheol aur.
"Mae'n wir bod hi'n egwyddor yn yr Eisteddfod mai barn y beirniaid, dyfarniad y beirniaid sydd yn derfynol, ond roedd angen ar ôl Pontypridd i ni grisialu hynny a rhoi canllawiau clir a phendant ar gyfer y dyfodol."
'Hyder yn y broses at y dyfodol'
Yn ôl Myrddin ap Dafydd, y bwriad fydd ymgorffori'r argymhellion yng nghyfansoddiad yr Eisteddfod.
"D'win meddwl bod hi'n bwysig bod yr Eisteddfod yn parhau i annog y celfyddydau yng Nghymru trwy gystadleuaeth i ymestyn y ffiniau. Mae'n rhaid bod gweithdrefnau yn eu lle i ddelio gyda phryderon all godi o waith creadigol ond mae angen parhau i annog creadigrwydd."
Fe gadarnhaodd Myrddin ap Dafydd nad oedd trafodaeth ddoe am amgylchiadau atal y Fedal Ddrama ym Mhontypridd.
"Mae'n bosib dod at hwnna eto. Roedd rhaid i ni flaenoriaethu oherwydd Steddfod Wrecsam a'r Garreg Las i ddechrau. Dydy hynny ddim yn cau'r drws ar drafod yn y dyfodol."
"Yn dilyn ddoe, dwi'n meddwl bydd yna hyder yn y broses at y dyfodol."
Mae'r dramodydd Paul Griffiths wedi beirniadu'r ffaith nad oedd trafodaeth am amgylchiadau atal y Fedal Ddrama.
Mewn llythyr agored, dywedodd Mr Griffiths: "All neb call symyd ymlaen, drwy anwybyddu'r gorffennol.
"Dyna un o wersi sylfaenol unrhyw wellhad seicolegol neu gorfforol: osgoi dilyn yr hen batrymau, a dysgu o'n camgymeriadau."
'Yr unig eithriad fyddai mewn achos o dorri rheol'
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaeth, bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr fod penderfyniad beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau'r Brifwyl ac nad oes hawl i ymyrryd yn y penderfyniad na'r broses feirniadu.
"Yr unig eithriad fyddai mewn achos o dorri rheol cystadleuaeth neu dwyll."
Cytunwyd yn ychwanegol y dylai'r Bwrdd, ar y cyd â'r Cyngor, ymchwilio i'r posibilrwydd o ddiwygio rheolau ac amodau cystadlaethau a/neu Reolau Sefydlog yr Eisteddfod.
Mae canllawiau newydd i feirniaid, ynghyd â rheolau ac amodau diwygiedig eisoes wedi'u cytuno gan y Pwyllgor Diwylliannol, y Bwrdd a'r Cyngor ers Eisteddfod 2024.
Mae beirniaid Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eisoes wedi derbyn y canllawiau newydd, a bydd y rheolau ac amodau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yn Rhestr Testunau Eisteddfod y Garreg Las, a fydd ar gael yn dilyn seremoni'r Cyhoeddi ddydd Sadwrn 17 Mai.
Cytunwyd mai'r flaenoriaeth yn awr yw canolbwyntio ar sicrhau bod y timau lleol yn Wrecsam ac ardal y Garreg Las "yn derbyn pob cefnogaeth er mwyn llwyddo."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2024