Atal y Fedal Ddrama i 'gydymffurfio â deddfwriaeth gwlad'
- Cyhoeddwyd
Cafodd y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama eleni ei wneud "er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad", yn ôl aelod o fwrdd rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol.
Pedwar mis ers gohirio'r seremoni yn Eisteddfod Pontypridd, mae galwadau yn parhau ar yr Eisteddfod Genedlaethol i fod yn fwy tryloyw.
Mae llythyr agored bellach wedi ei anfon at Gyngor a Bwrdd yr Eisteddfod, gyda thua 250 o lofnodion, yn gofyn am "sicrwydd o drefn Eisteddfod" yn sgil atal y gystadleuaeth.
Mewn ymateb, mae Ashok Ahir - Llywydd y Llys a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli - wedi ymddiheuro "am unrhyw ofid a grëwyd".
Esboniodd fod y gystadleuaeth wedi ei hatal "er gwarchod pawb ynghlwm â hi, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad".
Pan ofynnwyd i'r Eisteddfod a oeddent wedi cyfathrebu â'r heddlu mewn cysylltiad â'r penderfyniad, dywedodd llefarydd: "Gallwn gadarnhau nad oedd achos i'r Eisteddfod orfod cysylltu â'r heddlu."
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
Mewn datganiad ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol fore Iau, dywedodd Mr Ahir: "Rydym yn gwerthfawrogi fod y penderfyniad i atal cystadleuaeth y Fedal Ddrama'n parhau yn bwnc llosg i nifer.
"Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y feirniadaeth sydd wedi ei gylchredeg yn barod, ac yn derbyn na fu i'n datganiadau cynt leddfu gofidiau nifer o bobl am y penderfyniad.
"Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod, a'r Bwrdd yn unig, sydd yn gyfrifol am y penderfyniad hwn.
"Ni ddylid felly beirniadu unrhyw wirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r Eisteddfod nac ychwaith y staff."
Ym mis Tachwedd cafodd sesiwn 'Cynrychioli Cynrychiolaeth' ei chynnal gan banel canolog theatr yr Eisteddfod, er mwyn cynnal "trafodaeth amserol am gynrychiolaeth yn y theatr".
Ond mae nifer ym myd y celfyddydau yng Nghymru yn teimlo bod cwestiynau o hyd ynglŷn â pham y cafodd y Fedal Ddrama ei hatal eleni.
Wrth ymateb i'r feirniadaeth o'r sesiwn fis diwethaf, dywedodd Mr Ahir: "Roedd y symposiwm yn gyfle i godi nifer o egwyddorion pwysig sydd hefyd wedi'u trafod gan ein panelau a'n pwyllgorau wrth ddiwygio ein prosesau, rheolau a'n hamodau o ran y cystadlaethau.
"Yr ydym yn credu y bydd yr egwyddorion hynny yn rhoi hyder i gystadleuwyr, beirniaid, a charedigion yr Eisteddfod a'r theatr yng Nghymru pan eu cynhwysir yn ein canllawiau a'n prosesau ar eu newydd wedd."
'Consyrn cwbl ddilys a di-gynsail'
Mae Ashok Ahir yn mynd yn ei flaen i ymddiheuro am y modd y mae'r Eisteddfod wedi ymateb i'r hyn ddigwyddodd.
"Rydym yn ymddiheuro am unrhyw ofid a grewyd oherwydd ei bod yn ymddangos fod yr egwyddor o gystadlu o dan ffugenw, ac yn y dirgel wedi ei danseilio am resymau annilys, diangen, neu oherwydd sensoriaeth, gan yr Eisteddfod," meddai.
"Nid felly yr oedd pethau. Daeth consyrn cwbl ddilys a di-gynsail i'r fei a oedd yn cyfiawnhau'r angen i ni wneud ymholiadau pellach.
"Yn dilyn hyn, penderfyniad y Bwrdd oedd arfer eu hawl i atal y gystadleuaeth yn ei chyfanrwydd er gwarchod pawb ynghlwm â hi, ac er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth gwlad."
Ychwanegodd eu bod wedi ymddwyn yn unol â rheolau ac amodau'r Eisteddfod, gan geisio "sicrhau hefyd bod canllawiau priodol gennym i osgoi sefyllfaoedd o'r fath rhag codi yn y dyfodol".