Môn: Bwriad i godi 57 o dai fforddiadwy yn hollti barn

Disgrifiad,

Mae barn wahanol iawn gan Ffion Elin Davies a Medwyn Roberts am y cynllun

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i gynghorwyr ar Ynys Môn wneud penderfyniad ddydd Mercher ar gynlluniau i adeiladu bron i 60 o dai fforddiadwy ar yr ynys.

Bydd pwyllgor cynllunio'r sir yn trafod dau gais cynllunio sy'n cael eu hargymell i'w cymeradwyo, er gwaethaf peth gwrthwynebiad yn lleol.

Bwriad Cymdeithas Dai Clwyd Alyn a DU Construction yw adeiladu 27 o dai ger priffordd yr A55 yn Llanfairpwll, a 30 o dai yn Llandegfan.

Ond er bod gwrthwynebiad i’r datblygiadau, mae eraill yn gefnogol ac yn dweud bod mawr angen mwy o dai ar gyfer pobl leol yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r datblygiad yn cael ei godi yn y cae yma ger yr A55

Y llynedd fe gafodd cynlluniau i adeiladu tai ger stad y Garnedd yn Llanfairpwll eu gwrthod gan nad oedd mater llifogydd wedi cael sylw priodol.

Mae’r safle arfaethedig yn ffinio'r A55, gyda'r datblygwyr DU Construction a Chymdeithas Dai Clwyd Alyn yn bendant bod angen mawr am dai rhent fforddiadwy yn yr ardal a bod ymchwil yn profi hynny.

Yn ôl Sioned Edwards, asiant cynllunio'r cais ar ran cwmni cynllunio Cadnant, byddai'r tai yn mynd i'r afael ag angen clir am dai rhent.

Disgrifiad o’r llun,

Sioned Edwards: "Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr angen mwyaf am dai dwy a thair ystafell wely"

Dywedodd: "Mae rhestrau aros y cyngor yn dangos fod angen sylweddol ar gyfer tai fforddiadwy yn Llanfair ac mae arolwg tai wedi ei wneud yn annibynnol sydd hefyd wedi adnabod bod 'na angen am dai fforddiadwy, drwy gyfarfod hefo pobl leol a deall yn well be' ydy'r anghenion a pha fath o dai maen nhw angen.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr angen mwyaf am dai dwy a thair ystafell wely, felly mae'r cais wedi ei baratoi yn benodol i gyfarch y galw penodol yna."

Ychwanegodd mai Clwyd Alyn fyddai'n berchen ac yn rheoli'r stad drwy ddefnyddio polisi gosod Cyngor Môn, a bod pryderon lleol am leoliad y tai wedi derbyn sylw fel rhan o'r cais.

"Mae 'na bobl leol wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw angen tŷ yn lleol ac methu fforddio rhent ar y farchnad agored, a hefyd pobl ifanc sy'n chwilio a methu fforddio i brynu tŷ ac yn chwilio i rentu.

"Dwi'n deall fod pryder yn lleol ond 'swn i hefyd yn licio rhoi sicrwydd bod dim pryder gan arbenigwyr fod unrhyw fater technegol fysa'n atal y cais yma rhag caei ei gefnogi."

'Pam ddim adeiladu pentref newydd?!'

Ond i gyrraedd y safle byddai angen mynd trwy Stad y Garnedd, ac mae 'na wrthwynebiad wedi ei ddatgan gan rai o drigolion y stad.

Maen nhw’n dweud bod y safle’n anaddas ar gyfer datblygiad o'r fath, a byddai'n cynyddu'r problemau traffig sydd eisoes yn bodoli ger y stad ac yn Llanfairpwll yn gyffredinol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Medwyn Roberts fod y "cyngor cymuned wedi bod yn gyson yn erbyn" y cynlluniau

Dywedodd Medwyn Roberts, ar ran Cymdeithas Amddiffyn Stad y Garnedd, fod gwrthwynebiad cryf yn y pentref wedi i gais tebyg gael ei wrthod y llynedd.

"Dwi'n clywed y traffig, 'swn i ddim yn licio byw yn y cae 'ma," meddai.

"'Da ni'n sôn am adeiladu 27 o dai ar gae sydd hanner maint y stad 'ma, a 24 o dai sydd yma.

"Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae traffig wedi mynd yn waeth byth a mae 'na geir yn bob man.

"Mae'r gymuned i gyd mwy neu lai yn erbyn y datblygiad yma. Mae'r cyngor cymuned wedi bod yn gyson yn erbyn.

"Mae'r pentref 'ma wedi ei ddatblygu gymaint yn y deugain mlynedd ddiwetha' heb feddwl am yr amgylchiadau."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn ffinio'r A55 ar un ochr a Stad y Garnedd ar y llall

Ychwanegodd Mr Roberts: "Pam fod rhaid i drigolion y pentref roi i fyny hefo hyn? 'Da ni fel y werin ddim yn cael gwybod pwy sydd ar y rhestrau aros yma.

"Os oes gymaint â hyn o ddymuniad am dai fforddiadwy, pam 'neith y cyngor sir ddim adeiladu pentref newydd?!

"Mae 'na ddigon o dir yn Sir Fôn i godi tai, siopau, lle doctor newydd."

Mae'r cais ar gyfer 30 o dai yng Ngwel y Llan, Llandegfan, hefyd wedi denu gwrthwynebiad gan Gyngor Cymuned Cwm Cadnant, sy'n dweud byddai'r tai yn "estyniad annerbyniol i'r pentref" ac yn cael effaith ar ddiogelwch ffordd a bioamrywiaeth.

'Y rhai sy'n gwrthwynebu hefo tai yn barod'

Mae swyddogion cynllunio'r sir yn argymell caniatáu’r ceisiadau yn Llanfairpwll a Llandegfan, er gwaethaf pryderon yn y ddwy gymuned.

Ond mae 'na gefnogaeth wedi ei ddatgan hefyd gan bobl ifanc yn yr ardal, sy’n poeni sut y gallan nhw fforddio prynu tŷ yn y cyffiniau.

Mae Ffion Elin Davies, 26, yn wreiddiol o Lanfairpwll ond bellach yn byw ym Mhorthaethwy gyda'i theulu.

Dywedodd ei bod o blaid y cais a'i fod yn "beth da" bod tai fforddiadwy yn cael eu cynnig.

"Mae Ynys Môn yn le grêt i fyw a dwi'n siŵr fod pobl ifanc isio aros yma, a dwi o blaid y syniad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Elin Davies: "Heb i ni allu fforddio tai yn ein hardaloedd lleol mae'n bosib bydd rhaid i ni symud i ffwrdd"

"Mae'n anodd i unrhyw un rŵan i brynu tai. 'Di o ddim yr un fath â pan oedd ein rhieni yn prynu tai - mae'r prisiau wedi codi yn anffodus.

"Does dim allwn wneud am hynny ond mae'r tai fforddiadwy 'ma yn ffordd i symud ymlaen.

"Dwi'n teimlo na'r bobl sy'n gwrthwynebu ydy'r rhai sydd hefo tai yn barod ac yn anffodus ddim yn yr un sgidia' â ni.

"Dwi'n deall safbwynt y rhai sy'n gwrthwynebu. Codi mwy o dai yn eu hardal nhw sydd mor brydferth... dwi'n deall yn iawn, ond rhaid i ni feddwl am ffyrdd o sut 'da ni'n symud ymlaen.

"Heb i ni allu fforddio tai yn ein hardaloedd lleol mae'n bosib bydd rhaid i ni symud i ffwrdd i le allwn ni fforddio, ond mae'n bwysig i ni allu aros yn eu cynefinoedd."

Mae disgwyl penderfyniad ar y datblygiadau pan fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Môn yn cyfarfod brynhawn Mercher.

Pynciau cysylltiedig