Ateb y Galw: Sarah Wynn

Sarah WynnFfynhonnell y llun, Sarah Wynn
  • Cyhoeddwyd

Sarah Wynn sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.

Yn wreiddiol o Fethel ger Caernarfon, mae hi'n llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru 2 ac yn gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd ers dros 20 mlynedd.

Mae hi hefyd yn aelod o'r band nu-metal, CELAVI.

Dyma ddod i adnabod Sarah ychydig yn well.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi’n cofio un Nadolig yn chwarae keyboard efo fy mrawd, a chofio eisiau aros i fyny’n hwyr i chwarae Mario!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi wrth fy modd efo Caerdydd. Hoffi’r vibe yna, ac mae ‘na glwb roc dwi’n caru mynd i yno!

Dwi’n caru Pier Garth ym Mangor hefyd - hoffi cerdded ar y pier ar ddydd Sul, gweld y golygfeydd stunning a chael panad bach. Mor lwcus.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah wrth ei bodd gyda'r golygfeydd oddi ar pier Bangor

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Pan wnes i briodi yn Las Vegas.

Priodas llawn hwyl, cymaint o atgofion melys, a threulio’r noson yn mynd o gwmpas mewn party bus ar strip Las Vegas efo teulu a ffrindiau, cyn mynd i The Golden Tiki yn Las Vegas i ddawnsio!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Hapus. creadigol a gweithgar.

Ffynhonnell y llun, Sarah Wynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah yn cyflwyno'n achlysurol ar BBC Radio Cymru 2

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Y tro gyntaf i mi gyflwyno ar BBC Radio Cymru 2.

Wir yn cael gwireddu breuddwyd cael cyflwyno ar yr orsaf anhygoel a chael bod yn rhan o dîm mor arbennig.

Mae Lisa Gwilym yn amazing ac mae’n fraint cael edrych ar ôl ei rhaglen hi.

Dwi mor ddiolchgar, ac wrth fy modd cael cyflwyno! Joio chwarae’r bangars hefyd!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Wnes i bron iawn ddisgyn oddi ar lwyfan mewn un o’r gigs gyntaf ‘nes i!

O'n i’n dawnsio ac yn bownsio o gwmpas y llwyfan, a wnes i ddim sylweddoli bo’ fi wedi symud yn rhy nôl at ddiwedd y llwyfan!

Dwi’n cofio teimlo’r teimlad o ddim byd o dan un o fy stiletos a dechrau chwifio fy mreichiau yn sydyn yn trio cael balans yn ôl!

Ffynhonnell y llun, Sarah Wynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah yn perfformio gyda Gwion, ei gŵr, fel C E L A V I

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Oeddwn i newydd ‘neud gig efo fy mand C E L A V I yn ddiweddar - ein gig cyntaf yn Llundain, a daeth hyrwyddwr gigs arall ata’ fi a chynnig gig arall i ni yn Llundain ar ôl gweld ni’n perfformio.

O'n i’n newydd ‘neud gig yn man geni Iron Maiden, newydd ryddhau cân newydd y diwrnod yna hefyd, a ges i foment emosh iawn!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Treulio lot o amser ar fy ffôn, ar y socials! Mynd i gysgu’n rhy hwyr, a chadw gormod o ddillad!

Ffynhonnell y llun, Sarah Wynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah'n cyfri diwrnod ei phriodas yn Las Vegas fel un o amseroedd gorau ei bywyd

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff ffilm ydi Clueless. Dwi’n caru’r ffasiwn, a mae ffasiwn yn rhan mawr o fy mywyd i. Mae’r outfit check melyn gan Cher yn eiconig!

Caru ffilm Barbie hefyd!

Dwi hefyd yn hoffi ffilms Tim Burton - Edward Scissorhands, The Nightmare Before Christmas a Beetlejuice. Dwi'n hoffi pethau weird and wonderful!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Nain a Taid - methu nhw bob dydd.

Lady Gaga a Vivienne Westwood - gymaint o ysbrydoliaeth i fi, mor greadigol, cryf ac empowering.

Dwi’n cael fy nenu at gymeriadau sy’n annog ni i ddilyn ein breuddwydion a bod yn ni ein hunain.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi’n gallu chwarae pêl-droed!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i Vegas - perfformio un gig olaf efo’r band yn cefnogi fy hoff fand, Bring Me The Horizon. Sa’n grêt gweld teulu a ffrindiau yn y dorf yn headbangio efo ni!

Wedyn bwyta pizza, yfed rym, a cael lot o hwyl, a lot o chwerthin!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Gennai lun ohona’ fi efo Mam, fy mrawd a fy Nain yn tŷ Nain a Taid ym Mangor.

Wnes i golli Taid dipyn o flynyddoedd yn ôl, ac oedd Nain yn gysylltiad pwysig i fi i’r ddau ohonyn nhw wedyn am flynyddoedd.

Mae’r llun yma’n arbennig iawn i mi - o'n i’n agos iawn i Nain a Taid, a gafo’ ni lwyth o hwyl efo Nain tan y diwedd.

Doedd hi ddim yn rili'n hoffi cael tynnu ei llun, bob tro yn tynnu stymiau neu oedd rhaid fi drio tynnu selfies heb iddi wybod! Ha!

Ond chwarae teg, wnaeth hi posio i fi ar gyfer y llun yma - mae mor werthfawr i fi!

Ffynhonnell y llun, Sarah Wynn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llun yma o deulu Sarah yn un arbennig iawn iddi

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Harley Quinn.