Herio'r penderfyniad i ryddhau llofrudd Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gafodd ei gyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White yng Nghaerdydd wedi dweud wrth y BBC ei fod wedi cyfarwyddo ei gyfreithwyr i apelio yn erbyn y penderfyniad i ryddhau’r llofrudd o’r carchar.
Daeth cadarnhad ddydd Iau y bydd Jeffrey Gafoor yn cael ei ryddhau ar barôl wedi 21 mlynedd yn y carchar am lofruddio Ms White yn 1988.
Cafodd pum dyn eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, gyda thri ohonyn nhw yn cael dedfryd o garchar, cyn cael eu rhyddhau ar apêl.
Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.
Dywedodd y Bwrdd Parôl fod panel wedi ystyried “ystod eang o dystiolaeth” cyn dod i'r casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor.
Ni fydd Gafoor yn cael ei ryddhau yn syth gan fod cyfnod o 21 diwrnod lle mae modd cyflwyno cais i'r bwrdd ailystyried y penderfyniad.
Pe bai cais o'r fath yn cael ei gyflwyno, bydd Gafoor yn parhau yn y ddalfa tan fod penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â'r cais hwnnw.
Wrth siarad â'r BBC dywedodd John Actie yn gynharach, un o'r pum dyn gafodd eu cyhuddo ar gam, ei fod yn gobeithio apelio yn erbyn y penderfyniad i'w ryddhau.
“Does neb yn dweud dim byd wrthym ni, dy’n ni byth yn cael gwybod unrhywbeth fel dioddefwyr,” meddai.
“Dwi ddim yn hapus o gwbl. Alla i ddim dychmygu sut mae teulu Lynette White yn mynd i deimlo am y peth.
“Mae’n teimlo fel bod rhywun wedi rhoi ei law yn fy stumog a’i rwygo.”
'Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o'i le'
Ychwanegodd Mr Actie: "Dwi'n gobeithio y gwnaiff rywun [cyfreithiwr] gysylltu â mi a chawn weld beth allwn ni ei wneud".
"Efallai wnaiff teulu Lynette White apelio a gwneud rhywbeth am y sefyllfa hefyd. Nhw fyddai’r bobl orau i wneud hyn.
“Gobeithio y gallwn ei gadw yn y carchar am ‘chydig yn hirach. Mae’n haeddu bod yn y carchar am dipyn hirach na’r hyn mae wedi bod o’r hyn dwi’n ei ddeall."
Aeth ymlaen i gwestiynu pam fod cais Jeffrey Gafoor am barôl wedi cael ei dderbyn y tro hwn ar ôl cael ei wrthod sawl tro yn y gorffennol.
"Mae'n rhaid bod rhywbeth wedi mynd o'i le iddo gael ei wrthod gan bobl yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf," meddai.
Wrth sôn am y cyfnod a'r profiad ei hun, dywedodd: "mae wedi byw gyda mi am y 36 mlynedd ddiwethaf" gan ychwanegu "dyw e byth am fynd i ffwrdd. Mae'n iselder sy'n glynu atoch o hyd."
Dywedodd ei fod yn rhan o'r "camweinyddiad cyfiawnder mwyaf yn hanes Prydain, a dydyn nhw heb roi gwybod i ni [am ryddhau Gafoor]. Fe ffeindion ni allan wrth y BBC ddoe."
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Alun Michael, cyn-Aelod Seneddol Caerdydd a Phenarth a chyn-gomisiynydd yr heddlu fod y penderfyniad yma yn un "cymhleth iawn".
Roedd o'r farn y bydd na "deimladau cryf" ymhlith pobl leol am y penderfyniad oherwydd "y ffaith fod pobl leol wedi mynd i garchar gyda dim cysylltiad o gwbl gyda be wnaeth Jeffrey Gafoor".
"Mae bywydau y rhai oedd yn y carchar yn hollol ddieuog, mae eu bywydau nhw wedi cael eu taflu allan o drefn," meddai.
"Dwi'n meddwl fod o'n bwysig iawn i lais John Actie, a llais pobl arall yn y gymuned leol gael eu clywed, ac mae'r system apêl yn gwneud hynny'n bosib."
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Hydref
Mae Gafoor wedi’i gadw mewn carchar agored ers 2020 a chafodd ryddhad undydd ym mis Ionawr 2023.
Mewn cyfarfod yn gynharach yn y mis fe ddaeth Bwrdd Parôl i’r casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor.
Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd fod y penderfyniad ei wneud “wrth ganolbwyntio ar ba risgiau gall y carcharor wneud i’r cyhoedd os yw’n cael ei ryddhau ac os yw’r gymuned yn medru delio â'r risg yna".
Dywedon nhw fod 'na banel wedi ystyried “ystod eang o dystiolaeth” ac wedi clywed tystiolaeth gan bobl fel “swyddogion y gwasanaeth prawf, seiciatryddion a seicolegwyr, swyddogion oedd yn goruchwylio’r troseddwr yn y carchar” ac roedd modd i ddioddefwyr gyflwyno datganiad personol.
“Mae’n drefn arferol fod y carcharor a’r tystion yn cael eu holi yn faith yn ystod y gwrandawiad - sy’n aml yn cymryd diwrnod cyfan neu fwy.
“Mae'r Bwrdd Parôl yn adolygu ac yn gwneud penderfyniadau gyda gofal eithriadol. Gwarchod y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n meddyliau ni yn parhau gyda theulu a ffrindiau Lynette White, yn ogystal â'r dynion a gafodd eu cyhuddo ar gam o'r drosedd ofnadwy yma.
"Blaenoriaeth yr Arglwydd Ganghellor yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel. Mae hi (Shabana Mahmood AS) wedi gofyn i swyddogion ystyried a ddylai'r Bwrdd Parôl ailystyried y penderfyniad."