Llofrudd Lynette White yn gwneud chweched cais am barôl

Jeffrey GafoorFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Cyfaddefodd Jeffrey Gafoor iddo drywanu Lynette White mewn ffrae dros £30

  • Cyhoeddwyd

Bydd un o lofruddion mwyaf drwg-enwog Cymru yn wynebu bwrdd parôl am y chweched tro ddydd Iau.

Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003 am lofruddiaeth Lynette White ym 1988.

Yn wreiddiol fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Apêl.

Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.

Fe fydd gwrandawiad parôl Gafoor ddydd Iau yn cael ei gynnal yn breifat.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd yn 1988

Dyma fydd chweched gwrandawiad parôl Gafoor, ac mae'n bosib na fydd y penderfyniad yn cael ei wneud am hyd at bythefnos arall.

Cafodd tri chais i'r gwrandawiad yma fod yn gyhoeddus eu gwrthod, gyda'r bwrdd parôl yn dweud nad oedd yn "briodol".

Dywedodd John Actie, un o’r pum dyn a dreuliodd amser yn y carchar ar gam am y llofruddiaeth, y dylai’r gwrandawiad fod yn gyhoeddus.

Hanes yr achos

Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant 1988.

Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.

Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar apêl yn 1992.

Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.

Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros £30.

Pynciau cysylltiedig