Cynghrair y Cenhedloedd: Yr Almaen 5-1 Cymru
- Cyhoeddwyd
1 o 5
Roedd Yr Almaen yn rhy gryf i Gymru yn Sinsheim wrth i dîm Gemma Grainger ildio pum gôl am yr ail gêm yn olynol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Yr Almaen oedd y ffefrynnau clir nos Wener ac roedd y bêl yn eu meddiant am gyfnodau hir yn ystod yr ugain munud cyntaf.
Y tîm cartref a lwyddodd i gael y bêl i gefn y rhwyd yn gyntaf yn dilyn gwaith da gan yr amddiffynnwr Sarai Linder, gyda Lea Schuller yn sgorio.
Roedd yr Almaenwyr yn edrych yn gyfforddus iawn ac oni bai am arbediad campus Olivia Clark byddan nhw wedi dyblu eu mantais.
Ond funudau cyn yr hanner, fe sgoriodd Ceri Holland gôl i Gymru yn erbyn llif y chwarae.
Cafodd Cymru ddechreuad siomedig i'r ail hanner, gyda Schuller yn sgorio ei hail gôl o'r gêm, a hynny o fewn munud yn unig i'r ailgychwyn.
Gyda 10 munud yn weddill, fe sgoriodd Giulia Gwinn i'r Almaen yn dilyn cic o'r smotyn.
Ychwanegodd Sjoeke Nusken bedwaredd gôl i'r Almaenwyr, cyn i Nicole Anyomi sgorio'r bumed funudau yn unig ar ôl dod ar y cae.
Bydd Cymru yn wynebu Denmarc - a oedd yn fuddugol o 5-1 yng Nghaerdydd fis diwethaf - nos Fawrth.