Lansio ymchwiliad i dân difrifol mewn gwesty ym Mlaenau Ffestiniog

Cafodd y gwesty hanesyddol ei ddifrodi gan y tân a gan ddŵr yn ystod y gwaith o ddiffodd y fflamau
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i dân difrifol ddigwyddodd mewn gwesty yng Ngwynedd ddydd Sadwrn, wedi cael ei ohirio tan ddydd Llun.
Gweithiodd tua 40 o ddiffoddwyr tân am dros wyth awr i ddod â'r tân yng Ngwesty Queens, Blaenau Ffestiniog, dan reolaeth.
Cyhoeddwyd bod y digwyddiad drosodd am 19:33 nos Sadwrn.
Y disgwyl rŵan yw y bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu'r Gogledd yn cynnal ymchwiliad ar y cyd, gan ddechrau fore dydd Llun.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r adeilad hanesyddol wedi cael ei ddifrodi gan y tân, gyda'r ail lawr a'r gofod yn y to - oedd yn cynnwys ystafelloedd atig - wedi cael ei effeithio'n sylweddol.
Mae'n dyddio'n ôl i 1867 a chafodd y llawr cyntaf ei ddifrodi gan ddŵr yn ystod y gwaith o ddiffodd y fflamau.
Cafodd y gwesty ei adnewyddu'n helaeth gan Punch Taverns yn 2012 cyn i bobl leol gymryd yr awenau yn 2020.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod gwahanol offer wedi cael eu defnyddio i ddod â'r tân dan reolaeth, gan gynnwys pibellau dŵr a chamerâu arbenigol.
Diolch am 'ymateb cyflym'
Wrth ymateb ddydd Sul dywedodd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn bod y cyngor lleol wedi ymateb yn gyflym iawn a'i fod yn ddiolchgar am hynny ac am gymorth nifer o rai eraill.
"Dwi'n ddiolchgar i'r cyngor am wneud trefniadau i'r bobl yma gael lloches ac yn ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am ymateb mor gyflym ac i'r gymuned.
"Roedd 'na unigolion, mudiadau, llochesau wedi agor er mwyn pobl oedd yn pryderu lle i fynd," meddai.