'Cerddoriaeth yn hanfodol i bob pecyn gofal dementia'

Nia Davies Williams yw'r unig gerddor yng Nghymru sy'n cael ei chyflogi yn llawn amser gan gartref gofal
- Cyhoeddwyd
Mae cerddor sy'n cael ei chyflogi gan gartref preswyl i bobl â dementia yng Nghaernarfon yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod cerddoriaeth yn rhan o bob pecyn gofal yn y maes.
Nia Davies Williams yw'r unig gerddor yng Nghymru sy'n cael ei chyflogi yn llawn amser gan gartref gofal ac mae hi'n dweud bod gweledigaeth perchnogion cartref Bryn Seiont Newydd i gael swydd o'r fath "yn gwbl arloesol".
Mae Nia wedi bod yn gweithio gyda'r preswylwyr ers bron i ddegawd, a'r penwythnos yma bydd yn cyhoeddi llyfr ar ei phrofiadau gan bwysleisio "gwerth arbennig cerddoriaeth i bobl sy'n byw gyda dementia".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu £12m bob blwyddyn i gyflawni'r Cynllun Gweithredu Dementia.

Karen Jones a'i mam, Owena Jones, a dreuliodd ddiwedd ei hoes ym Mryn Seiont
"Y peth sy'n wych am gael gweithio yma drwy'r amser yw dod i adnabod y preswylwyr yn dda ac felly mae modd teilwra pecyn cerddorol unigol i bob un," meddai Nia Davies Williams wrth siarad â BBC Cymru Fyw.
"Mae yna amrywiaeth oedran - rhai yn eu 90au, rhai yn eu 60au ac un yn ei 50au yn byw gydag early onset dementia. Mae dros 100 yn y cartref i gyd."
Bu Owena Jones o Bwllheli yn byw yng nghartref Bryn Seiont am bron i bum mlynedd - tan ei marwolaeth ym Medi 2023.
Dywedodd ei merch Karen fod cerddoriaeth yn bwysig iawn iddi gan ei bod yn bianydd o fri ac wedi cael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Roedd cael cerddoriaeth yn y cartref yn llonyddu ei meddwl pan o'dd hi methu setlo a na'th o roi gymaint o gysur iddi ac i ni fel teulu hefyd."

Y ddiweddar Owena Jones yn canu'r piano yn y cartref yng nghwmni ei merch
"Yn 2016 wrth i'r dementia afael aeth byd Mam yn llai, do'dd hi'm yn darllen na chymdeithasu gymaint ac fe gollodd ei hyder," ychwanegodd Karen Jones.
"Ro'n i wedi meddwl ei chadw adref gyda ni ond gydag amser fe aeth i gartref Bryn Seiont ac roedd wrth ei bodd yno yn sŵn y gerddoriaeth.
"Ro'dd hi'n hoff iawn o emynau, ychydig o Frank Sinatra, Patsy Cline a musicals."
'Pŵer cerddoriaeth i'w weld mor glir'
"Weithiau roedd Mam yn colli geiriau ond os 'sa Nia yn chwarae Calon Lân, er enghraifft, byddai hi'n canu'r geiriau o'r dechrau i'r diwedd heb bron orfod chwilio am y geiriau o gwbl.
"Byddai Mam yn anghofio weithiau sut oedd codi cyllell a fforc ond wrth glywed cerddoriaeth byddai hi'n bwyta'n iawn nes i'r gerddoriaeth stopio.
"Roedd pŵer cerddoriaeth i'w weld mor glir. Mae llyfr Nia yn emosiynol iawn ac yn llawn anecdotal evidence - dwi wir yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarllen ac yn ariannu y math o waith y mae Nia yn ei wneud mewn cartrefi eraill - mae o mor werthfawr."
'Cerddoriaeth yn rhan bwysig o ofal'
"Dwi'n canu'r delyn a'r piano ond dwi'n meddwl mai'r llais sydd bwysicaf.
"Ers tro mae arbenigwyr yn ymwybodol o werth cerddoriaeth i bobl sy'n byw â dementia ond yr hyn sy'n bwysig yw bod y llywodraeth yn sicrhau fod cerddoriaeth yn rhan o ofal - mae ganddo rôl fawr i chwarae," ychwanegodd Nia Davies Williams.
Mae'r gyfrol newydd Sketches of Broken Minds: A Musician's Experience of Working in Dementia Care yn ategu gwerth cerddoriaeth ac yn cynnwys straeon am bobl sy'n gallu canu geiriau emynau, er enghraifft, er nad ydyn nhw bellach yn siarad.
"Heb os mae cerddoriaeth yn dod o hyd i'r person coll 'na - y cymeriad 'na sydd wedi diflannu bellach. Mae'n lleddfu anniddigrwydd a blinder ac yn tawelu teimladau blin.
"I'r sawl sy'n byw â'r cyflwr mae cerddoriaeth yn dod ag ambell ddeigryn wrth iddyn nhw gofio am anwyliaid na sydd gyda ni bellach ond mae hefyd yn dod â dyddiau da y gorffennol yn fyw.
"Yn aml mae pobl yn ffindio hi'n hawdd i ymolchi neu fwyta pan mae cerddoriaeth yn y cefndir - mae'n rhan bwysig o ofal."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Cynllun Gweithredu Dementia yn nodi ein gweledigaeth i gefnogi'r rhai sy'n byw yng Nghymru gyda dementia ac rydym yn darparu £12m bob blwyddyn i gyflawni'r cynllun.
"Gellir defnyddio'r arian yma i ddarparu therapi cerddorol fel rhan o ofal dementia."

Rhai o breswylwyr y cartref yng Nghaernarfon yn mwynhau sesiwn gerddoriaeth
Ychwanegodd Nia, sydd wedi gwneud gwaith academaidd yn y maes, fod dwy ochr yr ymennydd yn ymdrin â cherddoriaeth.
"Yn sicr mae rhywbeth sydd â rhythm cerddorol yn haws i'w gofio ac oherwydd hynny mae'n un o'r pethau olaf i ddiflannu wrth i dementia fwyta'r cof.
"Ond yr hyn sy'n rhyfeddol yw canfod fod pobl yn gallu dysgu pethau newydd hefyd gyda chymorth cerddoriaeth - all is not lost.
"Yn wir mae gallu cerddoriaeth yn fy synnu bob dydd wrth i'r bobl sy'n byw yma yn y cartref ymateb iddo.
"Mae'n braf i'r teuluoedd hefyd wrth gwrs - pan nad oes sgwrs i'w chael bellach."

Mae Nia Davies Williams yn dueddol o ganu'r delyn ar ddiwedd oes preswylydd
Wedi graddio mewn cerddoriaeth, dewisodd Nia Davies Williams ganolbwyntio ar weithio gyda phobl sy'n byw â dementia.
"Dwi'm yn gwybod pam ond roedd gen i rieni hŷn ac felly taid a nain hŷn ac roeddwn i wrth fy modd yn eu cwmni," meddai.
Mae bod gyda phobl yn y cartref yn barhaus yn fendith ond gall fod yn anodd ac yn heriol ar adegau wrth iddi weld y cof yn pylu ymhellach ac yna colli'r preswylwyr, ychwanegodd.
"Ar ddiwedd oes fe fyddai'n canu'r delyn yn dawel wrth iddyn nhw groesi o'r byd yma. Mae hynna'n drist ond yn wefr hefyd."
Mae'n gobeithio y bydd ei chyfrol yn annog ymchwil pellach ym maes dementia ac yn fodd i wleidyddion weld pa mor bwysig yw cerddoriaeth i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023