'Angen i ddynion agor lan yn fwy'

Alun ReynoldsFfynhonnell y llun, Alun Reynolds
  • Cyhoeddwyd

“Mae gorbryder yn gallu curo ti. S’dim lot o bobl yn siarad am y peth – mae dal yn un o’r pethau yna mae pobl rhy ofnus i agor lan amdano. Ac mae angen i bobl ddechrau agor lan yn fwy.”

A hithau’n fis codi ymwybyddiaeth o iechyd dynion, bu Cymru Fyw’n siarad gyda’r cerddor Alun Reynolds o Bontyclun am ei gyfnodau o iselder a gorbryder.

Mae Alun, sy’ wedi perfformio fel JJ Sneed ac fel rhan o’r band Celwyddau, wedi torri i lawr (nervous breakdown) sawl gwaith yn ystod cyfnodau o iselder yn dilyn perfformiadau.

Ac mae’n credu’n gryf fod dynion yn arbennig yn dioddef gyda problemau iechyd meddwl: “Mae angen mwy o gymorth i ddynion nawr. Does dim digon o help mas ‘na a does dim wedi bod ers y cyfnod clo.

“Os ti’n cymharu’r ffigurau cyn y cyfnod clo, drwy’r cyfnod clo ac ar ôl y cyfnod clo mae‘r spike yn massive. Oedd cymaint o bobl, yn enwedig dynion, yn cymryd bywydau eu hunain.

“Ges i wahoddiad ar TikTok i siarad am y ffaith fod problemau iechyd meddwl yn effeithio mwy o ddynion. Os ti’n gweld y ffigurau o ran faint o ddynion sy’n cymryd bywydau eu hunain, mae ‘na fwy (o ddynion) na menywod. Mae’r stats yna.”

Mae hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr dair gwaith mwy cyffredin ymhlith dynion na menywod – yn 2022 bu farw 4,179 o ddynion drwy hunanladdiad i’w gymharu gyda 1,463 o fenywod.

'Aeth pethau'n ormod'

Mae Alun, sy’n 41 oed, wedi gweithio fel cerddor, fel barbwr ac fel cynhyrchydd cerddoriaeth. Mi aeth ei berfformiad yn gig dathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn 50 yn feiral.

Meddai am y profiad hynny: “Oedd hwnna’n nyts ac wedyn ar ôl hynny aeth pethau’n ormod ac es i bant o’r sîn (gerddoriaeth). Wedyn des i nôl yn iawn yn 2015 mewn band wnaeth droi mewn i Celwyddau ac wedyn oedd e’n ormod eto ac oen i ddim moyn neud e eto. Dwi wedi bod yn cynhyrchu pobl eraill ers hynny.

“O’n i jyst ddim yn hoffi’r sylw o gwbl. Ond o’n i’n siarad i pobl fel (y DJ) Gareth Potter ac mae Tŷ Gwydr yn neud bach o comeback yn yr Eisteddfod ym Mhontypridd. Ac o’n i’ n meddwl, os mae Gareth yn gallu dwi’n gallu.”

Felly mae Alun yn perfformio fel DJ yn Ibiza ym mis Mehefin, profiad mae’n edrych ymlaen ato ond hefyd yn bryderus amdano oherwydd ei brofiadau blaenorol, fel mae’n dweud: “Cyn mynd mas i Ibiza nawr byddai’n cael rhyw fath o anxiety attack yn enwedig pan dwi mas ‘na a mae rhaid fi berfformio tua dau o’r gloch yn y bore.

“Pethau bach fel ‘na sy’n triggero fi. Y sylw cyn y perfformio ac wrth i fi berfformio.”

Ffynhonnell y llun, Alun Reynolds

Cyfnodau anodd

Meddai am ei gyfnodau o anhwylder blaenorol: “O’n i jyst methu neud dim byd o gwbl – o’n i ddim yn siarad i pobl, o’n i ddim yn neud dim byd na mynd mas. Mae’n anodd egluro beth sy’n mynd ymlaen.

“O’n i’n meddwl, se i moyn dim byd 'da’r sîn gerddoriaeth eto. Ond tro ‘ma mae bach yn wahanol achos se i’n bothered am y sylw rhagor – os mae pethau’n digwydd eto maen nhw’n digwydd.”

Erbyn hyn mae Alun, sydd nawr wedi priodi, wedi cael help gyda’i iselder wedi iddo gael cyngor i wneud hynny gan ei ffrindiau a’i deulu: “Dwi wedi cael help oherwydd fod pobl yn dweud ‘ti angen help’. Yn enwedig pan ti’n dechrau snapio ar bobl. Misoedd cyn y briodas wnaeth fy ngwraig ddweud mae angen i bethau newid.

“Mae cyfnodau fel ‘na lle mae’n effeithio nid jest bywyd ti ond bywydau pobl eraill a ti’n gwybod bryd hynny bod ti angen help, yn enwedig os ti wedi bod yn dweud 'na' i gael help.”

Mae Alun wedi datblygu technegau i’w helpu i ddelio gyda’r iselder a’r gorbryder ac mae hefyd yn cymryd meddyginiaeth i ddelio gydag iselder: “Dwi wedi cael sesiynau gyda cynghorydd a hypnotherapydd ac mae pethu fel ‘na’n helpu.

"Os dwi yn mynd i gael cyfnod gwael eto allai fynd nôl i weld y cynghorydd neu’r hypnotherapydd neu siarad i fy ngwraig.”

Mae cymryd y camau yma wedi ei helpu i adfer ei hyder a’i angerdd am gerddoriaeth.

Mae siarad gyda pobl hefyd wedi helpu, meddai: “Ar hyn o bryd mae ‘da ni grŵp lle mae pobl yn siarad arlein o’r enw Cerdded yn Dal ac mae pobl yn dod i fi am gyngor a dwi’n siarad yn syth i nhw. Os ti moyn gwella, sortia dy hun mas nawr.”

Cyngor

A dyma yw cyngor Alun i unrhyw un arall sy’n dioddef gyda problemau iechyd meddwl: “Paid ag ofni – jyst edrych ar ôl dy hun a neud yn siŵr bod y cymorth yna i ti a bod ti’n ymestyn allan i rhywun.

“Mae’n dda i rannu straeon ac ymestyn allan.

“Mae ‘na help allan yna - ond mae’n rhaid i chi edrych am yr help. Mae’n rhaid i chi chwilio am yr help neu allwch beni lan yn rhywle rili tywyll.”

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.