Comisiynydd S4C 'wedi cael profiadau iechyd meddwl ofnadwy'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Dydd yn Eisteddfod yr Urdd wedi dweud ei fod wedi cael triniaeth breswyl ar gyfer ei iechyd meddwl y flwyddyn ddiwethaf, gan orfod cymryd saib o'i waith.
Mae Guto Rhun yn gweithio fel rhan o dîm comisiynu S4C ac yn gyfrifol am holl gynnwys Hansh, ac ef yw Llywydd y Dydd olaf Eisteddfod yr Urdd Meifod.
Dywedodd fod yna "argyfwng iechyd meddwl" o fewn cymdeithas, ond ei fod yn "bwysig iawn" i fod yn agored.
Mae'r Urdd wedi ehangu eu darpariaeth eleni gan lansio partneriaeth gyda band Eden i roi hyder i bobl ifanc ddathlu eu hunain a'r hyn sy'n eu gwneud yn unigryw.
'Wedi cael profiadau ofnadwy'
Dywedodd Guto Rhun "ei fod yn saff i ddweud fod 'na argyfwng iechyd meddwl yng nghymdeithas yn gyffredinol" gan ychwanegu fod yr argyfwng yn "effeithio pobl ifanc a phlant Cymru, sy'n drist ofnadwy".
Yn siarad yn agored, dywedodd ei fod "wedi cael profiadau ofnadwy iechyd meddwl ar draws fy mywyd" a rhywbeth y mae "wastad wedi bod yn rhywbeth dwi wedi byw gyda".
Dywedodd ei fod wedi "cael triniaeth breswyl flwyddyn ddiwethaf" yn sgil "lot o resymau gwahanol".
"Nes i gymryd saib o'r gwaith a chymryd yr amser i wella, a dwi'n eithaf agored am hynny."
Fe bwysleisiodd y pwysigrwydd o fod yn agored wrth drafod iechyd meddwl ac i "chwalu'r stigma".
"Dwi'n credu y mwyaf agored mae rhywun yn gallu bod am unrhyw beth, y gorau," meddai, gan ychwanegu: "Dydi hi byth yn hawdd".
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "rhywbeth dwi'n gorfod gweithio arno bob dydd, ond y mwyaf ti'n rhannu, y mwyaf ti'n gadael i bobl o dy gwmpas wybod beth sy’n mynd ymlaen.
"Maen nhw'n gwybod sut i ddelio a sut i gefnogi, a dyna 'di'r peth pwysig."
'Pwysig bod yn garedig i ti dy hun'
Dywed ei fod yn bwysig i fod "yn garedig i ti dy hun ac i eraill o gwmpas".
"Dwi'n teimlo'n iawn, yn teimlo'n ffantastig heddiw, ond dwi'n gwybod fedrith hynna newid yfory, fedrith newid pnawn 'ma.
"Maen rhywbeth dwi'n gweithio arno yn ddyddiol."
Ychwanegodd mai "na'i gyd ti'n gallu 'neud ydy gweithio ar dy hun, a bod yn garedig i ti dy hun ac i eraill o gwmpas".
- Cyhoeddwyd31 Mai 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
Mae Eden yn lansio partneriaeth newydd gyda'r Urdd i ddathlu hunaniaeth a chynhwysiant.
Fe wnaeth y band pop lansio prosiect Paid  Bod Ofn (PABO) yn gynharach eleni, gyda'r weledigaeth o "ddysgu, deall a dathlu".
Ychwanegodd Guto Rhun fod yr hyn mae Eden wedi'i wneud yn "hynod o bwysig", gan ddweud ei fod yn "byw lot o fy mywyd i mewn ofn" gan ategu fod "pethau yn mynd i fod yn ok".
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.