Apelio am ddyn coll yn ardal Caernarfon

WilliamFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll.

Does neb wedi gweld William ers iddo fynd ar fws oedd yn teithio o Gaernarfon i gyfeiriad Cricieth brynhawn Sadwrn, 28 Rhagfyr.

Roedd yn gwisgo trowsus brown, côt las, cap fflat, bag ac mae'n bosib ei fod yn cario ymbarél.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhywun sydd wedi ei weld i ffonio 101.