Yr academydd o Gymru sy'n helpu achub pengwiniaid De America

Mae'r tagiau yn monitro'r pengwiniaid ar ddechrau eu taith yn ôl i'w cynefin
- Cyhoeddwyd
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect sy'n ceisio achub pengwiniaid sy'n mynd i drafferthion 6,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Ne America.
Mae Dr Gui Bortolotto yn dod yn wreiddiol o Frasil ac yn arbenigwr ar dracio anifeiliaid y môr.
Wrth i'r pengwiniaid nofio tua'r gogledd i chwilio am fwyd, mae rhai – yn aml y rhai ieuengaf – yn mynd ar goll ar dir sych ym Mrasil - 1,500 o filltiroedd o le maen nhw'n bridio ym Mhatagonia.
Nawr Dr Bortolotto yn cydweithio gyda sefydliad yn ei wlad enedigol sy'n ceisio adsefydlu'r pengwiniaid Magelanaidd sy'n mynd ar goll.

Mae Dr Bortolotto yn gweithio gyda sefydliad i roi tag ar bengwiniaid sydd wedi gwella cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau
Mae Dr Bortolotto yn gweithio gyda'r sefydliad R3 Animal Association o Frasil i roi tag ar bengwiniaid sydd wedi gwella cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, fel bod modd eu monitro a dilyn eu taith yn ôl i'w cynefin.
Dywedodd Dr Bortolotto: "Trwy osod trosglwyddydd lloeren fach ar y pengwiniaid ychydig cyn iddynt gael eu rhyddhau yn ôl i'r cefnfor, gallwn gael gwybodaeth werthfawr am eu lleoliadau ac i ba gyfeiriad y maent yn teithio.
"Mae gallu olrhain y pengwiniaid sydd wedi'u hadsefydlu yn bwysig er mwyn deall i ba raddau y mae'r ymdrechion adsefydlu wedi bod yn llwyddiannus."

"Dyw hi ddim yn ymddangos bod y tagiau yn poeni'r anifeiliaid o gwbl," meddai Dr Bortolotto
O'r pengwiniaid gafodd eu tagio y llynedd, dangosodd y data o'r lloeren eu bod wedi cyrraedd lleoliad "yn agos iawn at eu nythfa ym Mhatagonia" yn ôl Dr Bortolotto.
Roedd dau gafodd eu tagio eleni wedi dangos "symudiadau diddorol iawn ac efallai rhywfaint o ryngweithio gyda gweithgareddau dynol".
Mae'r tag yn cael ei gysylltu i blu ar gefn y pengwiniaid, yn ôl Dr Bortolotto, sydd wedi'i hyfforddi mewn milfeddygaeth.
Mae'n broses "hollol ddiogel", meddai, a bydd y tagiau yn cwympo i ffwrdd pan mae'r pengwiniaid yn newid eu plu ar ôl ychydig o fisoedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.