Rhoi lle i hiwmor tywyll mewn nofel newydd
- Cyhoeddwyd
Mae hiwmor tywyll a’r ffin denau sydd rhwng y digrif a’r dwys yn bwysig iawn i Ffion Emlyn o Feddgelert, awdures y nofel Pen-blwydd Hapus?.
Er mai dyma ei nofel gyntaf, mae Ffion sy’n gynhyrchydd drama i BBC Radio Cymru, yn hen gyfarwydd ag ysgrifennu dramâu, deialog a golygu sgriptiau.
Ond er ei bod wedi gweithio gyda llu o awduron ac actorion proffesiynol, mae’r sgetsys a'r deialogau a berfformiai'n blentyn yn y festri ym Meddgelert gyda phawb o’r pentre’n cymryd rhan yn parhau i'w hysbrydoli.
Roedd hiwmor yn bwysig yn y dyddiau diniwed hynny. Ond gyda throeon bywyd, mae Ffion wedi dod i ddeall sut gall hiwmor wneud sefyllfaoedd anodd yn haws.
“Dwi wedi profi tipyn o golled dros y blynyddoedd ac yn sicr fyswn i ddim wedi ymdopi efo’r cyfnodau anodd heb allu chwerthin.”
‘Pwysau i ddathlu pen-blwyddi’
Mae’r nofel yn dilyn stori Martha, sy’n derbyn anrheg arbennig gan ei rhieni ar ei phen-blwydd yn 32 mlwydd oed. Mae’r anrheg yma yn ei gyrru hi ar daith fydd yn newid ei bywyd am byth.
“Mae’r syniad gen i ers tipyn o flynyddoedd, sef y syniad o rywun yn mynd ar daith i chwilio am rywbeth, gyda phobl yn ymuno â hi nes yn y diwedd bod yna griw mawr ar y daith.
“Roedd y syniad o rywbeth mawr yn digwydd ar ben-blwydd hefyd yn apelio gan fod yna bwysau ar bobl i fwynhau a dathlu pen-blwydd.”
Gyda chyllell waedlyd yn torri trwy gacen pen-blwydd yn ddarlun clawr, mae awgrym i’r darllenwr cyn troi tudalen bod mwy i’r pen-blwydd yma na balŵns a phresantau.
Eglura Ffion: “Mae ’na elfen o thriller ynddo fo a whodunnit? a mae hynny yn rhywbeth dwi’n fwynhau fel cyfrwng.
“Mae’r stori’n cychwyn gyda Martha, y prif gymeriad, yn gorwedd ar ei gwely efo gwaed drosti a chyllell yn ei llaw. Dydan ni ddim yn gwybod gwaed pwy ydy o... Yn raddol ’dan i’n gwybod bo’ ’na gorff, a bach mwy am be’ sy’ ’di digwydd felly mae ’na elfen gry' o nofel dditectif yma ac o’n i isio hynny.”
‘Oedran sydd ddim yn cael lot o sylw’
Daeth cymeriadu Martha fel dynes yn ei 30au cynnar yn ddewis rhwydd i Ffion, ac er ei bod yn nofel i unrhyw un ei mwynhau, mae’n gobeithio y bydd merched yn yr ystod oedran hynny’n cael blas arni.
“Er bo’ fi’n hŷn na hynna, dyna’r oed o’n i’n anelu ato fo wrth ’sgwennu achos dwi’n meddwl pan o’n i yn yr oed yna, do’n i ddim yn teimlo bod yna nofela’ i fi yn Gymraeg.
“Mae ’na oedranna’ lle ti’n cwestiynu dy fywyd a dy benderfyniada’ ac wrth i chdi fynd yn hŷn ti’n ’neud o fwy...
“Ella bod hwnna yn oed lle ti ’di bod drwy coleg, falla ti 'di cael swydd dda a ti ar ryw fath o groesffordd o ran perthynas neu waith.
“Mae o’n oed difyr ond ella yn oed sydd ddim yn cal lot o sylw.”
‘Jest gwna fe’!
Tra bu’r syniad tu ôl i’r nofel yn ffrwtian yn ei meddwl am flynyddoedd, mae ei diolch mwyaf am roi tân arni i’w hysgrifennu i’r cerddor a’r actor Geraint Griffiths.
“Oedd ’sgwennu nofel yn rwbath o’n i wastad yn meddwl faswn i’n ’neud a dwi’n mynd 20 mlynedd yn ôl neu fwy ’wan. Dwi’n cofio Geraint Griffiths, oedd ar y ddrama radio Rhydeglwys ar y pryd; oeddan ni’n siarad am y petha’ oeddan ni isio ’neud mewn bywyd a neshi ddeud bo’ fi isho sgwennu nofal a nath o ddeud ‘Jest ’na fe!’."
Ysgrifennu ar ôl galar
Ond aeth y blynyddoedd heibio a Ffion dal heb fynd ati i ysgrifennu’r nofel nes y daeth cyfnod Covid.
Mae Ffion yn cyfaddef mai’r her fwyaf un iddi oedd ysgrifennu eto ar ôl colli ei chwaer, Nia, i diwmor yr ymennydd.
“Neshi ddim ’sgwennu dim am ddeng mlynadd ar ôl colli Nia. Neshi stopio ’sgwennu, darllan, gwrando ar gerddoriaeth... stopio gallu ymgolli mewn pethau creadigol, yr holl betha’ oedd yn gwneud fi yn fi.
“Mae galar yn elfen fawr o pam wnes i ddim cychwyn ’sgwennu’r nofal nes o’n i bron yn 50. Yn raddol a drwy golledion eraill mi ddoth yr ymgolli a gallu gadael fy hun i ddianc i fyd arall. Mae o’n neis cael yr egni yma yn ôl.”
Hiwmor tywyll
Yn gweu drwy’r nofel mae hiwmor, sy’n dangos sut mae’r cymeriadau’n delio gyda sefyllfaoedd anghyfforddus. Ac yn ôl Ffion, er bod ganddi "hiwmor tywyll erioed”, mae wynebu profiadau anodd wedi rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddi o sut mae hiwmor yn codi ei ben mewn sefyllfaoedd trist.
“Pan aeth fy chwaer yn sâl, wnaethon ni chwerthin drwy’r cyfnod bron a dwi mor lwcus bod hi wedi gadael fi ’neud hynna achos faswn i heb allu ymdopi efo y cyfnod yna heb fedru chwerthin.
“Pan oedd gan Nia y tiwmor yn pwyso ar ei ymennydd hi reit yn dechra’ doedd hi ddim yn cofio ddim byd yn llythrennol o bum munud cynt felly o’n i’n gorfod deud wrthi bob pum munud bod ganddi diwmor.
“Mae deud wrth dy chwaer am y tro cynta’ bod ganddi diwmor ddigon anodd ond mae deud wrthi bob pum munud yn mynd yn ffars, achos oedd hi wedyn yn deud, 'O ia, dwi'n gwbod hyn dydw' a finna'n deud 'Wyt', a hitha'n gofyn 'Wel pam dwi'n 'sbyty ta? a finna' eto 'Achos gen ti diwmor'.
“Dwi’n cofio rhywun yn pasio ac yn edrych arnan ni efo’r olwg ofnadwy, y byd ar ben yma, ag oeddan ni jest yn chwerthin achos oedd y sefyllfa yn un ddoniol.
“Default fi ydi mynd i hiwmor mewn unrhyw sefyllfa anghyfforddus neu anodd. Mae’r hiwmor yna yn sicr yn y nofal.”
Y gymdeithas lengar ym Meddgelert
Dros y blynyddoedd mae Ffion wedi gweithio fel golygydd sgript a chynhyrchydd ar nifer o operâu sebon, fel Eileen/Rhydeglwys, Pobol y Cwm, Casualty a nifer o ddramâu a chomedïau radio.
Fel un a gafodd ei magu ym Meddgelert a’r gymdeithas lenyddol yn gref yno wrth iddi dyfu i fyny, mae creu deialog wedi bod yn broses naturiol iddi erioed:
“Dwi’n ’sgwennu deialog a drama ers bo’ fi’n hogan fach a wedi cael fy magu mewn tŷ lle oedd hynna’n digwydd yn naturiol.
“Oedd Mam yn ’sgwennu sgetsys bach i’r gymdeithas yn pentra a roedd plant y pentra yn perfformio nhw wedyn yn y festri ym Meddgelert."
Sut brofiad oedd ysgrifennu nofel o gymharu â chynhyrchu neu ysgrifennu drama?
“Y pace o’n i’n stryglo fwya’ efo, o’n i isio cyrraedd rhyw bwyntia' a mae nofel yn hir dydi? Mae’n cymryd amser i ’sgwennu nofal, i greu y byd yma efo llai o ddeialog.
“Felly geshi bwl mawr o ddiffyg hyder ond neshi gymryd brêc, dod yn ôl ati a prynu bwrdd gwyn nath helpu o ran y llinall amsar; unwaith neshi ddechra' ’sgwennu mi ddoth o wedyn.
Mae Ffion hefyd yn credu mewn newid awyrgylch a lleoliad wrth ysgrifennu:
“Yn ystod wythnos yn Fuerteventura wnes i ’sgwennu’r rhan fwya’!”
"Dwi’n gredwr cry’ ar fynd i ffwrdd dramor i weithio a mynd i gaffis er ’mod i’n swnio yn pretentious iawn yn deud hynna!”
Wrth adlewyrchu ar y cyngor roddodd Geraint Griffiths iddi flynyddoedd yn ôl, "Jest gwna fo" fyddai ei chyngor hithau i unrhyw un sy’n awyddus i roi cynnig ar ysgrifennu nofel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd19 Ebrill