Andrew Teilo: Actor, awdur, cerddor
- Cyhoeddwyd
Mae Andrew Teilo yn adnabyddus iawn i ni am bortreadu Hywel Llywelyn ar yr opera sebon Pobol y Cwm. Ond wyddoch chi ei fod hefyd yn awdur?
Er yn wyneb cyfarwydd ar ein sgriniau ers 1991, mae'r actor hefyd wedi bod wrthi'n ysgrifennu, ac wrth iddo gyhoeddi ei gyfrol gyntaf o straeon byrion - Pryfed Undydd - mae'n dweud nawr ei fod wedi dechrau rhoi ei syniadau ar bapur, does ganddo ddim bwriad o stopio...
Actor
Do'n i byth wedi bwriadu mynd yn actor - 'nes i gwympo mewn i'r peth.
'Nes i ddechrau ar radd dysgu yng Ngholeg y Drindod yn 1989, ond sylweddoli'n eitha cyflym nad dyna'r cwrs i mi (mae'n cymryd rhywun gwell na fi i fod yn athro!). Tra o'n i yna, ges i ran ar gyfres Tydi Bywyd yn Boen, fel athro Ffrangeg o'r enw Siôn/Jean, a ges i lot o hwyl.
O hynny mlaen, 'nes i weld actio fel opsiwn gyrfaol, ac o fewn misoedd, 'nes i ddarllen ar gyfer rhan Hywel Llywelyn ar Pobol y Cwm yn 1991. 'Mond rhyw 15 pennod gynigwyd i mi, ond fe ddatblygodd y 15 pennod yn rhywbeth tipyn mwy... 32 mlynedd i lawr y lein, mae'n yrfa. Mae'n rhywbeth dwi wedi ei fwynhau.
Mae Hywel wedi bod yn rhyw fath o rôl model personol i fi o sut i beidio â bod! Dwi wedi bod yn ffodus fod y cymeriad wedi cael mwy na'i siâr o straeon da, a dwi'n ddiolchgar am hynny.
Carwriaethau mae pobl yn cofio Hywel yn bennaf amdanyn nhw. Ar ddechrau cyfnod Hywel ar y gyfres, cafodd e garwriaeth gyda Beth Leyshon, prifathrawes yr ysgol gynradd, ac mi oedd yr ymateb yn ffyrnig.
Roedd rhai yn gweld mai ffuglennol oedd yr holl beth... ond roedd e'n syndod i fi faint o bobl oedd yna yn methu gwahaniaethu. Mi ges i hen ddynes mewn siop yng Nghaerfyrddin yn fy mhwnio i 'da'i handbag ac yn fy ngalw i bob enw dan yr haul! 'Waw!', meddyliais. 'Yfe dyma'r effaith mae'r gyfres ma'n ei gael ar bobl?!' Oedd e'n agoriad llygad gwirioneddol.
Dwi 'di bod yn lwcus iawn mod i wedi cael cysondeb gwaith, ac mae'r cymeriad wedi bod yn un diddorol. Mae'n bleser ac yn sbort.
Awdur
Ond fi'n credu, tasen i wedi gorfod dewis unrhyw yrfa, bydde fe wedi ymwneud â geiriau rhyw ffordd; nid dehongli geiriau rhywun arall, ond bod yn gyfrifol am greu'r geiriau eu hunain. Roedd hynny bob amser yn ddileit mawr i mi, ers pan o'n i'n blentyn bach. O'dd Mam-gu yn dweud, 'o'dd wastod bensil neu bapur yn dy law' os oeddet ti'n darlunio neu'n ysgrifennu, doedd dim dal'.
Dwi wedi cyfrannu erthyglau i wahanol gylchgronau a phapurau newydd dros y blynydde, ond nawr dwi'n teimlo bo' fi'n bwrw iddi o ddifri, a dwi ddim yn bwriadu stopio achos mae'r cythrel bach wedi cydio yndda fi go iawn, a dwi'n mynd i wrando arno fe.
Yn 2018, 'nes i ddechrau ar gwrs MA mewn ysgrifennu creadigol gyda Phrifysgol Abertawe. Dwi'n meddwl, yn ei hanfod, profi rhywbeth i fi'n hunain o'n i trwy gael lle ar y cwrs. O'n i wedi cyrraedd lle lle o'n i eisiau gweld 'pa mor dda wyt ti, ydi'r gallu gen ti?'.
Fi'n credu fod unrhyw un creadigol yn fodau digon bregus yn y pendraw, ac maen nhw angen y bobl 'na sy'n gweud wrthyn nhw 'mae 'na ddilysrwydd yma, bwrw iddi'.
Enillais i'r radd yn ystod y Clo Mawr; 'na pryd nes i'r rhan fwyaf o ngwaith ysgrifennu at y cwrs. Achos ges i'r cyfle 'na o ychydig o fisoedd i wneud y gwaith, 'nes i fwrw iddi o ddifri, ac o'dd hynny'n dangos i fi nad o'n i'n ei 'neud e am mod i'n gorfod - o'n i'n ei 'neud e am mod i wirioneddol eisiau.
A bydd yr atgof gyda fi am byth o eistedd ar y patio yma, ac o'dd hi'n wanwyn eithriadol o boeth, braf, yn eistedd tu fas jest yn ysgrifennu - ac mae hwnnw'n atgof melys iawn.
Dwi'n teimlo erbyn hyn mod i'n diwallu rhywbeth sydd wedi bod yn ddwfn ynof fi ers fy mhlentyndod. Oedd yr arwyddion 'na yn gynnar iawn, pan 'nes i ofyn i Siôn Corn am deipiadur bach glas pan o'n i'n wyth neu naw mlwydd oed. Yn ôl Mam am rhyw flwyddyn neu ddwy, o'dd y sŵn o minnau'n clatsho allweddellau'r teipiadur yn mynd ar ei nerfau hi yn fwy na dim byd arall. Ond mi o'n i'n ddiwyd, o'r eiliad ges i'r teipiadur 'na, doedd dim stop arna i.
Dwi wedi sylweddoli, mae rhywun yn dinoethi ei hunan llawer mwy fel llenor na fel actor, achos gyda gwaith actio, mae wastad cymeriad i guddio tu ôl iddo fe, a does dim modd i unrhyw un 'nabod yr actor yn y ffordd honno.
Gyda geiriau mae rhywun yn ei roi o'i ben a'i galon ar bapur, mae'n agor y drws i rannau helaeth ar ddatgelu rhywfaint amdano'i hunain. Ac mae'n dweud rhywbeth fod yn well gen i glywed pobl eraill yn eu dehongli yn hytrach na mod i yn eu cyflwyno nhw, er dwi ddim yn gwybod pam...
Mae'r gyfrol yn gymysgedd go iawn o straeon; mae 'na elfennau hunangofiannol, mae 'na eraill sy'n deillio o waith ymchwil dwi wedi ei 'neud ar hanes teulu, a jest ffuglen pur.
Thema fawr a phwysig yw 'colled'. Ysgrifennais y storïau yn y cyfnod ar ôl i 'Nhad farw, ac roedd dygymod â hynny'n pwyso'n drwm ar y gwaith. Yn blentyn, credwn fod fy nhad yn anninistriadwy, yn un nad oedd modd i'r un dim ei orchfygu. Mae colli rhiant yn codi pob math o gwestiwn yn y plentyn am ei feidroldeb yntau hefyd... ei le yn y Drefn Fawr yn ogystal â'r drefn deuluol, a diflaniad dylanwad pwysig.
Mae cyhoeddi'r gyfrol yn gam mawr ac yn dipyn o naid. Ond mae'r cynnwrf yn fawr hefyd.
O'dd e fel tynnu'r corcyn o botel. Mae rhain yn syniadau sydd wedi bodoli ers blynyddoedd, ond nawr mod i wedi cael y dilysrwydd 'na, dwi'n bwriadu gwneud rhywbeth gyda nhw.
Cerddor
Dwi'n gweld cerddoriaeth ac ysgrifennu yn rhan o'r un peth, mewn ffordd. Oedd saernïo'r geiriau wastad yn bwysig i mi. Unwaith o'n i'n hapus gyda'r gerddoriaeth, o'n i'n llyfu gweflau yn meddwl am y geiriau... o'n i wir yn mwynhau sgrifennu'r lyrics.
O'n i'n ei theimlo hi'n hawdd canu fy nghaneuon ond gyda adrodd fy ngwaith ysgrifennu, mae'n fwy brawychus... tybed pam?
Ydi rhywun yn teimlo fod yna fwy o bellter rhwng y canwr â'r gynulleidfa na'r awdur â chynulleidfa? Ydi rhywun yn dinoethi ei hunan mewn ffordd mwy amlwg yn llenydda, pan mae'n sgwennu straeon? Dwi ddim yn gwybod.
Efallai, os yw lyrics cân yn dda, maen nhw'n medru ymdebygu i farddoniaeth, ac mae barddoniaeth yn medru bod dwtsh yn astrus, nad yw'r ystyr fel mae'n ei ymddangos. Dyw nghaneuon i ddim yn farddoniaeth o bell ffordd, ond mae 'na bethau cuddiedig, pethau sydd ddim fel maen nhw'n ymddangos ar yr olwg gynta'.
Dwi wedi bod gyda gwahanol fandiau ar hyd y blynydde, a dwi dal i recordio stwff - mae gen i stiwdio yn y garej - a dwi dal i fynychu gigs mor aml ag y galla i. Mae'n un o bethau pwysica' fy mywyd i - alla i ddim â gadael i gerddoriaeth fod.
Actor. Awdur. Cerddor. Dyna lle mae pethau ar y foment... ond fe allai'r drefn newid.