Jonathan Davies yn ymddeol o rygbi proffesiynol

Jonathan Davies Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr Cymru, Y Llewod a'r Scarlets, Jonathan Davies, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi proffesiynol.

Fe adawodd y canolwr 36 oed y Scarlets ddiwedd y tymor diwethaf wedi iddo sgorio 55 o geisiau gan ymddangos 209 o weithiau i'r tîm o Lanelli.

Fe enillodd 96 o gapiau i Gymru a chafodd ei ddewis ddwywaith i fynd ar deithiau'r Llewod.

Mae Davies wedi cadarnhau ei fod bellach am ganolbwyntio ar dreulio amser gyda'i deulu ar ôl camu i ffwrdd o'r gêm.

Fe nododd ar ei gyfri Instagram: "Ar ôl cymryd ychydig o amser i ffwrdd o'r gêm yn dilyn fy nhymor olaf gyda'r Scarlets, dwi wedi penderfynu dod â fy ngyrfa rygbi proffesiynol i ben".