Cannoedd heb drydan a thrafferthion i deithwyr wrth i Storm Amy daro

Coeden wedi disgyn ar ffordd yn ardal Mynachlog-ddu yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gartrefi heb drydan a rhai gwasanaethau trên wedi eu heffeithio wrth i Storm Amy achosi trafferthion mewn rhannau o Gymru.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi sawl rhybudd melyn am wyntoedd cryfion dros y penwythnos.
Yn ôl ffigyrau cwmni National Grid roedd dros 600 o gartrefi heb gyflenwad trydan yn Sir Gaerfyrddin nos Wener.
Dywedodd SP Energy fod rhai aelwydydd heb drydan yn ardaloedd Y Bermo, Machynlleth, Tywyn, Dolgellau, Llanymynech, Dinbych, Y Bala a Llangollen hefyd.
Mae gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru rhwng Amwythig a Wrecsam wedi eu gohirio ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein yn ardal Gobowen.
Roedd cwmni Stena Line eisoes wedi canslo teithiau fferi rhwng Abergwaun a Rosslare yn sgil y tywydd, ac mae Irish Ferries yn annog teithwyr i wirio'r wybodaeth ddiweddaraf cyn dechrau eu siwrne, er nad ydynt wedi canslo unrhyw daith eto.
Mae'r rhybuddion diweddaraf i yrwyr ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Mae rhybuddion melyn mewn grym ar gyfer pob rhan o Gymru am gyfnod ddydd Sadwrn
Daeth un rhybudd melyn am wyntoedd cryfion i rym brynhawn Gwener, ac mae'n parhau mewn grym nes 23:59 nos Sadwrn.
Mae'r rhybudd hwnnw yn berthnasol i Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys, Ceredigion, Wrecsam, Gwynedd ac Ynys Môn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol, mae disgwyl gwyntoedd rhwng 50-60mya mewn nifer o ardaloedd, gyda thir uwch yn profi hyrddiadau rhwng 60-70mya.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r storm ddifrodi adeiladau, effeithio ar drafnidiaeth a chyflenwadau pŵer, a hyd yn oed peryglu bywyd.
Rhybudd arall am wynt ddydd Sadwrn
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn arall am wyntoedd cryfion a fydd yn dod i rym am 00:00 fore Sadwrn ac yn para nes 19:00 nos Sadwrn.
Mae'r rhybudd hwn yn berthnasol i Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.
Mae'n golygu bod rhybudd ar gyfer pob rhan o'r wlad am gyfnod ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl hyrddiadau o tua 45-55mya mewn mannau gyda'r arfordir yn profi hyrddiadau o 60-65mya.
Dros rannau eraill o Brydain mae rhybuddion ambr mewn grym ar gyfer gwynt, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am wyntoedd o hyd at 95mya mewn mannau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.