Menyw wedi cael ei llusgo tu ôl i'w char wrth iddo gael ei ddwyn

Fe gafodd Angela Johnson ei llusgo gyda'r car ar ôl i leidr neidio i mewn a gyrru i ffwrdd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Gasnewydd a gafodd ei char wedi'i ddwyn wedi disgrifio sut y cafodd ei llusgo y tu ôl i'r cerbyd wrth i'r lleidr yrru i ffwrdd.
Roedd Angela Johnson, 53, yn danfon tecawê ar Islwyn Road yn Wattsville, Sir Caerffili, brynhawn Sul pan gafodd ei gwthio o'i char, cyn i ddyn neidio i mewn a gyrru i ffwrdd.
Fe gafodd yr Audi A1 glas ei adael llai na hanner awr yn ddiweddarach yn St John's Terrace, Crosskeys ond doedd ffôn, bag, nac arian Angela ynddo.
Mae Heddlu Gwent yn apelio am unrhyw wybodaeth allai helpu eu hymchwiliad.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i'r car, ond doedd eiddo Angela ddim ynddo
Dywedodd Angela bod y lleidr yno'n syth ar ôl iddi barcio: "Nes i agor y drws, codi fyny, ond ges i ddim cyfle i dynnu fy allweddi allan o'r car.
"Glywes i lais tu ôl i fi'n dweud 'dwi moyn dy gar'. Neidiodd i mewn i sedd fy nghar gan fy ngwthio o'r ffordd, a slamio'r drws."
Ychwanegodd Angela ei bod wedi ceisio ei atal rhag cymryd y car: "Nes i ymladd gyda fe, ac agor y drws arno.
"Roedd yn ymladd yn ôl ac ymlaen gyda'r drws.
"Y peth nesaf fe yrrodd i ffwrdd yn gyflym, gan gymryd fi gydag ef rhywfaint o'r ffordd, ac ro'n i ar y llawr."
Dywedodd Angela bod y digwyddiad wedi para tua munud.
Dim ond mân anafiadau ddioddefodd Angela, ond mae wedi ei dychryn ac mae'n teimlo'n ddig ac yn drist.
"Ro'n i'n sgrechian. Nes i gwympo mewn ofn," meddai.
'Cymerodd e bopeth'
Cafodd Angela help gan bobl oedd yn byw ar y stryd, ac fe ffonion nhw'r heddlu gan nad oedd ffôn ganddi.
"Fe gymerodd e bopeth, fy ffôn, fy nghar, fy mag," meddai.
Fe gyrhaeddodd yr heddlu o fewn munudau.
Llwyddodd Angela dracio lleoliad ei ffôn a sylweddolodd bod y car wedi stopio llai na hanner awr yn ddiweddarach.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu'r car, roedd yn wag ac roedd nifer o'i heiddo - gan gynnwys offer oedd ei angen arni ar gyfer ei swyddi fel glanhawr - ar goll.
'Dyw e ddim werth fy anadl'
Dywedodd Angela fod y car gyda'r heddlu nawr, felly dyw hi methu ei ddefnyddio a dyw hi ddim yn teimlo'n ddigon da i weithio.
"Dydw i ddim yn ymdopi'n dda iawn," meddai.
"Dydw i ddim yn cysgu, fi jyst yn cerdded o gwmpas mewn cylchoedd oherwydd dydw i ddim yn gwybod beth i wneud."
Mae Angela hefyd yn wynebu anawsterau nawr o ran mynd â'i mam, sy'n sâl, i'r ysbyty.
"Dyw e ddim werth fy anadl i," meddai.
"Byddwn i'n ei alw'n sgym pe bawn i'n ei weld oherwydd dyna beth yw e," ychwanegodd.
Dywedodd Heddlu Gwent bod swyddogion wedi dod o hyd i'r car yn St John's Terrace, Crosskeys, tua 22:50.
Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth, lluniau CCTV neu luniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.