Tair cenhedlaeth yn hel calennig yn Nantmor
- Cyhoeddwyd
Blwyddyn newydd dda i chi, ac i bawb sydd yn y tŷ! Dyna yw'n dymuniad ni, blwyddyn newydd dda i chi!
Ers talwm byddai'n arferiad i gnocio drysau ar Ddydd Calan i hel calennig gan ganu hen benillion.
Er fod y traddodiad yma wedi pylu yng Nghymru erbyn heddiw, mae'n parhau'n gryf ym mhentref Nantmor ger Beddgelert.
Cymru Fyw gafodd air gyda thair cenehedlaeth o'r un teulu, June Jones, ei merch Megan Cynan Corcoran, a Caio - ŵyr i June a nai i Megan, am eu hatgofion a beth mae'r traddodiad yn ei olygu iddyn nhw.
'Ffrwythau ac ychydig geiniogau'
Atgofion June:
Roedd rhaid i ni fod yn barod i gychwyn ar ein taith calennig yn Nantmor erbyn naw y bore ar y cyntaf o Ionawr, pawb o blant y pentref yn mynd hefo'i gilydd.
Mae'n siŵr mai y plant hynaf oedd yn trefnu. Cychwyn yn y ffermydd pella' yn gyntaf, Dinas Ddu ar y lôn waelod.
Hyn yn dibynnu ar be' oedd y tywydd wrth gwrs, os byddai'n rhy wlyb doeddan ni ddim yn mynd mor bell!
Yn ddiweddarch, pan oeddwn tua 10 oed byddai mam un o'r plant yn mynd â ni mewn car gan fod y lôn yn beryg.
Canu yn nrysau'r pentref wedyn, 'Calennig i ni a Blwyddyn Newydd Dda i chithau' (gweiddi chithau yn uchel iawn er mwyn cael sylw y preswylwyr!)
Rhan amlaf, ffrwythau oeddem yn ei gael ac ychydig geiniogau. Yn ffermdy Gardd Llygaid y Dydd roeddem yn cael papur punt i'w rannu.
Ym mhen uchaf y pentref, y pella oeddem yn mynd oedd i Golchdy Dolfriog. Mae'n siŵr bod tua pedair milltir i gerdded o un rhan i'r llall.
Byddai fy Mam yn sôn eu bod nhw'n cychwyn llawer cynt ac yn cerdded am filltiroedd. Orennau oeddent yn eu cael rhan amlaf a byddai fy Nain yn disgwyl iddynt gyrraedd yn ôl iddi gael gwneud marmalêd.
Roedd pump o blant yn eu tŷ nhw felly digon o orennau! Hefyd yn ei chyfnod hi roedd rhaid cael llwyad o asiffeta ar ôl cyrraedd adre i helpu gyda threuliad ar ôl cael rhywbeth melys!
Diflas iawn oedd cychwyn mynd â'n plant i hel calennig yn yr 80au, un tŷ yn enwedig eisiau i'r plant ganu Jingle Bells yn lle ein ymadrodd hanesyddol ein hunain!
Rhaid gorffen hel calennig erbyn canol dydd.
'Blwyddyn newydd ddrwg, llond y tŷ o fwg!'
Atgofion Megan:
Nath fy Mam atgyfodi calennig yn Nantmor pan oeddan ni yn blant bach. Oedd hi'n 'neud calennig pam oedd hi'n ifanc wedyn nath pobl anghofio amdano fo felly mi benderfynodd Mam ei atgyfodi yn yr 80au gan fynd â fi, fy mrawd a phlant y pentra i hel calennig.
Mae 'na gyfoeth o benillion calennig yn perthyn i'r Gymraeg ond ein traddodiad ni yn Nantmor ydy cadw pethau yn syml a dweud 'Calennig i ni a blwyddyn newydd dda i chithau' a dyna ni.
Calennig pan oeddan ni yn blant oedd be' bynnag oedd dros ben ers y 'Dolig – hyd yn oed y siocledi Quality Street amhoblogaidd oedd ar ôl yn y tin.
Dwi'n cofio'r teimlad o galennig ola' pan o'n i'n 13, 'mod i'n mynd bach yn rhy hen i hyn ac y dylwn i adael i'r plant fenga' gael y siocledi, ac mai fy nghyfrifoldab i o hyn allan fyddai agor y drws a deud blwyddyn newydd dda yn ôl wrth y plant, (a rhoi calennig wrth gwrs!).
Yna pan ges i blant, mi ddechreuais i fynd â nhw. Mae gan fy mhlant i running joke, fod Mam mond yn rhoi pres a thanjarîns, sef y traddodiad pan oedd hi'n blentyn. Fyddan nhw'n arfer dweud; 'Oes raid i ni fynd i tŷ Nain i hel calennig achos 'dan ni jest yn mynd i gael 10 ceiniog a thanjarîn, rydan ni'n cael Mars bars full size yn nhŷ hwn a'r llall'!
Mae gan bobl yr argraff fod pawb yn neis a phawb isio gweld plant ond roedd yna un tŷ pan oeddan ni yn blant lle basa'r ddynes yn ein hel ni o'r drws ac mi oeddan ni'n deud 'Blwyddyn newydd ddrwg, llond y tŷ o fwg' wrthi.
Un flwyddyn mi aeth ei thŷ hi ar dân ac mi oeddan ni yn poeni mai ni oedd wedi ei melltithio hi wrth ddweud 'Blwyddyn newydd ddrwg, llond y tŷ o fwg'! Yn amlwg nid ni wnaeth, ond mi oeddan ni yn ofalus iawn o beth roeddan ni'n ei ddweud o'r flwyddyn honno ymlaen.
Erbyn heddiw 'dan ni mewn ardal sydd gyda nifer uchel o AirBnb felly fyddwn ni'n rhoi nodyn yn dweud wrth bobl mai dyma'r traddodiad yn yr ardal yma, ai fod yn draddodiad Cymreig. Rydan ni'n dalld nad ydy pawb isio plant yn galw ben bora ar ôl noson hwyr yn dathlu'r flwyddyn newydd, ond mae'r croeso fel arfer yn gynnes.
Eleni, mi fydda i, Mam, a Caio, fy nai naw mlwydd oed, yn casglu ynghyd gyda phlant a rhieni Nantmor i hel calennig unwaith eto.
Mae o'n beth cymunedol a beth sy'n braf ydy gweld traddodiad Cymreig yn cael ei fabwysiadu gan bobl sydd wedi dod yma i fyw.
Mae'n ein uno ni fel pentra' ac mae'n gyfle i ddweud Blwyddyn Newydd Dda wrth bobl hŷn Nantmor a phobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain.
Yna erbyn hanner dydd mi fydd pawb yn dychwelyd i'w cartrefi, a'r plant yn gwledda ar eu siocledi.
Dwi'n gobeithio y bydd yna ddigon o blant yn Nantmor mewn blynyddoedd i ddod fel fod y traddodiad yn parhau, a dwi mor falch fod Mam wedi ailgyflwyno traddodiad oedd mor bwysig iddi hi a fy Nain.
'Dwi isio cadw'r traddodiad'
Atgofion Caio, 9 mlwydd oed:
Dwi'n hoffi hel calennig achos mae pawb yn dod at ei gilydd, ac mae hynny yn neis, a dwi'n licio croesawu mis Ionawr achos dwi'n cael fy mhen-blwydd.
Dwi isio cadw'r traddodiad yn Nantmor!
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2021