Ymgynghori ar godi tâl am barcio ar bromenâd Aberystwyth

Aberystwyth
  • Cyhoeddwyd

Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar gynigion i godi tâl am barcio ar y promenâd yn Aberystwyth.

Nod y cynllun yw rheoli'r galw am barcio yn well drwy annog pobl i ddefnyddio meysydd parcio oddi ar y stryd.

Byddai cyflwyno tâl am barcio ar y stryd yn helpu i ariannu costau’r cynllun, a byddai unrhyw incwm ychwanegol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae digon o lefydd parcio ar gael yn eu maesydd parcio nhw a rhai preifat, felly does dim disgwyl i hyn arwain at broblemau parcio mewn mannau eraill.

Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cynyddu trosiant cerbydau ar y stryd, cefnogi busnesau lleol a hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae hefyd yn anelu at leihau tagfeydd traffig yng nghanol y dref a hybu teithio llesol.

Bydd deiliaid bathodyn glas yn parhau i fod wedi’u heithrio o dalu am barcio, ac o unrhyw gyfyngiadau amser.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson: “Mae promenâd Aberystwyth yn lleoliad gwerthfawr yng nghanol y dref.

"Pwrpas y cynllun yw creu trosiant o draffig i alluogi fwy o geir i fynd a dod heb effeithio’n negyddol ar economi’r sir.

"Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad.”

Bydd yr ymgynghoriad yn cychwyn yn fuan, gan roi cyfle i bawb rannu eu barn cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Pynciau cysylltiedig