Holi barn am amddiffynfeydd llifogydd Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae trigolion Aberystwyth wedi eu gwahodd i ymateb i gynlluniau arfaethedig i ddatblygu strwythurau amddiffyn er mwyn lleddfu problemau llifogydd arfordirol y dref.
O storm Eunice a Dudley yn 2022, nôl i 2014 pan chwalwyd adeilad ar y prom, mae dinistr cyson wedi bod yn broblem ers cenedlaethau.
Mae lluniau archif yn dangos effeithiau storm 1938 pan achoswyd gwerth miloedd o bunnau o ddifrod gan storm anferthol.
Ers 2018, mae'r Cyngor Ceredigion wedi bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd, a nawr, trwy gydweithrediad a chwmni AtkinsRealis, wedi rhyddhau cynlluniau o'r newydd.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ymhlith y cynlluniau, mae yna fwriad i adeiladu argae o gerrig yn y môr, dod â mwy o dywod a graean i'r traeth, a gosod breichiau hir o gerrig sy'n ymestyn i'r môr er mwyn cadw'r traeth yn ei le.
Dywedodd Rhodri Llwyd, swyddog arweiniol corfforaethol priffyrdd ac amgylcheddol y cyngor, mai dyma "ddechrau'r daith" er mwyn amddiffyn y dref rhag stormydd y dyfodol.
"Ni gyd wedi gweld lluniau'r stormydd sydd wedi bwrw Aberystwyth dros y blynyddoedd neu'r degawd diwethaf, a beth sydd gyda ni 'ma nawr yw dechrau'r daith o drial adeiladu rhywbeth sy'n mynd i amddiffyn Aberystwyth yn erbyn stormydd morol ar gyfer y 100 mlynedd nesaf," meddai.
'Natur fydd oruchaf yn y diwedd'
Mae yna wahoddiad nawr i bobl fod yn rhan o gyfnod ymgynghorol, gyda'r cyngor sir a chwmni AtkinsRealis yn awyddus i ateb cwestiynau trigolion lleol.
Mewn diwrnod agored ar y prom yn Aberystwyth, roedd Brian Davies, sy'n byw 50 metr o donnau'r môr, yn gymharol hapus gyda'r cynlluniau arfaethedig.
"Dwi'n eitha' bodlon gyda'r hyn maen nhw wedi cynllunio ar gyfer y dyfodol. Does dim byd trawiadol o ran traeth y de yn enwedig," meddai.
"Bach iawn o newid sydd yno. Rhyw wal o hanner metr o uchder o flaen y tai. Fydd hynny ddim yn amharu o gwbl."
Wrth dderbyn bod yn rhaid cymryd camau serch hynny, roedd Medi James, sydd hefyd yn byw dafliad carreg o'r traeth, yn feirniadol o'r rali geir fu yn Aberystwyth dros y penwythnos, wrth ddadlau bod angen mynd i wraidd yr argyfwng hinsawdd.
"Mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud," meddai.
"Ond wedi dweud hynna, dwi'n gredwr fod natur yn gryfach na dyn, a bod rhaid i ni feddwl am ein hallyriadau carbon. Natur fydd oruchaf yn y diwedd."
Pam fod angen y cynllun?
Yn ôl Cyngor Ceredigion:
Mae tua 200 o eiddo mewn perygl o lifogydd heddiw pe bai storm un mewn 200 mlynedd yn digwydd oherwydd tonnau'n torri drosodd yn unig, a chan dybio bod y morglawdd yn aros yn gyfan;
Mae angen lleihau perygl llifogydd i eiddo masnachol a phreswyl ar hyd y promenâd ac yn y dref;
Byddai'r cynlluniau yn lleihau'r risg o ddifrod i'r promenâd a'r morglawdd;
Mae angen rhoi amddiffyniad rhag y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr/y newid yn yr hinsawdd;
Mae angen cynnal yr amddiffynfeydd a lleihau effeithiau erydu arfordirol;
Y nod yw darparu cynllun cynaliadwy i ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Mae yna bryderon ynglŷn ag effaith y datblygiad ar yr olygfa o'r prom, a rhwyddineb mynediad pobl i'r traeth.
"Yn amlwg, bydd e'n weledol wahanol," yn ôl Rhodri Llwyd o Gyngor Ceredigion.
"Beth y'n ni'n trial 'neud yw osgoi unrhyw waith ar y prom ei hunan achos mae pobl yn mwynhau defnyddio'r prom fel y mae e ar hyn o bryd.
"Ond eto maen nhw'n cydnabod bod rhaid amddiffyn y prom yn erbyn y stormydd sydd i ddod yn y dyfodol hefyd."
Gyda'r cynlluniau heb eu cadarnhau yn llawn, dydy'r cyngor sir na chwmni AtkinsRealis ddim yn barod i gyhoeddi amcan gost, ond y gred yw y bydd angen degau o filiynau o bunnau er mwyn cwblhau'r gwaith.
"Mae'r prom ac arfordir Aberystwyth yn berchen i bawb," meddai dirprwy faer y cyngor tref, Emlyn Jones.
"Mae'n bwysig i gymaint o bobl ac i drigolion y dre' felly dwi'n credu fydd gan bawb eu barn eu hunain a dwi'n credu bod e'n bwysig fod pobl yn rhoi e ymlaen.
"Roedd yna ffigyrau yn cael eu trafod y bore 'ma, rhwng 15 ac 20 (miliwn o bunnau) - oddeutu hynny - fydd wrth gwrs yn newid yn sgil chwyddiant ac yn y blaen.
"Felly beth fydd y gwir gost, 'da ni ddim yn gwybod, felly fydd e'n sicr yn gorfod bod yn rhan o drafodaethau wrth i bethau symud ymlaen."
Ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn, bydd y cyngor sir yn cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru, cyn i gais cynllunio fwy penodol gael ei gyflwyno ddiwedd 2025.
Bydd hi'n 2026 cyn i gwmni dderbyn contract ar gyfer y gwaith er mwyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023