'Neb wedi disgwyl noson gynddrwg i'r SNP'

Sara Esyllt
Disgrifiad o’r llun,

Bu Sara Esyllt yn gohebu ar yr etholiad cyffredinol o Glasgow

  • Cyhoeddwyd

Wrth i’r wawr dorri yma ger afon Clud yng nghanol Glasgow, roedd map gwleidyddol yr Alban yn edrych yn dra gwahanol - yn dipyn mwy amryliw.

Lliw melyn yr SNP sydd wedi bod yn amlwg ar fap gwleidyddol yr Alban yn San Steffan ac yn Holyrood am flynyddoedd lawer.

Roedd pobl yma yn yr Alban yn disgwyl iddi fod yn noson anodd iawn i’r blaid - ond doedd neb wedi disgwyl falle iddi fod cynddrwg â hyn.

Mae’r SNP wedi gweld eu mwyafrif yn gostwng o 48 i 9, ac mae’n deg dweud bod hynny wedi synnu’r gwleidyddion a phobl yr Alban fel ei gilydd.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Y Blaid Lafur sydd wedi elwa o drafferthion yr SNP.

Un sedd oedd ganddyn nhw wedi’r etholiad cyffredinol diwethaf ac mae eu cyfanswm bellach wedi codi i 37.

Beth sydd i gyfri am lwyddiant y Blaid Lafur felly?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban gyda Syr Keir Starmer cyn yr etholiad

Wel, roedd y galw mawr am “newid" wedi taro tant gydag etholwyr yr Alban.

Mae nifer yma’n anhapus â pherfformiad y blaid Geidwadol yn San Steffan, a nifer yn beirniadu record yr SNP yn Holyrood. Mae trafferthion diweddar yr SNP hefyd wedi chwarae eu rhan.

Mae rhai’n anhapus â beth sydd wedi ei ddisgrifio fel “arafwch” y blaid wrth geisio symud tuag at annibyniaeth, eraill yn anhapus â’r gwrthdaro mewnol dros amrywiol fesurau, ac mae trafferthion ariannol y blaid yn dal i daflu cysgod hefyd.

Rhyw bythefnos oedd yr arweinydd newydd John Swinney wedi bod wrth y llyw pan ddaeth y cyhoeddiad am etholiad hefyd ac mae’n siŵr bod hynny wedi chwarae ei ran.

Ble mae hyn yn gadael yr SNP felly, a’r ddadl dros annibyniaeth?

Pwyll pia hi?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Seneddol yr SNP John Swinney yn annerch y wasg wedi'r canlyniadau ddydd Gwener

Fe fydd angen amser i adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi digwydd cyn symud ymlaen, yn ôl yr arweinydd John Swinney.

Mae hynny’n cael ei adleisio gan arweinydd Seneddol y blaid, Stephen Flynn hefyd.

Pwyll pia hi am y tro, er bod y ddau wleidydd yn gytûn ei bod nhw’n dal yn gwbl argyhoeddedig mai sicrhau Alban annibynnol yw eu nod.

Fyddwn ni ddim yn gwbod y canlyniad terfynol yma yn yr Alban tan ddydd Sadwrn.

Mae’n andros o agos yn Inverness, Skye a West Ross-shire ac fe fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri eto yno, ond nid tan yfory.

Falle nad yw’r ddarlun yn llawn eto, ond mae’n anodd osgoi’r ffaith ei bod hi wedi bod yn noson eithriadol o anodd i’r SNP, ac yn noson lwyddianus iawn i’r blaid Lafur yma.