Cofio 50 mlynedd ers sefydlu papur bro Llais Ogwan

 Derfel Roberts, Ieuan Wyn a Dilwyn Pritchard
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o sylfaenwyr Llais Ogwan - Derfel Roberts, Ieuan Wyn a Dilwyn Pritchard

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl Dyffryn Ogwen yn dathlu hanner can mlynedd ers sefydlu eu papur bro.

Nôl yn 1974 daeth gwirfoddolwyr at ei gilydd i geisio hybu brogarwch ac annog pobl i ddarllen ac ysgrifennu'n Gymraeg.

Ar ôl sefydlu rhwydwaith o bobl oedd yn barod i ysgrifennu, golygu, hel hysbysebion a gwerthu drws i ddrws, cyhoeddwyd Llais Ogwan am y tro cyntaf ym mis Hydref 1974.

Hanner canrif - a 557 rhifyn - yn ddiweddarach, mae digwyddiadau i ddathlu’r garreg filltir yn cael eu cynnal ac mae arddangosfa i’w gweld yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Ffynhonnell y llun, BBC/Llais Ogwan
Disgrifiad o’r llun,

Tudalen flaen Llais Ogwan dros y blynyddoedd - 1975, 2012 a 2022

Un o’r rhai tu ôl i’r papur oedd Ieuan Wyn, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Ogwen, ond oedd yn athro yn Aberaeron ar ddechrau’r 70au.

Wrth fynd i gyfarfodydd y mudiad gwleidyddol Adfer a cheisio meddwl am ffyrdd i warchod ac adfywio’r fro Gymraeg daeth y syniad o sefydlu papurau bro yn bwnc trafod.

Meddai Ieuan Wyn: “Roedd papurau fel y North Wales Weekly News a’r Chronicle a’r Cambrian News - ond sut oedd cael pobl i ddod i arfer efo darllen Cymraeg, ac ella sgwennu yn y Gymraeg a chasglu newyddion a sgwennu straeon yr ardal a chwaraeon a hanes lleol?

“Ro’n i mewn cyswllt efo Derfel (Roberts) ac yn dod fyny ar benwythnosau ac roedda ni’n siarad am sut i sefydlu papur.”

'Rhan o fywyd cymunedol'

Felly daeth criw o wirfoddolwyr at ei gilydd i geisio rhoi system mewn lle i fedru creu papur bro - a phenodwyd Derfel Roberts fel y golygydd cyntaf.

“Dwi methu meddwl rŵan faint o egni oedd angen yn y dyddiau cynnar - faswn i byth yn gallu ei wneud o heddiw," meddai Derfel.

“Ro’n i newydd ddechrau gwaith newydd yn dysgu, newydd symud tŷ i Gerlan, roedd y plant yn ifanc ac felly ro’n i angen amser i’r plant a’r teulu, ac roedd 'na lot o waith caib a rhaw i’w wneud cyn i’r papur ddod allan - yn siarad efo pobl, sgwennu, rhoi’r papur at ei gilydd.

“Do’n i ddim yn meddwl am y peth, roedd o’n rhan o fywyd cymunedol, ac wrth gwrs roedd cariad at yr iaith ac eisiau i’r iaith barhau yn rhan o’r peth.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfle i bori drwy hen rifynnau yn yr arddangosfa yn Neuadd Ogwen, Bethesda

Roedd yn amser llawn bwrlwm gyda nifer o bapurau bro yn codi ar hyd a lled Cymru, gyda’r Dinesydd yng Nghaerdydd fis Ebrill 1973 yn cael ei gydnabod fel y cyntaf o’r cyfnod.

Doedd 'na ddim ffasiwn beth â chyfrifiadur nac e-bost na chamera digidol bryd hynny wrth gwrs. Roedd rhaid i'r criw sgwennu popeth efo llaw a'i roi i Miss Gwyneth Barlow (Mrs Gwyneth Williams wedi hynny) oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Bangor fel ysgrifenyddes i’w deipio.

Ar ôl derbyn y straeon yn ôl, roedd yn rhaid eu torri a’u gludo ar dempled cardfwrdd, gan adael gofod i’r lluniau - a’u cludo i’r wasg. Wedyn ar ôl derbyn popeth yn ôl o’r wasg rai dyddiau yn ddiweddarach roedd yn rhaid cael criw i’w plygu gyda llaw a’u dosbarthu.

'Pwysig i'r bobl berchnogi'r papur'

Mae Bethesda yn draddodiadol yn gryf o blaid Llafur, ac felly roedd 'na rai yn ddrwgdybus bod y papur bro Cymraeg newydd gyda chysylltiad â’r ‘Blaid Bach’. Ond o fewn dau neu dri rhifyn fe sylweddolodd pobl nad oedd gan Blaid Cymru - nac unrhyw blaid arall - unrhywbeth i’w wneud â'r papur, ac mai papur yr ardal oedd hi.

“Roedd pobl yn fodlon ac yn barod iawn i helpu a chyfrannu,” meddai Derfel.

“Ar y dechrau roedd ambell un yn dweud 'pam yda chi wedi sôn amdana ni yn y papur?', ond ar ôl ychydig ‘pam yda chi heb roi ni yn y papur’ oedd hi,” meddai Dilwyn Pritchard, oedd yn is-olygydd ar y cychwyn cyntaf.

Meddai Ieuan Wyn, wnaeth symud yn ôl i’r ardal yn 1975 i fagu ei deulu: “Wnaeth Derfel a Dilwyn roi sylfaen gadarn yn y dyddiau cyntaf - roedd hynny’n bwysig, a bod pobl Dyffryn Ogwen yn perchnogi’r papur - a bod ‘na gefnogaeth yn yr ardal.”

Disgrifiad o’r llun,

Derfel Roberts yn cael golwg manwl ar yr arddangosfa

'Cymaint o fygythiadau i'n cymunedau'

Mae’r papur yn dal i ddod allan bob mis, a’r gwerthiant dal yn iach - sy’n wahanol iawn i nifer o’r papurau lleol masnachol oedd yn ffynnu yn yr 1970au.

Dywedodd Ieuan Wyn: “Mae’n her, mae cymaint o fygythiadau gwahanol i’n cymunedau ni ond hyd yma mi rydan ni’n dal ein tir a chyn belled â bod y papur yn adlewyrchu bywydau'r bobl, yna mae o’n berthnasol iddyn nhw.

“Un peth sydd wedi newid - yn y dyddiau cynnar roedd gen ti Derfel fel golygydd, ac wedyn Dilwyn yn is-olygydd… y gwahaniaeth mawr rŵan ydi bod ganddon ni 11 golygydd, fel golygydd y mis, ac mi rydan ni’n ffodus o gael criw ifanc da.”

Ychwanegodd Derfel: “Un o’r pethau sydd wedi codi fy nghalon i ydi gweld y plant ifanc yn dod yma i weld yr arddangosfa ac yn mwynhau edrych ar yr hen bapurau a’r straeon - ac yn deud ‘taid fi ydi hwnna’ - ac efo gwir ddiddordeb.”

Ffynhonnell y llun, BBC/Llais Ogwan
Disgrifiad o’r llun,

Y rhifyn cyntaf un o Llais Ogwan - y dudalen flaen yn nodi dymchwel capel a stori am sefydlu Clwb Rygbi Bethesda, sydd hefyd yn dathlu'r hanner cant eleni

Mae hynny’n brawf yn ei hun bod rhan o hanes y dyffryn dros y 50 mlynedd diwethaf wedi ei groniclo gan Llais Ogwan. Mae hyn yn cynnwys straeon am bobl yr ardal ond hefyd straeon sy’n adlewyrchu hanes Cymru ehangach - fel y stori dudalen flaen gyntaf un am ddymchwel capel.

A beth am lwyddiannau un o'r prif resymau dros sefydlu’r papur - o hybu’r iaith?

Wrth edrych yn ôl mae’n gwestiwn sy'n anodd iawn rhoi barn arno, meddai Derfel: “Mae’n anodd ei fesur o’n wyddonol, ond mae ‘na deimlad o ‘wnaethon ni drio’n gorau’.

"Mi ryda ni wedi brwydro yn erbyn grymoedd anferth, bydeang, ac i ba raddau all diwylliant bychan mewn gwlad fechan ddal ei dir yn erbyn y math yna o ddylanwad, dwi ddim yn gwybod.”

Ychwanega Ieuan Wyn: “Dwi’n siŵr, o feddwl am yr holl ymdrech, a phob ymdrech i gefnogi’r iaith Gymraeg sydd wedi digwydd ers y 1960au, mi fyddai’n sefyllfa waeth tasa'r rheiny heb ddigwydd a’r ymdrech heb ei wneud.”