Ateb y Galw: Meurig Rees Jones
- Cyhoeddwyd
Rheolwr Lleoliadau Portmeirion yw Meurig Rees Jones.
Mae ei waith yn ymwneud â'r holl agweddau cynnal a chadw sydd ynghlwm â rhedeg y pentref hynod hwn. Dylunwyd ac adeiladwyd Portmeirion gan y pensaer Syr Clough Williams-Ellis dros gyfnod o 50 mlynedd rhwng 1925 a 1976.
Yn ogystal a'i angerdd amlwg tuag at Portmeirion, mae o wrth ei fodd gyda cherddoriaeth hefyd.
Dyma gyfle i ddod i adnabod Meurig yn well wrth iddo ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw bod ar fferm fy nain a nhaid ym Mrithdir ger Dolgellau.
Cefais fy magu yn Nhywyn, ac mae gen i atgofion arbennig o fan yna hefyd gyda fy Nhad yn athro a Mam yn gweithio yn yr ysbyty yno.
Ond pob penwythnos a gwyliau roeddwn yn aros ar y fferm. Roeddwn yn hel yr wyau a helpu Taid i hel y defaid ac edrych ar ôl y gwartheg. Dwi'n dweud 'helpu'... ond i fod yn onest, dwi'n siŵr nad oeddwn yn llawer o gymorth!
Ond roedd bod allan yn y wlad efo'r natur yn fy ysbrydoli, ac mae dal yn hyd heddiw.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Portmeirion yw fy hoff le yng Nghymru ac mae'n debyg, y byd.
Roeddwn yn ffodus iawn i gael cynnig swydd yma yn 2004, a wir wedi mwynhau fy amser yma. Mae gen i atgofion o ddod yma gyda fy rhieni yn y 70au cynnar, a hefyd canu yma yn y côr ysgol.
Mae'r ffaith fod Syr Clough Williams-Ellis, y pensaer enwog wedi cael syniad i adeiladu pentref dros gyfnod o hanner can mlynedd, fel ei fod yn hwyl ac yn gweithio gyda natur yn fy ngwir ysbrydoli.
Nid wyf erioed wedi teimlo fy mod i ddim eisiau dod i'r gwaith, ac yn teimlo'n ddiolchgar bod yna amrywiaeth mawr yn fy swydd. Nid oes dau ddiwrnod yr un peth.
Dwi wir yn edrych ymlaen at ddathliadau canmlwyddiant Portmeirion flwyddyn nesaf.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Y noson wna i fyth anghofio yw nos Wener 14 o Fedi 2012. Hwn oedd noson gyntaf Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion.
Nid oedd Syr Clough eisio Portmeirion fod yn amgueddfa, ond yn hytrach cael ei ddefnyddio i ysbrydoli pobl.
Felly ar ôl cael cyngherddau bach gyda Rhys Ifans (The Peth yn 2008) a Steve Harley a Cockney Rebel (yn 2010), ddaru'r penderfyniad gael ei wneud i weld os bysa hi'n bosib cael gŵyl yma.
Roedd gwaith o drefnu gŵyl mewn ac o gwmpas yr atyniad poblogaidd yn andros o waith, ddaru gymryd bron iawn dwy flynedd, a'r noson yma oedd canlyniad yr holl waith yma.
Wrth weld y gynulleidfa yn cyrraedd ar y prynhawn y diwrnod yma, 'roeddwn yn teimlo'n nerfus iawn, ond roedd gweld eu hwynebau'n hapus yn gadael yn deimlad wna i fyth anghofio. Noson gofiadwy iawn.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Hapus. Parchus. Direidus.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Rwyf wedi bod yn hoff iawn o The Jam ers eu clywed nhw yn 1977. Roedd diwedd y 70au yn amser anhygoel i fod yn yr ysgol, ac roedd y gerddoriaeth bryd hynny yn gyffrous ac yn "siarad" yn syth i ddyn ifanc fel fi.
Yn 2007 fe ddaru dau o aelodau The Jam, Bruce Foxton a Rick Buckler, ddod yn ôl at ei gilydd a theithio fel "From The Jam".
Es i'w gweld nhw nifer fawr o weithiau, ac wrth siarad gyda Rick y drymar, roeddwn wedi synnu clywed ei fod yn hoff iawn o The Prisoner - y gyfres o'r 60au gafodd ei ffilmio ym Mhortmeirion wrth gwrs. Felly gofynnais iddo a roeddwn yn medru dod â rhywbeth o'r pentref iddo. Dywedodd y bysa wrth ei fodd cael crys-t o'r gyfres.
Roedd noson ola'r daith yn Brighton... 25 mlynedd ers noson ola The Jam yn yr un adeilad.
Cysylltais gyda Rick i ddweud fod gen i grysau-t iddo, a daeth yn ôl i ddweud wrthyf am ddod i ddrws cefn yr adeilad.
Nid oedd yna "ddrws" cefn, ond ardal lle mae'r lorïau yn mynd â'r offer sain ayyb, a phwy oedd yn sefyll ar ben y platfform yn aros amdanaf oedd Rick! "Dewch" medda fo, "dewch i wrando ar y soundcheck"!
Felly, y digwyddiad sy'n gwneud i fi wenu wrth feddwl amdano yw'r prynhawn y cefais fy smyglo i mewn gan aelod o The Jam i wrando ar y band yn ymarfer yn The Brighton Centre.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Un dwi dal yn cael fy atgoffa amdano bob blwyddyn yw'r un ar 9 o Hydref 2003. Penderfynais fynd i Ddulyn am benwythnos i weld un o fy hoff fandiau The Undertones, gan anghofio mai'r penwythnos yma oedd penwythnos pen-blwydd Magi - fy mhartner ers dros 35 mlynedd. Wna i fyth glywed diwedd i'r cywilydd yma!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Y tro olaf y gwelais i Magi yn dod allan o Marks & Spencer (neu ryw archfarchnad enfawr) gyda llond troli o nwyddau... ar ôl i fi rhoi fy ngherdyn banc iddi hi!
Na, Nadolig diwethaf. Cefais Nadoligau arbennig pan oeddwn yn ifanc, gyda fy Mam a Nhad, Nin a Taid ar y fferm. Amser teuluol anhygoel. Rwyf wir yn methu hyn, a nhw, yn enwedig dros y Nadolig.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes! Cysgu o flaen y teledu fin nos! Rwy'n gorfod recordio popeth dwi'n dechrau edrych arnynt ar ôl 10yh oherwydd mae 'na siawns uchel y bydda i'n cysgu cyn y diwedd. Weithiau dwi'n deffro, mynd â'r ffilm yn ôl hanner awr i weld y diwedd... a chysgu eto!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Y llyfr cyntaf dwi'n cofio darllen a meddwl bod yr awdur yn anhygoel oedd Pet Sematary gan Stephen King. Roedd sut yr oedd yn medru creu lluniau mor frawychus gyda geiriau yn agoriad llygaid i fi.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
A, dyma gwestiwn! Mae gen i ddau berson y byswn wrth fy modd cael diod efo nhw - David Bowie a George Harrison!
David Bowie, oherwydd ei fod yn dipyn o arwr i fi. Nid oedd yn ofn newid ei ddelwedd gymaint trwy gydol ei yrfa. Nid oes llawer o artistiaid sydd wedi creu cerddoriaeth newydd poblogaidd rhwng y 60au a 2016 pan fu farw. Nid oedd yn ofn creu "mwgwd" neu "gymeriad" newydd am bron iawn pob un o'i 26 o recordiau hir a 128 o senglau. Hoffwn ofyn iddo sut roedd yn meddwl am "y peth nesaf" mor aml trwy ei oes.
George Harrison. Mae gan Bortmeirion gyswllt hir efo The Beatles oherwydd roedd gan Brian Epstein, eu rheolwr, fwthyn yma. O'r pedwar aelod, George ddaeth yma yn fwy na'r gweddill. Dwi'n credu ei fod wir yn deall syniadau Syr Clough o greu rhywle lle bysa pobl creadigol yn cael eu hysbrydoli.
Fe ddaru George hyd yn oed benderfynu dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant yma yn 1993. Hoffwn ofyn iddo beth oedd ei hoff beth am y pentref.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ella bod pobl yn gwybod ond dwi'n hoff iawn o gasglu recordiau, ac erbyn hyn mae'r casgliad yn dros 11,000 (roeddwn yn gorfod symud tŷ i'w cadw nhw)!
Nid oes llawer o bobl yn gwybod fy mod, yn y 70au hwyr a'r 80au cynnar, yn chwarae drymiau mewn band gyda fy ffrindiau ysgol John Galbraith a Martin Lewis.
Ein henw cyntaf oedd The Infected Tonsils (roedd hi'n ddyddiau punk cofiwch), ond roedd hi'n anodd cael cyngherddau gyda'r enw yna, felly ddaru ni newid i The Innocent Bystanders a ddaru ni chwarae yn yr Almaen yn 1980!
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Byswn wrth fy modd yn cael gwledd anferth gyda fy ffrindiau a theulu, a wedyn mynd i weld cyngerdd. Rwy'n hoff iawn o gerddoriaeth byw, ac mae'n bwysig cadw lleoliadau bach sy'n rhoi cerddoriaeth ymlaen ar agor.
Ni fysa unrhyw un o'r cantorion enwog heddiw sy'n chwarae mewn arenâu mawr wedi dechrau heb chwarae yn y clybiau bach yn gyntaf.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Mae yna dri llun sy'n bwysig i fi am resymau hollol wahanol.
Y cyntaf ydi llun fi a fy Mam ar y fferm yn yr eira, Nadolig 1964. Llun sy'n dod ag atgofion melys o fy mhlentyndod.
Yr ail un ydi fi ar y fferm wedi gwisgo yn fy nillad gorau tua 1966.
Y trydydd yw llun fi gyda Paul Weller. The Jam oedd y band cyntaf ddaru ysbrydoli fy nghariad at fiwsig, ac mae Paul wedi bod yn arwr i fi trwy ei oes.
Maen nhw'n dweud peidiwch â chwrdd eich arwyr. Ond NA... os daw'r cyfle, 'dan ni dim ond ar y byd yma am amser byr, ewch amdani!
Rwyf wedi cwrdd â Paul nifer o weithiau erbyn heddiw, ac un o fy atgofion pwysicaf oedd ar ôl i fi siarad gydag ef am y pentref a The Prisoner pan ddaeth yma i chwarae yn Gŵyl Rhif 6 gyda Noel Gallagher yn 2016.
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Byswn wrth fy modd yn cael bod yn Rhys Mwyn am ddiwrnod.
Mae Rhys yn ffrind ac yn arwr i fi ers ei ddyddiau yn Yr Anhrefn.
Erbyn heddiw mae'n hanesydd archeoleg arbennig, teithiwr tywys ac mae ei sioe ar BBC Radio Cymru pob nos Lun yn un o'r rhaglenni gorau yn y byd yn fy marn i!
Felly, byswn wrth fy modd mynd â grŵp o gerddwyr i weld a dweud hanes Bryn Cader Faner iddyn nhw, cyn cael dwy awr o chwarae tiwniau arbennig fin nos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 Ionawr