Dau berson ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Wrecsam

New BroughtonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ffordd rhwng lôn Coed Efa a Dale Road yn New Broughton ar gau tan fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu'r gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i ddau berson ifanc farw mewn gwrthdrawiad beic modur yn Wrecsam nos Wener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad ar Ffordd Wrecsam, New Broughton toc cyn 23:00.

Roedd y ddau berson, 18 ac 19 oed, yn teithio ar Honda 125cc melyn. Bu farw'r ddau ar ôl cael eu cludo i'r ysbyty yn Wrecsam.

Roedd y ffordd rhwng lôn Coed Efa a Dale Road ar gau tan fore Sadwrn.

Gan gydymdeimlo â theulu'r ddau fu farw, mae'r llu'n apelio am wybodaeth neu luniau gan unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd o gwmpas adeg y gwrthdrawiad.

Mae'r Sarjant Liam Morris o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol hefyd wedi "diolch i'r rhai a stopiodd i helpu ac i yrwyr am eu hamynedd tra bo'r ffordd ar gau".

Pynciau cysylltiedig