Wenglish, Gareth Bale a phidyn y ddraig: Deisebau difyr y Senedd

Deisebau gwallgof
  • Cyhoeddwyd

Gall unrhyw un sydd â chyfeiriad yng Nghymru gyflwyno deiseb i Senedd Cymru, os oes gennych chi fater yr hoffech ei godi neu newid yr hoffech ei weld.

Os oes deiseb yn derbyn mwy na 250 o lofnodion, mae'n cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

Gall rhai sy'n derbyn dros 10,000 o lofnodion ddod yn destun dadl yn y Siambr.

Dyma rai o ddeisebau difyr sydd wedi cael eu cyflwyno dros y blynyddoedd:

Baneri

Y ddraig gochFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ambell i ddeiseb wedi ei chyflwyno ynglŷn â'n baner dros y blynyddoedd. Roedd un yn galw ar faner Jac yr Undeb i gynnwys y ddraig goch, a deiseb arall eisiau sicrhau fod baner Jac yr Undeb ddim yn cwhwfan yn unlle yng Nghymru.

Ond un ddeiseb nodedig arall - a gafodd ei lofnodi gan 1,104 o bobl - oedd un yn 'mynnu bod pob darluniad o'n draig yn cynnwys pidyn'. Bwriad hyn fyddai i gyfleu ein 'goruchafiaeth ac arweinyddiaeth' fel cenedl.

Trafnidiaeth

Ynghyd â nifer o ddeisebau oedd yn galw ar welliannau i'r ffordd sy'n cysylltu'r gogledd a'r de, roedd hefyd galw ar gynllun i adeiladu trydedd pont dros y Fenai, i gysylltu Ynys Môn â'r tir mawr, a'i galw'n Pont Bendigeidfran.

Cynllun Pont Bendigeidfran
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun Pont Bendigeidfran, gyda'r cawr yn codi o'r Fenai i gario'r bont

O ran trafnidiaeth gyhoeddus, roedd galw ar y 'bendy buses' i ddychwelyd i Gymru, oherwydd fod teithio arnyn nhw wedi bod yn 'brofiad mor llawen'.

Ac roedd deiseb arall eisiau i drenau'r canolbarth gael eu paentio i edrych fel lindys, er mwyn 'rhoi hwb i dwristiaeth'.

Enwau

Mae nifer o ddeisebau yn galw ar newid enwau lleoliadau er teyrnged i Gymry nodedig.

Beth am Bont Gareth Bale, yn hytrach na Phont Tywysog Cymru? Neu ail-enwi Pont Britannia yn Bont Rhun ap Iorwerth?

Roedd un ddeiseb eisiau bod yn gallu hedfan o Gaerdydd o Faes Awyr Rhyngwladol Howard Marks, a ddaeth yn enw adnabyddus am smyglo cyffuriau'n rhyngwladol...

Howard MarksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fyddai'r smygliwr cyffuriau, Howard Marks, wedi hoffi cael maes awyr wedi ei enwi ar ei ôl tybed?

Roedd deiseb arall eisiau caniatâd i alw Saeson yn 'B*stards'. Cafodd y ddeiseb ei gwrthod gan ei fod yn ymwneud â rhywbeth nad yw'r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Iaith

Edrych i ddatblygu a diweddaru'r Gymraeg gyda'r amser oedd pwrpas un ddeiseb, oedd yn awyddus i 'ŵ' gael ei mabwysiadu fel rhagenw rhywedd niwtral.

Roedd un ddeiseb yn awyddus i Wenglish gael ei hystyried yn iaith swyddogol gydnabyddedig yng Nghymru, ochr-yn-ochr â'r Gymraeg, fel y mae'r Sgoteg yn Yr Alban.

Ar y llaw arall, roedd deiseb arall eisiau diddymu'r defnydd o'r Gymraeg yn gyfangwbl o fewn y sector gyhoeddus. Cafodd 12 llofnod.

Masgots bathodyn CymraegFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa roedd 12 person ddim eisiau ei gweld

Deddfwriaeth

Mae nifer o ddeisebau wedi bod sydd yn galw ar newidiadau i ddeddfwriaethau a pholisïau llywodraethol. Roedd deisebau mor amrywiol â chynnal refferendwm ar y gosb eithaf, rhoi caniatâd i bobl ifanc 14 oed gael trwydded yrru, a chau'r Senedd yn gyfan gwbl.

Mae yna nifer fawr o ddeisebau wedi galw ar ddiswyddo nifer o'r Aelodau neu Weinidogion dros y blynyddoedd, ond roedd un ddeiseb ddim yn meddwl fod diswyddo yn ddigon o 'gosb' i Andrew RT Davies a David TC Davies, ac yn hytrach, yn galw arnyn nhw i gael eu halltudio i Rwanda.

Cafwyd deiseb oedd yn gofyn i'r Senedd roi stop ar wrthod deisebau dilys. Cafodd y ddeiseb ei gwrthod.

Pynciau cysylltiedig