Poeri, pwnio, cicio: Trais yn erbyn athrawon yn 'echrydus'
- Cyhoeddwyd
Mae trais yn y dosbarth yn “broblem echrydus”, yn ôl un undeb addysg, yn sgil data sy’n awgrymu bod miloedd o achosion o ymddygiad ymosodol wedi’u cofnodi gan awdurdodau lleol.
Yn ôl undeb NASUWT, mae’r system gofnodi yn ddiffygiol a gallai nifer yr achosion fod llawer yn uwch.
Mae’r data gafodd ei gasglu gan y Ceidwadwyr Cymreig yn awgrymu bod o leiaf 5,000 achos o drais gan ddysgwyr yn erbyn staff ysgol wedi eu cofnodi dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Maen nhw wedi galw am linell gymorth genedlaethol i staff a chanllaw newydd ar gasglu data.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod unrhyw drais yn erbyn staff yn “gwbl annerbyniol”, tra bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod cynghorau’n gefnogol o’u holl staff.
'Rhoi gwallt athrawon ar dân'
Dywedodd un athro sy’n gweithio mewn ysgol arbennig yng Nghymru, ac oedd am aros yn ddienw, ei fod wedi delio ag ymddygiad treisgar.
“Mae rhywun wedi ymosod arna i sawl gwaith,” meddai. “Poeri, pwnio, penio, cicio, cnoi.
“Mae gwallt cyd-weithwyr wedi cael ei roi ar dân.
“Mae disgyblion wedi ymosod yn dreisgar ar staff. Nid bwrw unwaith, ond dro ar ôl tro.
“Wnaiff pob rheolwr ddim cydnabod beth sy’n digwydd yn ei ysgol.”
Mae’n dweud bod effaith y digwyddiadau yma hyd yn oed yn waeth "pan nad ydych yn teimlo bod eich rheolwyr yn eich cefnogi".
Tra’n cydnabod bod y rhesymau dros ymddygiad treisgar yn gymhleth, dywedodd bod oedi cyn cael asesiadau a thriniaeth i bobl ifanc yn rhan o’r broblem.
Mae’r athro’n credu bod dylanwad y cyfryngau cymdeithasol, a blinder ar ôl aros ar ddihun drwy’r nos ar ffonau symudol, yn ffactor hefyd.
Dywedodd bod cyd-weithwyr mewn ysgolion cynradd ac uwchradd wedi cael profiadau tebyg.
Ychwanegodd na ddylai gweithio gyda phlant â heriau ymddygiad mewn ysgol arbennig olygu bod rhaid dod i'r arfer ag ymosodiadau.
'Llawer gwaeth mewn gwirionedd'
Dangosodd ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig bod o leiaf 5,000 o achosion o drais yn erbyn staff wedi’u cofnodi rhwng 2018 a 2022.
Mae rhai cynghorau’n cynnwys data am achosion mewn ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion, tra bod eraill ddim yn rhoi manylion.
Dywedodd nifer o awdurdodau lleol eu bod ond wedi darparu data am ymosodiadau corfforol, ond doedd hi ddim yn eglur a oedd eraill wedi cynnwys ymosodiadau geiriol hefyd.
O’r cynghorau wnaeth ymateb, dywedodd tri – Sir y Fflint, Torfaen a Sir Benfro – nad oedden nhw’n cadw data am drais yn erbyn staff, ond y dylai neu y gallai ysgolion gael y wybodaeth.
Darparodd rai cynghorau wybodaeth fanwl am y math o drais ar athrawon, a ble y digwyddodd.
Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones ei fod yn “argyfwng cudd” a galwodd am gynllun pum pwynt i daclo trais yn y dosbarth.
“I wneud y sefyllfa’n waeth yng Nghymru, does gennym ni ddim safonau o ran cofnodi a dim gofyniad i adrodd cam-drin na thrais yn y dosbarth,” meddai’r Aelod o’r Senedd.
“Mae’r darlun go iawn yn siŵr o fod lawer, lawer gwaeth mewn gwirionedd.”
Cofnodi digwyddiadau yn 'llanast'
Mae’r cynllun yn galw am uwch-gynhadledd ar drais, cyllid ychwanegol i gefnogi’r dioddefwyr a’r troseddwyr, a llinell gymorth genedlaethol i staff adrodd ar drais ac aflonyddu.
Yn ôl undeb athrawon NASUWT mae lefel y trais yn erbyn athrawon yn gwaethygu, a gallai’r pandemig fod wedi dylanwadu ar ymddygiad plant.
“Yn sicr 'efo'r data ‘dan ni'n ei gasglu mae 'na gynnydd wedi bod ers y clo mawr,” meddai Siôn Amlyn, swyddog achos a pholisïau’r undeb.
“Mae'n aelodau ni flwyddyn ar ôl blwyddyn yn adrodd wrthan ni bod trais yn yr ysgol yn bodoli a bod o'n gwaethygu, yn arbennig ar ôl y pandemig.
“Yn sicr dros y tair bedair mlynedd ddwytha mae trais disgyblion neu gamymddwyn difrifol wastad yn un o'r tri peth ucha’ mae'n aelodau ni'n adrodd - hynny hefo llwyth gwaith a chyflog.
“Ond yn amlwg o'r ffigyrau hyn mae o'n broblem echrydus sy'n dal i fodoli.”
Problem arall, yn ôl yr undeb, yw nad oes digon o gefnogaeth i staff a bod mwy o bobl am adael y proffesiwn oherwydd y problemau.
“Ddylia [trais] byth fod yn rhan o'r swydd,” meddai Siôn Amlyn.
“Rhaid i chi gael chwarae teg ar gyfer y dysgwyr hefyd. Ddylsa nhw ddim bod yn y sefyllfa yma.
“Mae angen mwy o gefnogaeth arbenigol beth bynnag sector 'dach chi'n sôn am. ‘Di trais ddim i fod yn norm mewn unrhyw swydd.
"Os oes 'na debygolrwydd bod mwy am ddigwydd, mae angen rhoi camau yn eu lle i sicrhau fod o ddim yn digwydd. Asesiad risg er enghraifft.”
Yn ôl yr undeb mae’r ffordd mae’r achosion o drais yn cael eu cofnodi yn “llanast”.
“Un peth ‘dan ni'n ofyn amdano fel undeb ydy bod yna gysondeb ar sut mae'r digwyddiadau yma'n cael eu cofnodi,” ychwanegodd Sion Amlyn.
“Dylsa bod system cyson ar draws y wlad i gofnodi'r digwyddiadau hyn, fel bod y llywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu dod i fyny hefo cynllun i daclo'r problemau hyn.
“Isafswm ydy o mwy na thebyg, oherwydd un ai bod 'na ddiffyg cofnodi neu bod 'na amrywiaeth yn faint sy'n cael eu cofnodi.
"Efallai mai dim ond y rhai difrifol sy'n cael eu cofnodi a bod y rhai llai difrifol ddim.”
Dywedodd gweinidog addysg Cymru, Jeremy Miles, wrth BBC Cymru ei bod yn "gwbl annerbyniol fod yna unrhyw fath o drais na fygythiad geiriol yn erbyn athrawon neu staff mewn unrhyw ysgol yng Nghymru".
"Fe ddylai bod ysgol yn gallu sicrhau awyrgylch diogel a chroesawgar i ddisgyblion ac athrawon. Felly mae'n amlwg fod yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol a'r ysgolion eu hunain i sicrhau fod ysgolion yn llefydd diogel i bawb."
Ychwanegodd: "Fe wnes i gwrdd ag undebau athrawon ac undebau eraill yn y maes addysg tua 10 diwrnod yn ôl fel ein bod yn gallu canolbwyntio ar ddau beth yn benodol.
"Un oedd maint y broblem. Yn amlwg mae hynny'n bwysig i ni ddeall ac felly ymateb. Ac yn ail, mae'n rhaid i ni wybod beth yw'r ffactorau y tu cefn i hyn."
Staff 'dan bwysau mawr'
Yn gynharach eleni, fe ysgrifennodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd at y Gweinidog Addysg yn codi pryderon am dystiolaeth a gawson nhw gan gynghorau ac undebau.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi dweud wrth y pwyllgor bod awdurdodau lleol wedi gweld cynnydd yn nifer y plant gafodd eu diarddel dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Roedd cyfran fawr o’r rheiny yn gysylltiedig ag ymosodiadau geiriol a chorfforol gan blant ar athrawon.
Wrth ymateb i’r data dywedodd y gymdeithas bod athrawon a staff ysgolion “dan bwysau mawr”.
“Rydym yn deall pwysigrwydd delio â’r materion yma’n brydlon ac effeithiol i sicrhau awyrgylch gwaith positif, ac fe fyddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i’w datrys,” meddai llefarydd.