Ymchwiliad heddlu i honiadau o dreuliau ffug gan AS
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i Aelod o’r Senedd gan Heddlu’r De a chorff safonau’r Senedd, yn dilyn honiadau o wneud ceisiadau treuliau ffug.
Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth gan y Comisiynydd Safonau, a’u bod nhw’n ymchwilio.
Mae BBC Cymru yn deall bod y wybodaeth yn ymwneud â chwyn am Laura Anne Jones AS, wedi i negeseuon ddod i’r fei sy'n ymddangos yn awgrymu bod cyn-aelod o staff wedi cael cyfarwyddyd i hawlio costau teithio oedd heb ddigwydd, ar ran Ms Jones.
Dywedodd Laura Anne Jones, llefarydd y Ceidwadwyr ar Ddiwylliant, y bydd hi’n cydweithio ag “unrhyw ymchwiliad”.
Mae uwch ffynhonnell o fewn y Ceidwadwyr yn dweud bod ymchwiliad mewnol ar y gweill, ond nad yw’r chwip wedi ei gymryd oddi wrth Ms Jones.
Cyfrifoldeb y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, yw i ymchwilio’n annibynnol i gwynion am ymddygiad Aelodau o'r Senedd.
Mae’r BBC ar ddeall bod negeseuon wedi dod i’r fei fel rhan o gŵyn i’r Comisiynydd Safonau gan gyn-aelod o staff Laura Anne Jones - negeseuon sy'n ymwneud â chyhuddiadau o fwlio honedig yn erbyn aelod arall o staff swyddfa.
Bellach mae’n debyg bod ymchwiliad y Comisiynydd Safonau wedi ei oedi tra bod ymchwiliad yr heddlu’n digwydd, ac mae’r heddlu wedi siarad ag o leiaf un aelod o staff y Ceidwadwyr fel rhan o’u hymchwiliad.
'Cydweithio'n llawn'
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod hon yn “broses gyfrinachol rhwng y Comisiynydd Safonau a’r aelod”.
Mewn datganiad, dywedodd Laura Anne Jones: “Bydden i’n cydweithio’n llawn gydag unrhyw ymchwiliad i fy ngwaith fel Aelod o'r Senedd, fel y byddai disgwyl i unrhyw Aelod wneud.
“Mae’r broses safonau yn gyfrinachol, a bydden i’n disgwyl i eraill beidio gwneud sylwadau parhaus amdani, rhag peri risg i hygrededd y broses.”
Nid yw Heddlu’r De wedi cadarnhau eu hymchwiliad am nad ydyn nhw’n ymateb i geisiadau yn ymwneud ag “unigolion penodol”.
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod yn bryderus am yr honiadau ond nad oedd wedi derbyn cwyn, ac felly bod gan Ms Jones ei gefnogaeth.
“Byddai unrhyw honiad o'r natur yna'n pryderu'r cyhoedd, nid dim ond gwleidyddion, ond mae'r aelod wedi rhoi datganiad,” meddai.
“Mae'r broses honno'n parhau fel dwi'n deall o adroddiadau yn y cyfryngau heddiw, ond dydyn ni fel grwp heb dderbyn cwyn gan unrhyw unigolyn, a dydw i fel arweinydd heb dderbyn cwyn.”